Drakeford a Gething i wynebu ymchwiliad Covid y DU
- Cyhoeddwyd
Bydd y prif weinidog a'r cyn-weinidog iechyd yn cael eu holi am ba mor dda oedd Cymru wedi paratoi ar gyfer Covid-19, wrth iddyn nhw wynebu ymchwiliad cyhoeddus ddydd Mawrth.
Bydd Mark Drakeford a Vaughan Gething, a fu'n weinidog iechyd am bum mlynedd tan Mai 2021, yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus y DU yn Llundain.
Bydd arbenigwr ar bandemigau o Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cael ei holi.
Mae'r cam yma o'r ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar gynllunio ar gyfer y pandemig.
Y nod ydy cwestiynu penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar bob lefel o'r llywodraeth yn ymwneud 芒 chynllunio, gan edrych ar ba wersi all gael eu dysgu.
Roedd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, a chyn-bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Andrew Goodall yn wynebu'r ymchwiliad ddydd Llun.
Dywedodd Syr Frank ar "lefel swyddogol bod llawer o waith wedi'i wneud o ran paratoi", ond nad oedd fawr o drafodaeth wedi bod ar ddelio gyda chlefydau heintus ar wah芒n i'r ffliw.
"O edrych yn 么l a gweld be' ddigwyddodd fe allen fod wedi, a dylen fod wedi, rhoi mwy o sylw i gwestiynau 'beth petai... beth petai'r firws yn wahanol?'," dywedodd wrth yr ymchwiliad.
"Ar y pryd, rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod mesurau wedi cael eu hystyried ond wedi cael eu diystyru yn rhy gynnar."
Dywedodd hefyd bod y gwaith o baratoi at y pandemig yng Nghymru wedi'i oedi oherwydd y gwaith paratoi at Brexit heb gytundeb.
Dywedodd Dr Goodall na weithredwyd pob un o argymhellion y grwpiau a oedd yn canolbwyntio ar bandemig ffliw, oherwydd y bydden nhw wedi cymryd yn rhy hir.
"Cawson nhw dasg ond ni wnaethon nhw ei orffen?" gofynnodd y Farwnes Hallett, cadeirydd yr ymholiad.
"Ie, ni wnaethon nhw orffen y dasg," atebodd Dr Goodall.
Ar ddechrau'r pandemig dywedodd Syr Frank fod ei swyddfa yn "boddi mewn m么r o wybodaeth".
Cyfaddefodd nad oedd gan ei swyddfa digon o adnoddau a bod pethau wedi symud "yn gyflym iawn" a "doedden ni ddim hyd yn oed yn medru delio gydag e-byst".
Ni fydd yr ymchwiliad yn edrych ar sut wnaeth Cymru ymateb i'r pandemig tan i sesiynau cael eu cynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i'r gwrandawiadau bara hyd at haf 2026.
Beth yw'r ystadegau?
Yn ystod ton gyntaf y pandemig yn Ebrill 2020 roedd 70 o farwolaethau dyddiol 芒 Covid fel y prif achos;
Roedd dros 2,200 o farwolaethau o ganlyniad i Covid yng Nghymru yn nhri mis cyntaf y pandemig (15 Mawrth i 15 Mehefin 2020);
Roedd marwolaethau'n ymwneud 芒 Covid mewn cartrefi gofal ar eu huchaf yn wythnos 24 Ebrill, gyda 125 marwolaeth;
Mae cyfradd marwolaethau Covid yn ystod y pandemig yn debyg iawn yng Nghymru a Lloegr, ond mae'r gyfradd hynny'n uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Galw am ymchwiliad i Gymru
Mae'r ddwy brif wrthblaid yng Nghymru wedi ailadrodd galwadau am ymchwiliad annibynnol yn benodol i Gymru.
Dyma'r alwad hefyd gan gr诺p Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn gobeithio y bydd Mr Drakeford a Mr Gething yn ateb cwestiynau ymchwiliad y DU yn llawn, ond mai ymchwiliad Cymreig yn unig allai ddarparu "craffu priodol" o benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
"Mae Llafur wedi chwalu GIG Cymru am 25 mlynedd ac wedi bod yn gyfrifol am ein parodrwydd ar gyfer pandemig, ac mae'n amser i deuluoedd sy'n galaru dderbyn yr atebion maen nhw'n eu haeddu," meddai.
Dywedodd llefarydd iechyd newydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, na fyddai'r ymholiad yn craffu'n ddigonol i benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru, ac y byddai cwestiynau'n parhau heb eu hateb.
"Gall llywodraeth Lafur Cymru dal newid eu meddwl a rhoi i'r teuluoedd sy'n galaru yr hyn maen nhw'n ei haeddu - ymchwiliad Covid Cymreig llawn, fel ein bod yn gallu dysgu sut i baratoi ar gyfer y pandemig nesaf," dywedodd.
'Effaith enfawr ar fywydau'
Un o'r rheiny fydd yn cadw llygad ar y datblygiadau yw Gareth Evans o Gwmbr芒n, sydd wedi dioddef o effeithiau Covid hir ers cael yr afiechyd yn ystod ton gyntaf y pandemig ym mis Ebrill 2020.
Dyw dal ddim "wedi adfer 100%", meddai, gan ddweud bod yr effaith ar ei fywyd "yn enfawr".
"Ar y pryd do'n i ddim yn gallu gweithio, ddim yn gallu gwneud ymarfer corff," meddai wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.
"Hyd yn oed pethau syml fel golchi llestri neu mynd i'r gawod - roedd rhaid i fi orwedd lawr wedyn. Roedd e'n ofnadwy."
Daeth Mr Evans o hyd i grwpiau cymorth ar-lein gyda phobl eraill oedd yn mynd drwy sefyllfa debyg, ond mae'n teimlo nad oes digon o gymorth ar y GIG i'r rheiny sy'n dioddef o Covid hir.
"Hoffwn i weld clinig arbenigol yma yng Nghymru, fel yn Lloegr," meddai.
"Byddai'n help mawr i bobl, dwi'n meddwl, i gael yr holl brofion i helpu pobl gyda'u peace of mind."
Mae Mr Evans yn awyddus i weld a fydd yr ymchwiliad Covid felly'n tynnu sylw at unrhyw wersi sydd angen eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
"Yn fy marn i roedd rhaid paratoi ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn - roedd yr effaith ar ein bywydau yn enfawr," meddai.
"Dwi'n gobeithio bod pethau'n well yn y dyfodol yn bendant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023