´óÏó´«Ã½

Pwyllgorau Senedd Cymru: Dim ond 8% o gyfraniadau yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Siambe y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

30% o gyfraniadau yn siambr y Senedd oedd yn Gymraeg, yr un lefel â 2021-22

Mae canran y cyfraniadau yn Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau Senedd Cymru wedi gostwng i 8% yn 2022-23.

Mae hynny'n cymharu â 12% yn 2021-22.

Dywedodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - bod y gostyngiad yn destun "siom a phryder, ac mae angen cymryd camau i sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan mewn pwyllgorau, boed yn Aelodau neu eraill yn ymwybodol o'u hawl i ddefnyddio'u dewis iaith mewn trafodion".

Mae canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn - yn siambr y Senedd - eleni wedi parhau ar yr un lefel, sef 30%.

'Ymwybyddiaeth ac anogaeth'

Dywedodd Comisiwn y Senedd y bydd yn edrych yn benodol ar sut i hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau "gan gynnwys ymwybyddiaeth ac anogaeth o du'r cadeirydd a thîm y pwyllgor".

"Yn ogystal, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg sy'n bodoli eisoes ac yn sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg sy'n ymddangos ac yn esblygu ar hyn o bryd, gan ymrwymo i wneud defnydd arloesol a chyfrifol o'r technolegau hynny."

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweinidogion yr economi ac addysg o flaen pwyllgor fore Mercher

Dywed y comisiwn bod nifer o faterion yn effeithio ar ganran y cyfraniadau gan gynnwys dewis iaith tystion sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau, a natur llai strwythuredig y trafodaethau mewn cyfarfodydd pwyllgor.

Gall Aelodau dderbyn cefnogaeth yn eu dewis iaith wrth baratoi ar gyfer trafodion pwyllgor, gan gynnwys dogfennau briffio.

Mae gan bwyllgorau'r Senedd - 16 ohonynt ar hyn o bryd - nifer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig.

'Chwilio am gyfleoedd i wella'

Y comisiynydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol o fewn y Senedd dros y flwyddyn ddiwethaf oedd Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd: "Rydym yn falch iawn o'n llwyddiannau ac o'n henw da fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, ac mae'n bwysig ein bod yn rhannu hynny pan fo'n bosibl, tra ein bod ar yr un pryd yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wella."

Gan fod Rhun ap Iorwerth erbyn hyn yn arweinydd Plaid Cymru, mae wedi gorfod rhoi'r gorau i'w rôl fel comisiynydd.

Mae Adam Price wedi ei gadarnhau fel comisiynydd yn ei le.

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd (2021-26) ei gymeradwyo gan y Senedd mewn cyfarfod llawn ym mis Medi 2022, ac mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd gynnwys gwybodaeth ystadegol yn ei ar y cynllun.

Ymhlith yr ystadegau, nodir bod cynnydd o 82% yn nifer y dysgwyr Cymraeg rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2023, sef 15 Aelod, 34 staff cymorth ASau, a 95 o staff y comisiwn.

"Mae dwyieithrwydd yn norm o fewn y Senedd, ac mae cynnal ein henw da o ran hynny yn bwysig iawn. Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd o sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf ac yn bodloni anghenion a disgwyliadau Aelodau o'r Senedd, eu staff cymorth a phobl Cymru," medd yr adroddiad.

Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.

Tra bod cyfraniadau Aelodau o'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer cofnod y Senedd, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.​