Pedwar peth i wella eich lles digidol
- Cyhoeddwyd
Rydych chi'n darllen yr erthygl yma ar eich ffôn, dabled neu gyfrifiadur - adnodd sydd yn mynd yn fwy-fwy pwysig i bawb bob dydd.
Ond ochr-yn-ochr â'r manteision sy'n deillio o dechnoleg, mae yna agweddau gwael hefyd, fel trafferthion iechyd meddwl.
Mae Cassie Widders, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, yn gweithio fel ymgynghorydd lles digidol, ac yn ceisio helpu pobl i ddefnyddio technoleg mewn ffordd sy'n effeithio'n gadarnhaol ar eu bywydau nhw.
Sgrolio a sgrolio...
Mae nifer ohonom yn defnyddio technoleg yn rheolaidd iawn y dyddiau yma, ond mae Cassie Widders yn teimlo fod treulio gormod o amser yn y byd digidol yn gallu cael effaith negyddol ar ein bywydau go iawn... er ei bod hi'n cyfadde' ei bod hi ei hun hefyd yn euog o "doom scrollio" ar y ffôn...
"Mae pawb 'di bod yna, lle ti'n sgrolio a sgrolio… ac mae 'na awr wedi mynd! Ond mae o'n cymryd i ffwrdd o'ch amser chi a 'da chi ddim yn teimlo yn fulfilled ar ei ôl o.
"'Di o ddim am faint o amser 'da chi'n ei dreulio ar lein, ond be' sy'n problematic am hyn, a'r peth mae o'n ei gymryd i ffwrdd o bywyd offline chi."
Ynghyd â'r dyfeisiau sydd yn rhan o'n bywydau bob dydd bellach, mae Cassie yn credu fod datblygiadau mewn technoleg yn mynd â phethau gam ymhellach, gyda realiti rhithwir (virtual reality) a bydoedd deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) yn gallu pellhau defnyddwyr oddi wrth fyd go iawn.
"Mae o'n cymryd i ffwrdd o'r cysylltiadau 'da chi'n gallu eu gwneud drwy fod efo pobl wyneb-yn-wyneb. Mae popeth yn mynd yn individualistic. Mae hynna'n broblem fawr, dwi'n meddwl.
"Welwn ni fwy a mwy ohono fo yn y byd, achos fel efo VR headsets, mae o'n gneud i chi greu byd jest i chi, yn union be' 'da chi isho. Mae hynny'n swnio'n grêt ond ydi o go iawn?
"Yr oll mae hynny'n mynd i 'neud ydi 'da chi ddim yn mynd i give and take efo pobl; pethau 'da chi'n gorfod eu gwneud yn y byd go iawn, yn y gwaith, efo ffrindiau, efo perthnasoedd...
"Dwi yn poeni bo' ni jest yn symud mwy i greu byd ein hun. A dwi'n meddwl fydd hynny'n achosi problemau iechyd meddwl; fydd pobl ddim yn gallu ymdopi efo'r peth."
Technoleg a'r ifanc
Rhywbeth arall sydd ar feddwl Cassie, yw dylanwad y digidol ar y cenedlaethau nesaf, gyda'r rhan fwyaf o bobl ifanc â'u trwynau'n gyson yn eu ffonau, a hyd yn oed y plant lleiaf â dealltwriaeth o sut i ddewis y fideo nesaf ar y tabled.
Ond wrth gwrs mae llawer o'r sgiliau yma yn cael eu dysgu yn yr ysgolion, sydd yn ddealladwy, meddai.
"Maen nhw'n trio eu gorau i fod yn digital schools. A dwi'n dallt pam, achos mae'r gwaith yn llefydd digidol rŵan; mae plant angen y sgiliau yma yn y bywyd 'da ni wedi ei greu.
"Ond y peth ydi, dydyn nhw ddim yn dallt yr effaith mae hyn yn ei gael. Doedd yr ymchwil ddim yna bum mlynedd yn ôl, mae o ond rŵan yn dod allan, yr effaith mae o'n ei gael ar blant neu ar y rhieni hefyd."
Felly beth allwn ni ei wneud i stopio'n plant i dreulio oriau o flaen sgrin?
"Y peth sy'n gweithio fwyaf ydi habit eu rhieni nhw," meddai Cassie. "[Mae'r rhieni yn dweud:] 'Sbiwch ar plentyn fi; dydi o ddim tu allan, mae o jyst yn ista efo'i ffôn...' ond 'da ni'n ista efo'n ffôn ni hefyd.
"Unwaith mae'r rhieni yn newid habits nhw, 'neith y plant yn araf ddechrau newid eu habits nhw hefyd."
Pedwar peth i wella eich lles digidol
Allwn ni ddim osgoi'r byd digidol, ond mae gan Cassie ambell i air o gyngor ynglŷn â beth allwn ni ei wneud i reoli'n defnydd o ddyfeisiau a gwella effaith technoleg ar ein bywydau:
Peidiwch â chysgu gyda'ch ffôn wrth ymyl eich gwely
Mae technoleg yn effeithio ar yr ymennydd, gan ysgogi'ch meddwl a'i gwneud hi'n anoddach cwympo i gysgu. Mae hefyd yn effeithio ar hyd eich cwsg, gan fod sgrolio cyn mynd i'r gwely a cholli amser yn gwneud hynny'n hynod gyffredin. Mae pa gynnwys rydych chi'n ei gymryd i mewn cyn mynd i'r gwely hefyd yn effeithio ar eich hwyliau ac felly eich gallu i gysgu ac ansawdd y cwsg.
Peidiwch â dod â'ch ffôn allan wrth gwrdd â ffrindiau
Mae ymchwil yn dangos bod presenoldeb eich ffôn yn unig, hyd yn oed pan fydd wedi'i ddiffodd neu â'i wyneb i lawr, yn tynnu'ch sylw. Mae hyn yn golygu ei fod yn diraddio ansawdd y rhyngweithio rydym yn ei gael, gan effeithio ar ansawdd ein perthnasoedd.
Neilltuwch amser yn eich wythnos pan nad ydych yn cymryd llawer i mewn
Rydym yn cymryd cymaint o gynnwys a gwybodaeth i mewn nad ydym yn sylweddoli ein bod ni. Gofynnwch i chi'ch hun, pryd ydych chi'n rhoi seibiant i'ch ymennydd a lle i adael i'ch meddwl grwydro? Mae synfyfyrio yn cynyddu creadigrwydd a datrys problemau, ac yn gwella eich lles cyffredinol.
Felly, ceisiwch fynd i redeg heb gerddoriaeth, neu deithio i'r gwaith heb y podlediad, neu gael diwrnod heb y newyddion, gan roi caniatâd i chi'ch hun gael eich datgysylltu.
Ailystyriwch ragdybiaethau am y cyfryngau cymdeithasol a'n dyfeisiau
Efallai y byddwn yn meddwl bod angen i ni fod ar gyfryngau cymdeithasol oherwydd fod pawb arall. Dyna sut rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad â phobl. Neu sut allwn ni beidio cael ffôn ar benwythnosau, beth os bydd argyfwng?
Ond er mwyn adeiladu system well bydd yn rhaid i ni ailystyried y credoau hyn yn ddwfn, a dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu â'r hyn sy'n bwysig i ni. Sut arall allwn ni gadw mewn cysylltiad â'r bobl sy'n bwysig i ni? Beth sy'n wir yn eich atal rhag mynd yn rhydd o ffôn ar y penwythnosau? Heriwch eich rhagdybiaethau a heriwch y normau.
Hefyd o ddiddordeb: