Ateb y Galw: Bethan Rhys Roberts
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma Bethan Rhys Roberts sy'n Ateb y Galw. Mae Bethan newydd gael ei henwi fel cyflwynydd newydd Hawl i Holi ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru wedi i Dewi Llwyd gyhoeddi ei fod yn ildio'r awenau wedi 15 mlynedd â'r rhaglen.
Yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd Newyddion S4C, ´óÏó´«Ã½ Wales Live, a Bore Sul ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, dyma gyfle i ddod i 'nabod Bethan 'chydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Yn hogan fach, roedd gen i gi bach ar olwynion, Sion, a dwi'n cofio mynd â fo am dro ar ben fy hun yr holl ffordd ar hyd Ffordd Penrhos ym Mangor yn dair oed. Diolch byth fe ddaeth rhywun o hyd i mi a mynd â fi adra!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Tysilio - lle hudol yng nghanol y Fenai. Fe wnes i dreulio oriau ac oriau yn chwarae efo ffrindiau ysgol ac yn rhedeg ar hyd 'Belgium prom' i'r fynwent a'r goedwig.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Parti priodas - teulu, ffrindiau, bybls, jazz, hwyl a'r gŵr gorau yn y byd!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Brwdfrydig, hunan feirniadol, ffyddlon
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Roeddwn i'n cael gwers hwylio ychydig flynyddoedd yn ôl a roedd 'na griw ohonan ni ar gwch eitha' mawr yn gwrando ar yr hyfforddwr yn ein dysgu ni sut i wneud gwahanol glymau. Fe aeth fy meddwl ar grwydr, fe wnes i eistedd nôl a disgyn dros fy mhen-ôl i'r mor. Move over Mr Bean!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i'n gweithio fel waitress yn Ffrainc dwi'n cofio gollwng llond powlen o datws menyn ar ffrog melfed un o brif westeion cinio mawreddog. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth pan nes i drio ll'nau'r llanast. Ches i ddim cwblhau'r shifft yna!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mis diwetha' yn cofio am Dad.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes nifer fawr mae'n siŵr - ond trio gwneud gormod o bethau ar yr un pryd a disgwyl i bobl eraill ddeall be' dwi'n trio'i wneud - a llosgi tost yn y bore.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi wrth fy modd yn gwrando ar bodlediad The Rest is Politics - trafod difyr o ddau bersbectif gwleidyddol
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Yr Arlywydd Zelenski - lle ma' dechra efo cyn gomedïwr sy'n arwain ei wlad mewn rhyfel.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n lliw ddall sy'n eitha' prin ymhlith merched. Dwi'n gallu gweld lliwiau cryf (dwi'n meddwl!) ond weithiau 'does gen i ddim syniad sut i roi enw i'r hyn dwi'n ei weld.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Diwrnod o deithio efo'r teulu… brecwast gyda'r wawr yn Île St Louis ym Mharis, p'nawn mewn caiacs yn Venice a gorffen gyda fish a chips wrth i'r haul fachlud ym Mhorthgain.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Siôn Corn - codi gwên ar bob plentyn yn y byd a chael gwibio ar draws y blaned mewn noson - waw!
Hefyd o ddiddordeb: