Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddwas yn gwadu ymosod ar ddyn yng Nghasnewydd
Mae swyddog Heddlu Gwent wedi gwadu achosi niwed corfforol i ddyn drwy ymosod arno.
Fe wnaeth Gediminas Palubinskas, 33 o Gwmbr芒n, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe brynhawn Gwener.
Mae Mikael Boukhari yn honni i'r heddwas ymosod arno mewn gardd yn Llys Livale, Casnewydd, ar 9 Gorffennaf 2021.
Cafodd Mr Palubinskas ei ryddhau ar fechn茂aeth tan i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 15 Ionawr 2024.
Mae disgwyl i'r achos bara pedwar diwrnod.