大象传媒

'Ymddygiad bron pob Aelod o'r Senedd o safon uchel'

  • Cyhoeddwyd
Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Comisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, fod dealltwriaeth fwy aeddfed o'r Cod Ymddygiad gan Aelodau bellach

Roedd mwyafrif y cwynion yn erbyn Aelodau Senedd Cymru yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ymwneud 芒 m芒n achosion o dorri'r Cod Ymddygiad.

Mae adroddiad blynyddol Comisiynydd Safonau'r Senedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn dweud nad oedd angen gweithredu pellach.

Dywedodd y Comisiynydd, Douglas Bain, fod ymddygiad bron pob AS o safon uchel.

Dim ond un aelod wnaeth dorri'r Cod Ymddygiad, ond does dim manylion cyhoeddus wedi'u rhyddhau am yr achos hwnnw.

Derbyniodd Mr Bain 71 o gwynion rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Fodd bynnag, nid oedd ganddo'r p诺er i ymchwilio i 31 o'r rhain.

Aelodau ddim yn cwyno am ASau eraill

O'r rhai yr oedd e'n gallu eu trafod, roedd y mwyafrif yn canolbwyntio ar fethiant rhai ASau penodol i hysbysu m芒n newidiadau i'w buddiannau cofrestredig o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy'n cael ei ganiat谩u.

Roedd y gweddill yn ymwneud ag ymddygiad ar gyfryngau cymdeithasol a chamddefnyddio adnoddau yn y Senedd.

Yn y mwyafrif helaeth o'r cwynion oedd yn ddilys, ni chymerwyd unrhyw gamau gan eu bod yn ymwneud 芒 m芒n doriadau yr oedd yr aelod perthnasol wedi cydnabod, ymddiheuro amdanynt a'u cywiro.

Dywedodd Douglas Bain: "Fel mae'r ffigyrau'n dangos, mae ymddygiad bron pob Aelod o'r Senedd yn parhau i fod o safon uchel.

"Er bod nifer y cwynion wedi cynyddu, heblaw am doriadau cymharol fach o'r rheolau, dim ond un Aelod a ganfuwyd o fod wedi torri'r Cod Ymddygiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prif waith y Comisiynydd, Douglas Bain, yw ymchwilio ac adrodd ar gwynion am dorri'r Cod Ymddygiad

"Croesawaf y ffaith unwaith eto na chafwyd unrhyw gwynion gan un Aelod yn erbyn Aelod arall.

"Credaf fod hyn oherwydd dealltwriaeth fwy aeddfed gan Aelodau, mai bwriad y broses gwyno yw diogelu'r safonau ymddygiad uchel y dylent oll anelu atynt, ac na ddylid ei chamddefnyddio mewn ymgais i sgorio pwyntiau plaid gwleidyddol."

Yn achos pum cwyn, mae adroddiadau ar dri ohonynt wedi'u rhoi i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.

Mewn dau achos, penderfynodd y Comisiynydd na thorrwyd y Cod Ymddygiad, ond roedd yna achos i'w ateb yn y trydydd un. Cytunodd Pwyllgor y Senedd 芒 hyn.

Mae adroddiadau ar y ddau g诺yn arall bellach wedi'u cwblhau a'u rhoi i'r Pwyllgor Seneddol er mwyn iddynt benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd, neu os oes angen gweithredu o gwbl.

Prif waith y Comisiynydd yw ymchwilio ac adrodd ar gwynion am dorri'r Cod Ymddygiad, ond ni all roi unrhyw fanylion am unrhyw g诺yn penodol.

Pynciau cysylltiedig