大象传媒

Huw Edwards: Angen ymchwiliad 'cadarn' i honiadau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd ffrind i Huw Edwards wrth Newyddion S4C fod modd iddo ddod dros ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf

Wrth i'r 大象传媒 ailgydio yn eu hymchwiliad i honiadau am y darlledwr Huw Edwards, mae 'na alwadau ar i'r ymchwiliad fod yn "drwyadl, addas ac amserol".

Papur newydd The Sun wnaeth adrodd gyntaf ddydd Gwener am honiadau bod darlledwr wedi talu person yn ei arddegau am luniau anweddus.

Am ddyddiau doedd enw'r cyflwynydd heb ei gyhoeddi, cyn i'w wraig ryddhau datganiad nos Fercher.

Dywedodd Vicky Flind bod Huw Edwards yn "dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol" a'i fod yn derbyn "triniaeth yn yr ysbyty ble bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy".

Mae Heddlu'r Met wedi dweud nad oes camau pellach i'w cymryd ar 么l edrych ar y dystiolaeth ddaeth i'w meddiant.

Disgrifiad,

Mae angen proses "drylwyr, teg ac agored" wrth ymchwilio, meddai Karl Davies ar Dros Frecwast

Yn 么l Karl Davies, cyn-ysgrifennydd 大象传媒 Cymru a chyn-bennaeth Llywodraethu ac Atebolrwydd y 大象传媒 yng Nghymru, mae 'na nifer o gwestiynau i'w hateb gan y gorfforaeth.

"Mae 'na gwestiynau mawr ym meddyliau pobl am y modd y mae'r 大象传媒 wedi ymdrin 芒 hyn," meddai ar raglen Dros Frecwast fore Iau.

"Yr hyn sy'n allweddol ydi bod y 大象传媒 yn ateb y cwestiynau ac yn tawelu meddyliau pobl.

"Mae'n rhaid mynd drwy'r broses yn deg, yn drylwyr ac yn agored."

'Ymlid ac artaith'

Yn 么l Cyfarwyddwr Cyffredinol y 大象传媒 Tim Davie, mae'r honiadau yn ddifrifol iawn ac mewn e-bost i staff, dywedodd bod yna "amgylchiadau cymhleth" i'w hystyried.

Mae Mr Davies yn dweud bod 'na gymaint o gwestiynau mae pobl yn haeddu cael atebion iddyn nhw mor fuan 芒 phosib.

"Mae 'na drefn, y drefn yn gadarn a gobeithio bod y 大象传媒 wedi dilyn hyn o'r cychwyn cyntaf, er mae 'na amheuon, ond gobeithio r诺an bod yr ymchwiliad yn drwyadl, addas ac amserol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Am dros 20 mlynedd mae Huw Edwards wedi cyflwyno rhaglen News at Ten y 大象传媒

Ychwanegodd: "Dwi'n ofni bod y byd cyfryngau mor agored, mor fl锚r, a bod cymaint o gyfryngau r诺an, fel nad oes modd rheoli fel yr oedden ni 40 neu 30 mlynedd yn 么l.

"Mae gan gymaint o bobl ei agenda eu hunain fel ei bod bron yn amhosib dysgu gwersi a'u gweithredu yn y byd cyfryngau fel y mae ar hyn o bryd.

"Beth bynnag mae o wedi ei wneud, mae o wedi cael ei ymlid gan bapur newydd mwya' poblogaidd Prydain, ac wynebu artaith am bum niwrnod."

Dywedodd papur newydd The Sun bod "dim bwriad cyhoeddi rhagor o honiadau ynghylch Huw Edwards", ac y byddai'n "cydweithio gyda phroses ymchwilio fewnol y 大象传媒".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Egwyddorion golygyddol y 大象传媒 fydd yn penderfynu dyfodol Huw Edwards" meddai Arwel Ellis Owen

Dywedodd Arwel Ellis Owen, cyn-olygydd newyddion 大象传媒 Cymru, bod digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi "dinistrio o leiaf dau deulu" - teulu'r person ifanc wnaeth y gwyn, a theulu Huw Edwards.

Fe fydd y 大象传媒 nawr yn ceisio gweld a oedd yr ymddygiad honedig yn "cyd-fynd 芒 safonau ac egwyddorion golygyddol" y gorfforaeth, meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

"Mae'r safonau yna gen i - un ydy diogelu buddiannau plant, un arall ydy sicrhau safonau chwaeth a gweddusrwydd, tegwch, gonestrwydd, integriti golygyddol - dyna fydd sail ymchwiliad y 大象传媒 o hyn ymlaen.

"Yn ogystal, fe fyddan nhw'n edrych ar eu system fewnol ei hunain i weld a oedd na unrhyw fath o wendid yn y system, bod y gwyn wedi dod ym mis Mai ond dim byd wedi digwydd tan ddydd Iau diwethaf.

"Mae 'na faes mawr o ymchwilio yn mynd ymlaen nawr, ond yn benodol egwyddorion golygyddol y 大象传媒 fydd yn penderfynu dyfodol Huw Edwards."

'Ymddiriedaeth y cyhoedd wedi siglo'

Wedi i The Sun ddweud na fyddan nhw yn cyhoeddi rhagor o honiadau ac yn cydweithio gyda'r ymchwiliad gan y 大象传媒, ychwanegodd Mr Owen bod hi'n "eithriadol o bwysig bod y 大象传媒 yn cael trefn ar hyn oherwydd mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn y 大象传媒 wedi cael ei siglo heb os nac oni bai gan y pump diwrnod diwethaf".

"Os nad oes ymddiriedaeth rhwng y 大象传媒 a'i chynulleidfa yna does dim cysylltiad o gwbl, a dyna'r ofn dwi'n tybied..."

Mae modd dadlau bod cwestiynau i'w gofyn i The Sun am eu hymdriniaeth o'r mater, meddai, ac a oedd y diddordeb cyhoeddus yn yr honiadau "wedi bod yn werth dinistrio gyrfa un o gewri byd darlledu Prydain, ar sail tystiolaeth sydd heb hyd yn hyn o leiaf ei ystyried, ac ar gefn y ffaith bod yr heddlu wedi penderfynu nad oedd na gam troseddol yn y peth".

"Felly mae'n mynd i fod yn anodd iawn i'r Sun, 'swn i'n tybied, gyfiawnhau'r polisi maen nhw wedi ei wneud oherwydd mae'r dinistr sydd wedi ei greu oherwydd rhesymau masnachol y Sun wedi golygu bod niferoedd o deuluoedd wedi eu dinistrio yn y broses."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Edwards yn derbyn triniaeth ysbyty ar 么l diodde problemau iechyd meddwl difrifol

Mae siop ym Mhenrhyndeudraeth wedi dweud na fydda nhw'n gwerthu cop茂au o bapur newydd The Sun fel protest yn erbyn y stori a gafodd ei chyhoeddi am Huw Edwards.

"Dwi wedi bod yn gwerthu papurau newydd ers bron i hanner canrif a 'rioed wedi cymryd penderfyniad fel hyn," meddai Dewi Lewis o Siop Dewi ar raglen Post Prynhawn.

"Ond ar 么l y driniaeth mae Huw Edwards wedi ei gael yn nwylo'r Sun dyma'r peth iawn i neud.

"Ac mi oeddwn i'n teimlo y ffordd maen nhw wedi dinistrio enw da Huw bod hi'n amser i wneud y penderfyniad i beidio 芒 gwerthu'r rhacsyn yma dim mwy."

Dywedodd hefyd fod ei benderfyniad wedi cael ymateb cadarnhaol o bob rhan o Gymru.

Pwy ydi Huw Edwards?

Dechreuodd weithio i 大象传媒 Cymru yn 1984, ac ymhlith ei waith cynnar roedd cyfnodau fel gohebydd seneddol i 大象传媒 Cymru, cyn symud i gyflwyno newyddion ar deledu'r rhwydwaith yn y 1990au a chyflwyno nifer o raglenni etholiad cyffredinol ac etholiadau Senedd Cymru.

Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio yng Nghymru - yn Gymraeg a Saesneg - o Pawb a'i Farn i Dechrau Canu Dechrau Canmol, ac i nodi ei ben-blwydd yn 60 cafwyd rhaglen arbennig iddo ar S4C y llynedd.

Mae hefyd wedi cyflwyno rhai o raglenni Bore Sul i Radio Cymru.

Ef gyflwynodd nifer o gyfresi teledu mawr i'r 大象传媒 fel The Story of Wales, The Wales Report, a'r rhaglen drafod materion cyfoes, The Exchange.

Yn briod ac yn dad i bump o blant, mae wedi osgoi eu magu yn llygad y cyhoedd.

Yn gefnogwr i'r celfyddydau yng Nghymru roedd hefyd yn noddwr i nifer o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys bod yn is-lywydd ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol Capeli.

Derbyniodd raddau er anrhydedd gan y rhan fwyaf o brifysgolion Cymru a'i urddo i'r Orsedd y llynedd.

Pynciau cysylltiedig