大象传媒

Fferyllwyr 'dan bwysau' i gynnig mwy heb ragor o arian

  • Cyhoeddwyd
Fferyllydd

Mae nifer o fferyllwyr cymunedol wedi cysylltu 芒 大象传媒 Cymru yn rhybuddio eu bod nhw "dan bwysau" i gynnig mwy o wasanaethau i gleifion - ond heb gyllid digonol gan Lywodraeth Cymru.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd hi'n fwyfwy heriol i gynnig gwasanaeth diogel os nad yw'r sefyllfa ariannol yn newid.

Mae fferyllwyr cymunedol, sy'n cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn prosesu presgripsiynau, gwerthu meddyginiaeth dros y cownter ac yn trin rhai cyflyrau.

Yng Nghymru maent wedi derbyn codiad cyflog o 1% ar gyfer 2023/2024 - ffigwr sydd wedi ei ddisgrifio'n "sarhaus" gan un fferyllydd.

Yn 么l Fferylliaeth Gymunedol Cymru, corff sy'n cynrychioli 700 o fferyllfeydd ar draws y wlad, mae'r "cynnydd yn llai na chwyddiant" ac yn rhoi "pwysau enfawr" ar fferyllwyr.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n "ymrwymo i gefnogi'r proffesiwn" gan ddarparu mwy na 拢150m o gyllid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jenny White nad oes modd ehangu'r gwasanaethau heb ragor o gyllid

I Jenny White yn Rhosneigr, sy'n rhedeg fferyllfa gyda'i g诺r, mae'r gwasanaethau mae hi'n eu cynnig i gleifion yn golygu bod ganddi lai o amser i brosesu presgripsiynau.

"Dwi wastad wedi eisiau helpu pobl a dyna pam dwi'n fferyllydd", meddai.

"Ond os ydyn ni'n parhau fel ydan ni, 'da ni just methu rhoi'r gwasanaeth gorau."

Yn 么l Jenny, mi fyddai modd cynyddu a thyfu'r gwasanaethau yn ei fferyllfa hi ond "dyw hynny ddim yn bosib gyda'r cyllid" sydd ar gael iddi ar hyn o bryd.

"Dyw'r cynnydd 1% ddim yn dda."

Mae Jenny wedi cyflogi staff gyda mwy o brofiad a sgiliau amrywiol er mwyn ceisio lleddfu'r pwysau, gan ddweud bod hynny wedi bod yn "heriol" i'r busnes.

'Angen buddsoddiad ariannol sylweddol'

Mae Jon Lloyd Jones yn dweud bod rhedeg ei fferyllfa ym Maesteg "yn bleser", ond mae "lot o heriau" yn bodoli er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig gwasanaeth sy'n ddiogel.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n anodd gweld cymaint o bobl heb wneud newidiadau, meddai Jon Lloyd Jones

"Ni'n gweld rhwng 30 a 50 pobl y dydd," meddai.

"Mae'n anodd i ni weld gymaint o bobl heb wneud lot o newidiadau."

Er bod Jon yn gefnogol o bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan fferyllwyr, mae'n dweud bod angen buddsoddiad ariannol sylweddol.

Ei obaith ydy gwella'r ystafelloedd yn ei fferyllfa ar gyfer apwyntiadau, yn ogystal 芒 chyflogi ail fferyllydd er mwyn rhannu'r gwaith.

Mae'r cynnydd mewn cyflogau o 1% ar gyfer 2023/2024 yn "broblem" i fferyllwyr, yn 么l Llyr Hughes, llefarydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru.

"Ni 'di cyrraedd y pwynt r诺an lle mae'r job i fferyllwyr gario 'mlaen yn gwneud be' maen nhw'n medru 'neud 'lly."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llyr Hughes yn rhedeg fferyllfa gymunedol yng Nghricieth

Yr her, meddai, yw bod angen buddsoddi mewn staff newydd a hyfforddiant er mwyn gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen.

Wrth i gostau gynyddu gyda chwyddiant, mae'r fath fuddsoddiad yn heriol, meddai.

'Ymrwymo i gefnogi'r proffesiwn'

Wrth ymateb, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i gefnogi'r proffesiwn.

"Mae ein fferyllfeydd cymunedol wedi cyflawni llawer iawn o ran cynyddu cymorth i gleifion ers i ni gyflwyno newidiadau sylweddol i'r cytundeb fferylliaeth.

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r proffesiwn i gwrdd 芒'r galw cynyddol a dyna pam rydym yn darparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad i fferyllwyr cymunedol."

Pynciau cysylltiedig