Profiad 'ysgytwol' teuluoedd o Gymru yng Ngroeg
- Cyhoeddwyd
Mae sawl teulu o Gymru wedi disgrifio'r profiad "ysgytwol" o orfod dianc o'u gwesty ar Ynys Rhodos yng Ngroeg oherwydd y tanau gwyllt yno.
Dywedodd Ynyr Roberts a Gwenllian Glyn o Gaerdydd eu bod wedi gorfod gadael mwyafrif eu heiddo yno.
Fe ddisgrifiodd y ddau y golygfeydd brawychus o weld y fflamau'n nes谩u at eu gwesty.
Ar 么l oriau o geisio cyrraedd y maes awyr, fe lwyddodd y ddau a'u plant, sy'n 12 a 10, ddychwelyd i Gaerdydd fore Sul.
"12 awr yn 么l roedden ni ar wyliau hyfryd a'r awyr yn las ar ynys Rhodes, ond o fewn ychydig funudau roedd yr awyr yn oren, y goedwig yn wenfflam," dywedodd Ynyr.
Ychwanegodd Gwenllian: "Y peth mwya' oedd pa mor sydyn 'naeth o ddatblygu a un munud roedden ni yn y pwll nofio'n mwynhau ac yn cael cinio, a'r munud nesa' roedden ni'n gweld y cwmwl mawr 'ma.
"Gaeth ein mab ni decst - ar frys - yn d'eud 'gadewch yr ardal'.
"Aethon ni 'n么l i'r 'stafell a phacio un c锚s a gadael bob dim arall... lwcus naethon ni achos aethon ni 'n么l i'r dderbynfa a munud nesa' oedd y fflamau jyst reit wrth y gwesty."
'Ysgytwol'
Eglurodd Ynyr fod pobl leol yn barod i helpu i gludo cannoedd o bobl o'r ardal.
"Ymateb greddfol oedd dianc mewn ffordd, gafon ni ddim arweiniaid na dim canllawiau i fynd i nunlle penodol felly oedd yn rhaid defnyddio'n greddf a mynd cyn belled o'r t芒n 芒 phosib.
"Profiad go ysgytwol. Roedden ni fel ffoaduriaid mewn ffordd yn dianc am ein bywydau ac yn gorfod ffeindio hafan diogel ar lan y m么r."
Ychwanegodd Gwenllian: "O'dd lot o sgrechian a phetha' a phawb yn trio helpu ei gilydd.
"Oeddan ni ar y traeth 'ma am ryw chwech awr. Cannoedd os nad miloedd ohonan ni, neb 'fo syniad beth oedd yn digwydd ac yn anffodus oedd y mwg ma'n ein dilyn ni. 'Naeth y fflamau ymddangos eto."
Dywedodd fod bws cyhoeddus wedi ymddangos gyda nifer fawr o bobl arno, a bu'r teulu'n ffodus o gael lle arno a chael eu cludo i faes awyr Manceinion.
Fe egurodd Ynyr eu bod wedi gorfod gadael tri ch锚s o eiddo yn y gwesty.
"Ambell grys p锚l-droed Cymru oedd yn golygu lot i fi! Ond dyna ni. 'Dan ni adra'n saff a 'dan ni'n gobeithio fydd pawb o'r ynys yn cael dod adra'n saff."
Mae Lowri Jones o Grymych a'i merch Ella hefyd wedi bod ar wyliau ar ynys Rhodos, ond heb weld y tanau achos erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd eu gwesty nhw eisoes wedi ei effeithio.
Fe gawson nhw eu rhoi mewn gwesty arall ar ogledd yr ynys ar 么l cyrraedd, ond oherwydd nad oedd lle i bawb bu'n rhaid iddyn nhw gysgu ar y llawr.
"Mae'r 24 awr ddiwethaf wedi bod yn rollercoaster," dywedodd Lowri.
"Mae'r lle dan ei sang. Ni'n gofyn bob awr oes cancellations, oes lle allwn ni gael gwely heno, ni 'di cael dim atebion. Ni ddim 'di gweld dim rep o ryw fath yn y byd - mae'n really rhwystredig."
Ychwanegodd ei merch, Ella: "Ni 'di cysgu ar y llawr, ma' fe ddim 'di bod yn neis."
"Ni'n gwybod dyw sefyllfa ni ddim yn cymharu gyda'r rheiny sydd 'di cael eu evacuatio, neu sy'n ymladd y tanau," dywedodd Lowri.
"Ond pan ti'n safio dy arian i ddod ar wyliau, a dyw'r gwyliau 'na wedyn ddim cweit beth ti'n disgwyl, mae'n siom.
"Llawr caled teils [oedden ni'n cysgu arno] - naethon ni lwyddo i ddwyn un cushion jyst i Ella roi ei phen arno - fi'n credu nes i gysgu hanner awr."
Dywedodd Lowri eu bod bellach wedi archebu hediad eu hunain er mwyn mynd yn 么l ddydd Mawrth.
"Ond ni 'di penderfynu mae rhaid jyst neud y gore ohono fe, mwynhau tra bod ni 'ma, a gobeithio'r gorau bod ni'n cael newyddion da cyn diwedd y dydd."
'Rhaid canmol y Groegwyr'
Eraill a oedd yn gorfod gadael yr ynys oherwydd y tanau oedd Marlyn Samuel a'i g诺r, Iwan.
Fore Llun fe wnaeth y ddau gyrraedd Maes Awyr Manceinion a hynny wedi oriau maith o ansicrwydd i'r ddau.
"Roedden ni'n aros yn Lindos ac yn ymwybodol o'r tanau a gweld rhyw gwmwl yn y pellter," meddai Marlyn ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Ond dros y penwythnos fe wnaeth y gwynt droi, ac roedd hi'n boeth iawn, 30au uchel, 36 neu 38.
"Chwarter i hanner nos nos Sadwrn cael tecst larwm cenedlaethol ar y ff么n yn dweud bod yr ardal i gyd yn cael ei evacuatio, lawr wedyn i'r dderbynfa i weld be' oedd yn digwydd ond y rheolwr yn dweud bod popeth yn iawn, ac nad oedd isio i ni boeni ac mai wbath i'r tai uwch i fyny oedd hyn.
"Ond wedyn tecst arall, larwm arall, a na'i gofio'r s诺n yna tra fyddai, a larwm y gwesty wedyn ac mi gawson ni ein evacuatio a jyst pacio i adael.
"Oedd rhywun wedi dychryn am ei fywyd. Oedden ni'n meddwl ein bod yn iawn, doedden ni ddim yn gweld y t芒n, ond y pryder oedd rhag ofn, efo'r gwynt, bysa'r lonydd yn cau a wedyn yn gaeth yn y gwesty.
"Oedden nhw yn dda iawn yna efo ni. Trefnu bysys, trefn yna ac yn dda iawn efo ni.
"Naethon ni landio mewn ysgol am bedwar y bore, neb yn gwybod be oedd yn mynd mlaen.
"Ond rhaid canmol y Groegwyr, roedden nhw'n cario bwyd i ni, pethau ymolchi a d诺r ac yn gofalu amdanon ni.
"Neithiwr yn cysgu ar fatras gyfforddus iawn ar y llawr.
"A wedyn am 02:00 bore 'ma amser Groeg, golau ymlaen a galw ein henwau ni a rhyw ddau deulu arall a chael gwybod ein bod yn cael mynd am yr awyren.
"Yr ansicrwydd, lot o s茂on a ddim yn gw'bod be oedd yn digwydd oedd hi fwyaf."
Roedd rhai o gwsmeriaid Ann Jones, o gwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon, "yn bryderus iawn nos Sadwrn", ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i'w gwesty ac yn parhau gyda'u gwyliau ar 么l gorfod symud dros dro i neuadd ar Ynys Rhodos.
Dywedodd ar raglen Post Prynhawn beth yw'r cyngor i bobl sydd ar fin mynd ar wyliau i'r ardal.
"Os ydyn nhw'n mynd wythnos yma i Rhodes ei hun ma' ginnon nhw'r dewis i ga'l peidio mynd," meddai, "achos ma'r cwmn茂au mawr ma' wedi canslo hedfan pobol allan tan ma' petha' wedi setlo'n 么l yna'n llawn.
"Wedyn fedrith nhw gael eu harian yn 么l yn llawn neu fedran nhw drosglwyddo'u gwylia' i fynd i rywle arall yn Ewrop."
Ychwanegodd nad oedd yn rhagweld y byddai'r tanau yn atal pobl rhag fod eisiau mynd ar wyliau i ynysoedd Groeg yn y dyfodol, ond bod yr hyn a ddigwyddodd dros y penwythnos yn tanlinellu pwysigrwydd rhoi gwybodaeth mor fuan 芒 phosib i gwsmeriaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023