大象传媒

Defnyddio 'p诺er p锚l-droed' i wella iechyd meddwl cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Enillwyr 2021Ffynhonnell y llun, Marc Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd Twrnamaint Cofio Twm ym Mhen Ll欧n er cof am ddyn ifanc lleol a fu farw

Ceisio magu cysylltiad rhwng dynion ifanc sy'n ffermio a chlybiau p锚l-droed yw bwriad cyfarfod ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mawrth.

Mae swyddogion Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) ac Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn mynd i fod yn trafod sut gall cysylltiadau o'r fath fod o help i gynnig cefnogaeth i ddynion sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl.

Gobaith un elusen yw y bydd cynnig hyfforddiant iechyd meddwl i staff a gwirfoddolwyr o glybiau p锚l-droed.

Mae lle i "ddefnyddio p诺er p锚l-droed er lles cymunedau" dros y wlad, meddai prif weithredwr CBDC cyn y digwyddiad.

Cafodd yr elusen iechyd meddwl ffermio, Sefydliad DPJ, ei sefydlu yn Sir Benfro yn 2016.

Mae'r rheolwr, Kate Miles, yn dweud bod cynnal sesiynau mewn clybiau p锚l-droed yn gallu bod yn ffordd effeithiol o gynnig cefnogaeth i ddynion ifanc yn enwedig.

Ffynhonnell y llun, Sefydliad DPJ
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Kate Miles, rheolwr Sefydliad DPJ, fod "cyd-destun llai ffurfiol" yn dda ar gyfer trafod iechyd meddwl

"Ry' ni'n gwybod bod chwarae p锚l-droed yn gyfle i nifer i fynd oddi ar y fferm, a chwrdd 芒 phobl eraill sy'n rhannu'r un diddordebau," meddai.

Mae'r elusen yn gobeithio bydd modd cynnal sesiynau hyfforddiant iechyd meddwl i aelodau staff a gwirfoddolwyr clybiau p锚l-droed, gyda'r sefydliad eisoes yn cynnal sesiynau tebyg gyda chlybiau Ffermwyr Ifanc.

"Y syniad yw trosglwyddo'r neges mewn cyd-destun llai ffurfiol," dywedodd Ms Miles.

Ym Mhen Ll欧n, mae criw o bobl wedi bod yn cynnal twrnamaint p锚l-droed saith bob ochr yn flynyddol er mwyn codi arian at Sefydliad DPJ.

Dechreuodd Twrnamaint Cofio Twm er cof am ddyn ifanc lleol fu farw trwy hunanladdiad.

Ffynhonnell y llun, Marc Jones

"Y syniad oedd dod 芒 phawb at ei gilydd," meddai un o'r trefnwyr, Marc Jones.

Eleni bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Pwllheli ar 27 Awst.

'Gwaith i'w wneud i chwalu stigma'

Ymhlith y rhai fydd yn siarad yn y cyfarfod ar faes y Sioe Fawr mae prif weithredwr Cymdeithas B锚l-droed Cymru, Noel Mooney.

"Mae CBDC wedi ymrwymo i wneud yr hyn allwn ni i ddefnyddio p诺er p锚l-droed er lles cymunedau ledled Cymru," meddai cyn y digwyddiad.

"Mae pobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad yn ei chael hi'n anodd gyda'u hiechyd meddwl, ac ry' ni'n gwybod bod pobl mewn cymunedau gwledig yn enwedig yn wynebu heriau penodol.

"Mae clybiau p锚l-droed ynghanol nifer o'r cymunedau hyn, ac ry' ni'n gweithio gyda phartneriaid i drafod sut i'w troi yn ganolfannau lle mae modd i bobl gael y gefnogaeth sydd ei hangen i wella'u hiechyd a'u lles."

Ffynhonnell y llun, UAC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Emyr Wyn Davies fod y cyfarfod yn gyfle i gysylltu dynion ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u clybiau p锚l-droed

Dywedodd Emyr Wyn Davies, sy'n uwch swyddog sirol gydag Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn her i ffermwyr a'r rheiny sy'n byw mewn cymunedau gwledig.

"Er ein bod ni wedi symud ymlaen rhywfaint dros y blynyddoedd diwetha' i chwalu'r stigma yn gysylltiedig 芒 iechyd meddwl gwael, mae 'na waith i'w wneud o hyd.

"Fe fydd y drafodaeth hon yn cynnig cyfle gwych i ystyried sut allwn ni bontio'r gagendor rhwng dynion ifanc sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a'u clybiau p锚l-droed lleol, er mwyn i ni allu helpu'r rheiny mewn angen yn gynt ac yn well."

Cyfle i wneud ffrindiau oes

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, fe ddisgrifiodd Will Beynon - swyddog marchnata UAC, sydd hefyd yn chwarae gyda th卯m Drefach yn Sir G芒r - sut mae perthyn i glwb p锚l-droed lleol yn gallu creu rhwydwaith hollbwysig i amaethwyr.

Yn achos "dynion ifanc sy'n mynd trwy lot o newidiade" ar 么l gadael yr ysgol, "ma'r timau h欧n 'na i nhw, i fod yn gymorth i nhw," dywedodd.

"Chi'n mynd i 'neud ffrindie am fywyd, so os 'ych chi yn cael pryder iechyd meddwl mae 'da chi garfan o 20, 25... fel clwb p锚l-droed ma' isie i chi fod yn hwb a lle cyfforddus i bobol siarad a wi'n credu bod Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Drefach yn falch o wneud hynny."

Dywedodd bod y clwb 芒 mwy o aelodau "nag erioed" a bod y pandemig wedi gwneud i bobl werthfawrogi pwysigrwydd cymdeithasu ag eraill.

I'r ffermwyr sy'n teimlo "bod dim amser 'da nhw i whare p锚l-droed bob dydd Sadwrn", dywedodd bod dod i'r clwb ar 么l y g锚m hefyd yn gyfle am hoe hollbwysig ac i siarad 芒 rhannu unrhyw ofidion.