Costau 'wedi mynd mas o bob sens' i ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr yn dal i wynebu biliau uchel a rhai'n dweud eu bod wedi gorfod torri'n 么l ar wario er mwyn cynnal eu busnes.
Dyma un o'r pynciau llosg ar faes y Sioe Fawr eleni - costau tanwydd, trydan, bwyd i'r anifeiliaid a gwrtaith ar gyfer y tir.
Am gyfnod y llynedd roedd chwyddiant nwyddau amaethyddol dros 20%.
Mae'r raddfa wedi gostwng dipyn erbyn hyn, ond mae ffermwyr yn dal i deimlo'r wasgfa.
Mae Geraint Williams yn cadw defaid yn Llanwnnen yng Ngheredigion. Dywedodd fod tanwydd, gwrtaith a bwyd ar gyfer ei stoc wedi "mynd mas o bob sens".
Ar 么l cael ei holi ynghylch sut mae'n ymdopi gyda'r costau dywedodd ei fod yn "byw ar lai".
"Byw ar lot llai o arian a tynnu 'n么l ar rai pethau, cadw llai o stoc ond mae'n rhaid fel ffermwr gael y tri pheth yna - fuel, fertilizer a rhaid cael bwyd i'r anifeiliaid.
"Mae popeth wedi mynd lan yn ofnadwy."
Dywedodd Geraint Thomas, sy'n cadw fferm laeth yn Llangennech: "Mae pris llaeth wedi gostwng dipyn.
"Fi'n gwybod bod costau wedi dod lawr ond mae e dal yn tight mas 'na achos ni wedi colli 12 ceiniog y litr dros y chwe mis dwetha'.
"Mae fferm laeth yn defnyddio lot o drydan so mae hwnnw lan yn y 70-80 ceiniog yr uned.
"Mae fertilizer wedi cwympo, ond mae feed yr un peth, ac mae'r costau yn ei gwneud hi'n anodd i gynllunio buddsoddi yn y busnes."
'Pryder enfawr'
Dywedodd Ian Rickman, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, bod costau uchel yn bryder mawr i'r undeb ac i ffermwyr.
"Mae'r costau yn aros yno drwy'r amser, dy'n nhw ddim yn mynd i ffwrdd," dywedodd.
"Maen nhw wedi gostwng ychydig yn ddiweddar ond ddim wedi gostwng i'r lefelau yr oedden nhw dair neu bedair blynedd yn 么l, dim o bell ffordd.
"Felly fel diwydiant mae'n rhaid i ni ysgwyddo'r costau hynny ond mae'n bryder enfawr wrth symud ymlaen."
Dywedodd Mr Rickman bod llif arian yn broblem i lawer o ffermwyr ar rai adegau o'r flwyddyn - pan fydd angen prynu nwyddau ar gyfer y fferm.
"Dyna'r realiti i lawer o ffermydd, yn sicr ar ffermydd defaid a chig eidion lle mae'n broses gylchol.
"Fyddai gennych chi ddim 诺yn i werthu tan yr hydref ond mae angen bwydo'r defaid sy'n cario'r 诺yn ac ar ol i'r 诺yn gael eu geni, drwy'r gaeaf ymlaen llaw.
"Bach iawn o reolaeth sydd gennym ni dros y pris sy'n cael ei dalu am ein cynnyrch, ein hwyn, ein b卯ff, ein llaeth. Ry'n ni'n dibynnu ar y farchnad.
"Alla i ddim dweud 'dwi wedi gorfod talu 20% yn fwy am y mewnbynnau, felly mae angen pris sy'n 20% yn uwch arna i'. Dyw e ddim yn gweithio fel hynny."
Yn 么l Euryn Jones, dirprwy bennaeth amaeth banc HSBC, mae'r farchnad amaeth wastad wedi bod yn anwadal, ond mae mwy o ansicrwydd yn y farchnad nawr oherwydd ffactorau byd eang.
"Os oes prinder cynnyrch mae'r prisiau yn mynd i fyny, os oes 'na ormod o gynnyrch yn y farchnad yna mae prisiau yn tueddu i fynd i lawr yn sylweddol.
"Ond beth sydd wedi gwneud pethau yn waeth y tro yma ydy'r rhyfel erchyll yn Wcr谩in a Covid hefyd i ryw raddau. Wedyn mae hynny wedi dod ar ben yr elfennau yna sy'n gyson yn y farchnad."
Cyngor Euryn Jones i ffermwyr sy'n teimlo pwysau costau neu'n cael trafferth gyda llif arian yw siarad gyda'u banc.
"Mae'n bwysig cael perthynas dda efo'r banc, mae'n bwysig bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o'u busnes a bod ganddyn nhw afael o beth sy'n digwydd gyda llif arian.
"Y cyngor ydy peidiwch bod ofn mynd at y banc ac yn sicr i beidio bod ofn i ofyn am gyngor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023