大象传媒

Y byrgyrs gwiwerod ar fwydlen Gareth Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd
GARETHFfynhonnell y llun, Mandy Jones

Mae byrgyrs yn cael eu gwneud allan o bob math o gigoedd; cig eidion, cig oen, cyw i芒r, carw... ond a fyddech chi'n bwyta byrgyr gwiwer?

Dyna fydd y ffermwr a'r cyflwynydd teledu, Gareth Wyn Jones, yn ei gynnig mewn bwyty dros dro yn Ffair G葒m Cymru ar Stad y Faenol, ger Bangor, ar benwythnos 9-10 Medi.

Gofynnodd Cymru Fyw i Gareth os oedd wedi bwyta gwiwer o'r blaen ac os wnaeth ei fwynhau: "Do wir, 'nath Chris Roberts gwcio un i fi ac mi roedd o'n wych. 'Nath o 'neud o i fi fel rhyw tacos bach felly oedd o 'di adio pethau.

Sut mae eu coginio?

"Mae'n gallu bod yn gig reit sych. Dwi 'di saethu wiwerod a cwcio nhw fy hun - 'nes i ferwi nhw a tynnu'r cig i ffwrdd a wedyn torri'r cig yn f芒n ac adio pethau iddo fo. Mae'n lean iawn, felly ma' isio bod yn ofalus sut ti'n cwcio fo.

"Mae coginio yn rhywbeth dw i'n ei garu. Fel plant, roedden ni'n arfer casglu madarch a dod 芒 nhw adref ac yna hel wyau a'u coginio. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o newid pethau yw bwyta bwyd bach a lleol, bwyd sydd wedi'i gynhyrchu yma ac mae cig hela yn rhan o hynny."

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teulu Gareth wedi ffermio'n Ty'n Llwyfan uwchben Llanfairfechan, Conwy, ers 375 o flynyddoedd ac maent bellach yn cadw 4,000 o ddefaid a 300 o wartheg

Mae Gareth, sy'n ffermio ar y Carneddau ger Llanfairfechan, yn credu y dylem wneud y defnydd mwyaf bosib o wiwerod sydd wedi eu saethu.

Meddai: "Mae'n wast anferthol i saethu rhywbeth fel wiwer a lluchio fo'n bin a peidio defnyddio fo. I fi, 'da ni'n ailgylchu o mewn ffordd; allwn ni roi bwyd i bobl ac edrych ar 么l y wiwer goch. Mae'r wiwer goch o dan bwysau anferthol efo'r pox 'ma (feirws squirrelpox), ac mae'n rhaid i ni gychwyn cymryd y pethau 'ma i'n dwylo ni - dim jest saethu nhw ond defnyddio nhw!

"Dydy gwiwerod llwyd ddim yn frodorol o'r wlad 'ma. O America ma' nhw'n dod a mae nhw 'di arwain at ddirywiad ym mhoblogaeth y wiwerod coch. Hefyd, mae'r wiwer lwyd yn un drwg am ddwyn wyau adar o nythod mewn coed. Ma'n si诺r mod i'n saethu rhyw 80-100 y flwyddyn, yn ddibynnol ar y flwyddyn - dwi'n trio cadw'r niferoedd lawr gymaint alla i.

"Rhaid i ni gofio mai pla ydyn nhw. Ar y fferm os oes gen i ormod o lygod mawr, brain neu beth bynnag, mae'n rhaid i mi ddelio 芒 nhw. Beth yw'r gwahaniaeth gyda gwiwerod llwyd? Mae eu cig yn sgil-gynnyrch felly pam ei wastraffu? Mae'n fwyd gwyllt ffantastig.

"Mae 'na lot yn cael eu cyflogi i trapio'r wiwerod 'ma i amddiffyn y wiwer goch, a dwi'n meddwl yn lle bo' ti'n hela fo a'i luchio fo, fysa'n well ei hela fo a defnyddio fo a trio codi ymwybyddiaeth am be' sydd ganddo ni yn y wlad 'ma.

Bwyta'n 'lleol ac yn dymhorol'

"Mae costau byw ar y funud yn ddifrifol, a sut 'da ni'n creu bwyd i bobl o rywbeth fysa ti byth yn meddwl fysa'n bosib bwyta - ma'n stori dda dydi.

"Mae'n bwysig bwyta'n lleol a bwyta'n dymhorol, a defnyddio bob dim. 'Da ni yn lladd ceirw ac anifeiliaid sy'n gor-boblogi, dim lladd nhw i gyd yn amlwg, ond mae cadw niferoedd i lawr fel hyn yn cadw cydbwysedd natur yng nghefn gwlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 140,000 o wiwerod coch ym Mhrydain ar hyn o bryd, a tua 2.5 miliwn o rai llwyd

Mae hela gwiwerod yn boblogaidd yn UDA lle mae'r rhan fwyaf o daleithiau'n eu dosbarthu fel anifeiliaid hela y gellir eu lladd i'w bwyta.

Weithiau fe'u gelwir yn limb chickensyn America ac mae arbenigwyr yn credu mai'r hydref yw'r amser gorau i'w bwyta, pan fyddant wedi bod yn bwydo ar ddiet o gnau a ffrwythau.

"Dwi'n gobeithio fydd hyn yn agor sgwrs gall yngl欧n 芒 be' 'da ni'n wneud," meddai Gareth. "Dwi'n gobeithio allwn ni addysgu pobl bo' ni'n gallu bwyta bwyd fel 'ma a bo' nhw'n iachus ac yn flasus.

"Dwi'n hela lot, yn saethu ffesantod ac ati, ac mae'n bechod bo' pobl yn meddwl bo' ni'n hoffi mynd allan i ladd petha' a dinistrio. Da' ni'n harvestio'r bwyd, yn llenwi'r freezer gyda bwyd iachus. Be' fysa well, rhyw fyrgyr wedi ei brosesu... neu wy, bach o flawd, dipyn bach o sbeisys a wiwer sydd 'di cael ei saethu reit tu 么l i dy d欧 di?"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig