Ateb y Galw: Betsan Moses
- Cyhoeddwyd
A ninnau ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2023, mae'n amserol mai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Cafodd Betsan ei henwebu gan Iwan Llewelyn Jones yr wythnos d'wethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mowredd, mae cofio beth ges i swper neithiwr yn gamp erbyn hyn! 'Wi'n amau mai trio chware'r git芒r fydde fe. yn bump oed. A chyn i buryddion iaith ddweud mai canu offeryn rydyn ni, fe allaf eich sicrhau nad oedd yr offeryn dan sylw yn canu wrth i mi geisio ei chware! Fe wnaeth Mam a Dats brynu git芒r plentyn yr un i fi a'm chwaer. Fe wnaeth fy chwaer ddysgu'r grefft yn ddigon hwylus, ond roedd ceisio mynd o gord G i C i D i mi'n fater arall!
'Wi'n cofio gwisgo ffrog laes goch gyda chathod cart诺n du arni (ac oedd, roedd gan fy chwaer yr un ffrog yn ogystal - doedd gan y Von Trapps ddim byd arnom ni!) a cheisio chwarae cytgan "Pam ma cath yn lico pysgod" a sylweddoli na fyddwn i fyth yn gallu galw'n hun yn gerddorol!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
S'dim angen meddwl am hyn - Mynydd Sylen i mi bob tro. 'Wi'n gallu 'i weld o ffenestr ein lolfa ni adre ac mae'n anhygoel meddwl mod i'n edrych allan ar y darn o dir fu'n fan cychwyn Terfysg Beca. Ar ddiwrnod braf o haf, s'dim byd gwell na cherdded y topie yn nannedd y gwynt a'r rhedyn yn cadw cyfrinachau'r merched. Fan yna rwy eisiau i ngweddillion gael eu gwasgaru ymhlith yr eithin gwyllt.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y nosweithiau gorau yw'r rhai sy'n digwydd ar hap heb unrhyw gynllunio. Mae Lowri'n ffrind wedi symud o'r dref i'r wlad. Wna i bicio fewn i ddweud helo weithiau pan fydda i adref ar brynhawn Sadwrn a gadael 24 awr yn ddiweddarach! Ei pherllan yw'r llecyn perffaith am sgwrs dros lasied o win ymhell o stwr y byd. Bydd gwledd yn ymddangos a hen ffrindie'n ymgasglu ac mae'r byd yn lle canwaith gwell.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ofergoelus, teg, cl锚n (gobeithio!)
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Gen i griw o ffrindie gwych ers ysgol a choleg sy' bellach y grwpiau sgwrsio WhatsApp gore'n y byd! Unwaith y flwyddyn awn ni i ffwrdd am benwythnos, ac nid gorddweud yw dweud bod 'na ddisgwyl eiddgar am y tripie!
Ma 'na amserlen wedi'i threfnu ond yn fwy nag aml mae'n mynd yn deilchion gan bod y chwerthin a'r janglo'n ennill y dydd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pa un i ddewis! Mi o'n i'n gweithio bob gwylie coleg yn y Butcher's Arms yn Llanddarog. Rwy'n cofio un nos cael fy siarsio i gael archebion pwdin y byrddau i fewn mewn digon o amser i baratoi am yr ail eisteddiad. Wrth wibio o gwmpas yn casglu archebion, wnes i draw at un cwpwl a holi beth fydde nhw'n dymuno ei gael i bwdin, ac medde'r g诺r wrtha i "I'll have a rest," a medde fi'n 么l wrtho "unfortunately, I don't believe that's on the menu!"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Yr wythnos ddiwethaf yn hel atgofion am ffrind annwyl a gollasom yn llawer rhy ifanc.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rwy'n si诺r y bydde eraill yn dweud bod gen i nifer ond yr un peth sy'n gwylltio'n chwaer yw'r ffaith mod i'n dueddol o lanhau rownd pobl! Mae'n gas gen i weld briwsion ar y llawr, felly os ydw i'n ddigon ewn gyda phobl wna i sgubo'r llawr o'u hamgylch tra eu bod nhw'n bwyta!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Paradwys fyddai gwyliau mewn siop lyfrau! Sucking Sherbet Lemons gan Michael Carson yw un o'm hoff lyfrau ac rwy'n ame iddo roi t芒n yn fy mol i frwydro'n erbyn anghyfiawnderau a defnyddio'n llais er gwell.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?.
Sam Shepard y dramodydd, actor a chyfarwyddwr Americanaidd. Pan o'n i'n fyfyriwr roedd gen i freuddwyd o fod yn sgwennu mewn llofft yn Efrog Newydd i Off Off Broadway. Petai gen i owns o dalent Sam Shepard bydden i'n hapus fy myd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n hynod o ofergoelus ac o'r herwydd fe fydd wastad darn o ddiledyn du o'm cwmpas a darn o lo yn fy mag.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dim byd a phob dim! 'Wi'n fore-godwr, wastad yn codi am bedwar y bore. Rwyn amau mai cysgu fewn fyddwn i'n ei wneud i gychwyn i gael profiad cwbl wahanol cyn gadael yr hen fyd 'ma!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dwi ddim yn berson sentimental felly welwch chi fyth luniau'r teulu a'r briodas ar hyd y t欧. Collodd Bry'r g诺r a fi ein tadau yn llawer rhy gynnar felly ma' nhw yma mewn llun ac ysbryd. Nid portreadau confensiynol mohonynt gan nad person confensiynol mohonof!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Myfi, fy nghi - s'dim gofid o gwbl ganddi, ac mae'r byd a'r betws wedi mopio arni!
Hefyd o ddiddordeb: