Cymru wedi cael cyllideb 'fwyaf erioed' - Sunak
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog y DU wedi mynnu bod ei lywodraeth wedi rhoi'r gyllideb "fwyaf erioed" i weinidogion Cymru.
Wrth ymweld 芒 Wrecsam ddydd Gwener, dywedodd Rishi Sunak bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n gwario'r arian "i fyny iddyn nhw".
Mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn dweud bod eu cyllideb wedi ei thorri o 拢900m o ganlyniad i chwyddiant.
Maent yn honni mai dyna pam na fedrant barhau gyda chynllun prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau'r haf.
Blwyddyn 'heriol iawn'
Yn Ebrill 2020, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i blant o aelwydydd incwm isel yn ystod y gwyliau.
Cafodd y polisi ei chyflwyno o ganlyniad i Covid, ac yna ei hymestyn ar 么l y pandemig hyd at ddiwedd hanner tymor yr haf eleni.
Ond mae gweinidogion wedi dweud nad oes modd ariannu'r cynllun, a fyddai'n costio 拢15m, i mewn i wyliau'r haf.
Yn gynharach mis yma, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn "heriol iawn", gyda chyllideb Llywodraeth Cymru werth 拢900m yn llai na phan gafodd ei chyhoeddi cyn y Nadolig, o ganlyniad i chwyddiant diweddar.
Ond mewn cyfweliad yn ystod ei ymweliad i Gymru ddydd Gwener, dywedodd Mr Sunak: "Mae Llywodraeth y DU wedi darparu'r cyllid mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru drwy arian fformiwla Barnett, ac mae sut maen nhw'n gwario hynny a'n rheoli'r arian yna i fyny iddyn nhw."
Mae arian fformiwla Barnett yn gyllid mae Cymru yn ei dderbyn yn awtomatig o ganlyniad i wario yn Lloegr ar faterion sydd wedi'u datganoli yng Nghymru.
Ategu hynny wnaeth Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet Mr Sunak - David TC Davies - gan wrthod yr honiad bod Llywodraeth y DU yn tanariannu Cymru.
"Maen nhw wedi cael y setliad gorau erioed", meddai AS Mynwy.
"Maen nhw wedi cael arian i wario 拢150m ar gynlluniau ffordd osgoi'r M4 ond dydyn nhw ddim am fwrw 'mlaen, ac maen nhw eisiau gwario hyd at 拢100m ar fwy o aelodau'r Senedd, mwy o wleidyddion.
"Mae ganddyn nhw'r arian os ydyn nhw'n dymuno ei wario ar brydau ysgol am ddim, ond maen nhw wedi penderfynu ar bethau eraill."
'拢900m yn llai'
Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar y gorau, mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi cael ei friffio'n wael.
"Mae ein cyllideb nawr werth 拢900m yn llai na phan wnaeth y Canghellor ar y pryd, y Prif Weinidog presennol, ei osod yn Hydref 2021.
"Does dim ymgyrch yn erbyn pobl yn gyrru eu ceir, dim arian yn cael ei roi i geiswyr lloches anghyfreithlon ac rydym yn gwario'r swm mwyaf erioed ar y GIG yng Nghymru, mwy fesul y pen nag yn Lloegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023