大象传媒

Wrecsam i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod 2011
Disgrifiad o鈥檙 llun,

2011 oedd y tro diwethaf i'r brifwyl ymweld 芒 Wrecsam

Mae wedi ei gadarnhau mai dinas Wrecsam fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025.

Wedi ei chynnal yno ddiwethaf yn 2011 ar dir amaethyddol i'r gorllewin o beth oedd yr adeg hynny yn dref, mae trefnwyr y Brifwyl yn dweud fod ei union leoliad ymhen dwy flynedd eto i'w gadarnhau.

Gyda'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Ll欧n ac Eifionydd, Rhondda Cynon Taf fydd yn ei chroesawu'r flwyddyn nesaf cyn iddi ddychwelyd unwaith eto i'r gogledd.

Yn 么l Cyngor Wrecsam byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o saith digwyddiad o bwys i'w cynnal yn lleol, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029.

Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Bydd ymgyrch Eisteddfod Genedlaethol 2025, medd y trefnwyr, yn cael ei lansio ym mis Medi, gyda phrosiect cymunedol llawr gwlad dros ddwy flynedd.

Bydd hyn, meddan nhw, yn cyfuno digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a chodi arian gyda phrosiect micro-leol, gyda'r nod o ddenu grwpiau lleol ac unigolion i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ar gyfer yr 诺yl ei hun, a dysgu mwy am yr iaith a'r diwylliant.

'Effaith gadarnhaol ar gymunedau'

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg dros Gyngor Wrecsam: "Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o wyliau diwylliannol mawr y byd, a'r 诺yl gystadleuol fwyaf o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Ewrop.

"Mae pawb yn gwybod bod yna wefr yn ein dinas ar hyn o bryd, ac mae hwn yn mynd i fod yn gyfle gwych i groesawu pobl o bell ac agos i ddathlu ein hiaith a'n diwylliant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wrecsam yn bwriadu gwneud cais arall i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, yn dilyn y siom o fethu allan ar gyfer 2025

"Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yma yn 2011 roedd yn llwyddiant ysgubol, a chafodd effaith gadarnhaol ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd 2025 hyd yn oed yn well, a bydd llygaid Cymru - a llawer o'r byd - unwaith eto wedi'u gosod yn gadarn ar ein dinas fendigedig."

'Llawn cyffro'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Wrecsam ymhen dwy flynedd. Mae llawer wedi newid yn y ddinas dros y 15 mlynedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o stori Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.

"Rydym hefyd yn teimlo'n llawn cyffro am gael dod i adnabod cenhedlaeth newydd o drigolion Wrecsam.

"Roedd gennym d卯m ardderchog o wirfoddolwyr ar draws yr ardal n么l yn 2011, ac rydym yn awyddus i ddenu cymaint o bobl 芒 phosibl i gymryd rhan yn ein prosiectau y tro hwn wrth i ni baratoi ar gyfer g诺yl wych ym mis Awst 2025."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna filoedd ar strydoedd Wrecsam ddechrau Mawrth i ddathlu dyrchafiadau timau dynion a merched Wrecsam

Ar raglen Dros Frecwast, fe ychwanegodd Ms Moses bod "Wrecsam yn y newyddion ar y foment" yn sgil yr holl sylw wedi i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu CPD Wrecsam "a'r gobaith yw y bydd y Steddfod yn gallu rhoi rhywbeth ychwanegol o ran y daith yna ar lwyfan y byd".

Roedd yr Eisteddfod, meddai, yn rhan o'r bartneriaeth wnaeth sicrhau bod y Gymraeg "yn rhan ganolog" o gais diwethaf Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU, a bydd cyfle "unwaith yn rhagor i gyflwyno'r Gymraeg am y ddwy flynedd yn arwain at y Steddfod" yn hwb i'r cais nesaf ac i'r iaith.

Urddo Rob a Ryan?

Un o'r pethau cadarnhaol a ddaeth yn sgil Prifwyl 2011, meddai'r bardd a'r llenor Dr Sara Wheeler, oedd sefydlu Canolfan Saith Seren, sydd wedi "rhoi hwb mawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal".

Fe fydd Prifwyl 2025, meddai, yn gyfle i ychwanegu at y bwrlwm sydd yno eisoes - ac i "urddo Rob a Ryan - dwi'n meddwl bo' nhw'n haeddu fo fwy na neb, really".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bardd a'r llenor lleol, Dr Sara Wheeler yn awyddus i urddo Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn aelodau o'r Orsedd

Ond fe ddywedodd bod yna bryder yn lleol bod yna ddiffyg gwybodaeth o gyfeiriad yr Eisteddfod ers i'r ddinas wahodd yr 诺yl dros flwyddyn yn 么l

"Mae pobl Wrecsam wedi bod yn barod ers sbel... adeg yma cyn y Steddfod diwethaf, roedden nhw wrthi yn barod yn gwneud gwaith, ond 'dyn nhw ddim wedi clywed dim gan yr Eisteddfod hyd yn hyn," dywedodd.

"Dwi wedi bod yn gofyn am wybodaeth gan y Steddfod fel aelod o'r pwyllgor ll锚n canolig, a heb glywed dim yn 么l. Os ydan ni r诺an yn ca'l gwybodaeth ac yn gallu mynd ati i wneud y gwaith - gorau po gynta'."

Atebodd Betsan Moses bod "rhaid cael popeth mewn lle gyda'r awdurdodau lleol... ac fe fydd y gwaith go iawn yn dechrau ym mis Medi".

Pynciau cysylltiedig