Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhun ap Iorwerth: 'Dim amserlen i refferendwm annibyniaeth'
- Awdur, Daniel Davies
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Ni fydd Plaid Cymru yn addo amserlen ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth, meddai eu harweinydd newydd Rhun ap Iorwerth.
Dan ei ragflaenydd, Adam Price, fe wnaeth y blaid addo cynnal refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai wedi ennill yr etholiad diwethaf.
Ond fe ddywedodd Mr ap Iorwerth, a gymerodd yr awenau ym mis Mehefin, ei fod am weld "newid pwyslais, o bosib".
Er ei fod yn "100% ymroddedig" i'r nod, dywedodd ei fod am "ddod 芒 phobl ar siwrne' tuag at annibyniaeth".
'T么n bositif'
Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd ei fod am i'r blaid wneud yr achos dros annibyniaeth i bob math o bobl - gan gynnwys rhai oedd newydd symud i Gymru o Loegr.
"Mae [annibyniaeth] yn rhywbeth dwi'n gwbl grediniol sydd ei angen yn ymarferol er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru," meddai'r Aelod Senedd dros Ynys M么n.
"Ond siwrne' ydy hi, a dwi eisiau dod 芒 phobl efo ni ar siwrne' tuag annibyniaeth."
Cafodd ei benodi yn arweinydd ar 么l i Mr Price ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i ddiwylliant mewnol y blaid.
Er nad oedd 'na wahaniaeth mawr rhyngddo ef a Mr Price, meddai, dywedodd bod gan y blaid gyfle "i bwyso re-set" ac i "symleiddio ein neges ni".
Dywedodd Mr ap Iorwerth, sy'n disgrifio ei hun fel gwleidydd "pragmataidd", ei fod hefyd am osod "t么n bositif" ar gyfer Plaid Cymru.
Yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, dywedodd Mr Price y byddai am gynnal refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai'n dod yn brif weinidog.
Yn y diwedd, fe ddaeth y blaid yn drydydd tu 么l i Lafur a'r Ceidwadwyr. Cyfaddefodd Mr Price yn ddiweddarach y byddai annibyniaeth yn cymryd "yn hirach nag y bydden ni'n gobeithio".
'Dim tir cyffredin 芒'r Tor茂aid'
"Dydw i ddim yn gosod amserlen," meddai Mr ap Iorwerth, wrth drafod y pwnc.
"Dwi drwy fy oes wedi cefnogi annibyniaeth i Gymru, a dwi ar d芒n eisiau gweld y dydd hwnnw yn dod.
"Ond siwrne ydy hi a phobl Cymru sydd yn gorfod penderfynu, ar ddiwedd y dydd, beth ydy cyflymder y siwrne honno."
Ers Tachwedd 2021 mae Plaid a llywodraeth Lafur Cymru wedi bod mewn cytundeb cydweithredu, sy'n golygu cydweithio ar bolis茂au gan gynnwys prydau am ddim i blant ysgolion cynradd.
Mae Mr ap Iorwerth yn parhau gyda'r cytundeb, sydd i fod i ddod i ben ar 么l tair blynedd.
Mewn strategaeth wleidyddol a gytunwyd gan eu haelodau eleni, fe ddywedodd y blaid na fyddan nhw'n cydweithio gyda'r Ceidwadwyr.
Doedd dim tir cyffredin rhwng ei blaid ef a'r Tor茂aid, ychwanegodd Mr ap Iorwerth.