Pryder am 250 o swyddi mewn cwmni offer amddiffyn

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae wedi dod i'r amlwg bod prosiect system gyfathrebu gan General Dynamics, gwerth 拢330m, ar ei h么l hi

Mae yna bryder am swyddi mewn cwmni sy'n cynhyrchu offer amddiffyn ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod prosiect i ddatblygu system gyfathrebu newydd ar ei h么l hi.

Mae cynllun Morpheus, sydd werth 拢330m, yn cael ei ddylunio gan gwmni General Dynamics yn Oakdale, ger Y Coed Duon.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyfaddef nad yw gwaith ar y cynllun wedi cwrdd 芒'r gofynion a'u bod nhw'n "ystyried eu camau nesaf".

Dywed yr AS Llafur lleol ei fod yn bryderus iawn am y 250 o swyddi ar y safle.

Mae General Dynamics yn dweud eu bod nhw'n cydweithio 芒'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'u bod yn falch o'r hyn maen nhw'n ei ddarparu iddyn nhw.

Roedd disgwyl i Morpheus fod yn barod erbyn 2025, ond does dim dyddiad nawr ar gyfer ei gwblhau.

Pryder am swyddi

Mae Chris Evans, AS Islwyn, a gweinidog amddiffyn yr wrthblaid, wedi galw am sicrwydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r cwmni yngl欧n 芒 swyddi.

Cr毛wyd 125 o swyddi peirianneg o safon uchel a diogelwyd 125 arall pan gafodd y cytundeb ei roi yn Ebrill 2017.

"Rwy'n bryderus iawn am y swyddi," dywedodd Mr Evans.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Chris Evans ei fod hefyd yn poeni am effaith dileu'r prosiect i'r lluoedd arfog

"Rwy'n bryderus iawn yngl欧n ag os yw'r MoD yn mynd i fod yn betrusgar am roi cytundebau ychwanegol. Os nad ydyn nhw'n rhoi mwy o gytundebau, fydd y swyddi yna'n mynd."

Mae Mr Evans wedi cyflwyno sawl cwestiwn ysgrifenedig i weinidogion amddiffyn, ond mae wedi cael gwybod bod y wybodaeth yn sensitif yn fasnachol ac fe fyddai'n amhriodol gwneud sylw.

"Rwyf wedi siarad 芒'r cwmni a ddywedodd wrtha'i bod 'na broblemau ond eu bod nhw'n delio 芒 nhw," dywedodd.

"Ydyn maen nhw'n fasnachol sensitif, ond i'r gweithwyr - gweithwyr brwdfrydig iawn - i gael eu labelu fel eu bod nhw'n methu cyrraedd targedau mae'n bryder mawr iddyn nhw hefyd."

Ychwanegodd Mr Evans ei fod hefyd yn poeni am y goblygiadau i'r lluoedd arfog mewn cyfnod o fygythiadau byd-eang - yn enwedig yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcr谩in.

"Fy mhryder yw bod ein hoffer yn heneiddio," dywedodd.

"Y peth pwysicaf yw, ydy'r milwyr ar y rheng-flaen yn cael yr offer sydd angen arnynt i amddiffyn eu hunain? Y peth diwethaf rydyn ni eisiau ydi i'n milwyr gael offer sydd wedi dyddio.

"Tydi gweithio i'r fyddin ddim fel gweithio i siop stryd fawr neu ffatri gyffredin. Maent yn risgio'u bywydau ac mae'n rhaid i ni roi yr offer gorau posib iddyn nhw, heb oedi."

'Adolygu'r camau nesaf'

Mi fydd Morpheus yn caniat谩u arweinwyr i edrych a chyfarwyddo'u lluoedd ar faes y gad ac i'w cerbydau gysylltu 芒'i gilydd. Mae'n dod 芒 radio, apiau a systemau eraill ynghyd.

Mae'r oedi yn golygu bod system bresennol y lluoedd arfog, Bowman - sydd hefyd wedi ei greu yn Oakdale - yn parhau i gael ei defnyddio.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Fel mae gweinidogion wedi ei wneud yn glir, rydym yn parhau yn ymrwymedig i brosiect Morpheus.

"Er ein bod ni'n parhau i gyrraedd ein gofynion gweithredol, mae'r cynnydd ar brosiect Morpheus wedi methu a chyrraedd y gofynion, ac rydym yn adolygu'r camau nesaf ar sut i gyrraedd ein nod."

Dywedodd llefarydd ar ran General Dynamics UK: "Mae GDUK yn cydweithio gyda'r MoD ar y cynllun Bowman uchel ei barch, y system fydd Morpheus yn ei olynu.

"Mae rhan gyntaf prosiect Morpheus yn ei anterth, ac rydym yn cyflwyno'r seiliau ar gyfer y rhan nesaf fydd yr MoD yn ei gwblhau.

"Rydym yn falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud a'r budd y bydd yn ei rhoi i'r Fyddin Brydeinig."