'Camau brys' i ddiogelu dyfodol Eisteddfod Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd rheoli Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi "gwneud y penderfyniad anodd" o ddiswyddo prif swyddog yr 诺yl am bod y sefyllfa ariannol a'i dyfodol yn "heriol".
Fe gafodd Camilla King ei phenodi i r么l Cynhyrchydd Gweithredol y digwyddiad blynyddol ym Medi 2021.
Dywedodd cadeirydd yr Eisteddfod, Sarah Ecob, bod Ms King "yn gadael gyda diolch holl aelodau'r bwrdd a chadeiryddion y pwyllgorau", wedi iddi lywio'r 诺yl drwy'r cyfnod wedi'r pandemig.
Ychwanegodd bod y bwrdd wedi trafod "camau brys" i sefydlogi'r sefyllfa, a bydd ymgyrch fawr yn cael ei lawnsio yn y dyfodol agos "i ddiogelu dyfodol yr Eisteddfod".
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ddechrau Gorffennaf, dan ddenu cystadleuwyr i Sir Ddinbych o bob cwr o'r byd.
Fe ddathlodd ei 75 mlwyddiant y llynedd, ond mae wedi wynebu trafferthion ariannol sawl tro yn y gorffennol.
Yn ei datganiad dywedodd Sarah Ecob bod yr Eisteddfod "wedi cael ei heffeithio'n ddifrifol yn sgil y pandemig Covid a'r argyfwng costau byw".
"Fel sawl corff diwylliannol arall, mae'r Eisteddfod yn wynebu dyfodol heriol eithriadol oherwydd ein sefyllfa ariannol," meddai.
"Mae'r Bwrdd a'r Cadeiryddion Pwyllgor wedi cyfarfod i drafod camau brys i geisio sefydlogi ein mudiad.
"Rydym wedi cymryd y penderfyniad trist iawn i ddiswyddo ein Cynhyrchydd Gweithredol a byddwn ni'n lawnsio ymgyrch codi arian o bwys yn fuan i ddiogelu dyfodol yr Eisteddfod.
"Hoffwn ni ddiolch i Camilla am ei gwaith rhagorol yn ein g诺yl a dymuno'r gorau iddi at y dyfodol."
'Penderfyniad anodd'
Yn siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Ms King: "Mae'n amlwg yn anodd i mi fod yn gadael fy swydd.
"Mae'n amlwg y pryder yna am ddod o hyd i waith newydd a chefnogi fy nheulu.
"Yn ogystal 芒 hynny mae'n anodd gadael sefydliad chi wir wedi ymladd dros a rhoi cymaint i mewn iddo."
Yn ymateb i'r penderfyniad i'w diswyddo, ychwanegodd: "Dwi'n meddwl mae'n benderfyniad anodd iawn i'r sefydliad fod wedi'i wneud... efallai byddai ateb arall wedi bod.
"Ond dwi hefyd yn deall bod y bwrdd mewn sefyllfa letchwith a'u bod yn ceisio gwneud y peth iawn i'r sefydliad yma, fel ei fod yn parhau blwyddyn a thu hwnt."
Hefyd yn siarad ar Newyddion S4C roedd y pianydd Iwan Llewelyn Jones, oedd yn aelod o'r bwrdd tan fis diwethaf.
Dywedodd bod llawer o bethau y mae angen i'r Eisteddfod eu hystyried wrth edrych i'r dyfodol.
"Er yr heriau sydd yna r诺an, ma' rhaid iddyn nhw fod yn heriol efo'u rhaglenni," meddai.
"Mae rhaid iddyn nhw feddwl beth ydy ystyr y maes, be' ma' nhw'n mynd i gynnig i ymwelwyr yn Llangollen. Beth ydy'r rhaglen, ydy'r rhaglen yn rhoi digon o wrthgyferbyniad.
"Ydyn nhw yn apelio at bobl ifanc? Pobl ifanc 'di dyfodol yr Eisteddfod yna a dwi'n si诺r yn 1946, '47, pan oedd o'n cychwyn, oedden nhw'n gobeithio base hwn yn parhau, ac mae wedi parhau.
"Felly'r gobaith ydy fyddan nhw'n meddwl, 'sut fedrwn ni ddenu cynulleidfa ifanc?'"
Ychwanegodd Sarah Ecob yn ei datganiad ar ran y bwrdd: "Hoffwn ni ddiolch i ein cwsmeriaid, gwirfoddolwyr, staff, cystadleuwyr, perfformwyr a noddwyr sy'n gwneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn.
"Gyda'u chymorth nhw gallwn ni sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ganolog i fywyd diwylliannol Cymru, a pharhau gyda'i r么l o ran hybu heddwch mewn byd ansicr."
Dywedodd bod yr 诺yl wedi penodi nifer o aelodau bwrdd newydd "a fydd yn gweithio gyda'r staff a'r cannoedd o wirfoddolwyr i sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau".
Mae Eisteddfod Llangollen wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Fel nifer o ddigwyddiadau, mae'r 诺yl uchel ei pharch yma wedi wynebu heriau difrifol gan gynnwys pwysau chwyddiant, costau ynni uchel a goblygiadau'r pandemig Covid.
"Mae Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys hyd at 拢90,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol.
"Rydym yn ymwybodol o'r amgylchiadau y sonir amdanyn nhw yn y datganiad, ac rydym wedi ysgrifennu at yr gadeirydd 诺yl mewn perthynas ag effaith y penderfyniad ar ein cytundeb cyllido."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023