Ffos-y-Fran: 'Trychineb amgylcheddol' ar safle glofa
- Cyhoeddwyd
Daeth rhybudd y gallai cau safle glo brig mwyaf y DU droi'n "drychineb amgylcheddol" oni bai bod y safle'n cael ei adfer yn unol 芒'r cynllun gwreiddiol.
Mae perchnogion glofa Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar 30 Tachwedd.
Fe ddaeth caniat芒d cynllunio ar gyfer safle glo brig mwya'r DU i ben fis Medi'r llynedd, ond hyd yma mae'r gwaith wedi parhau yno.
Bydd y mwyafrif o'r gweithlu o 115 yn cael eu diswyddo, sydd wedi arwain at bryderon na fydd y safle'n cael ei dirlunio i fod yn safle gwyrdd i'r gymuned.
Mae'r perchnogion - Merthyr (South Wales) Ltd - wedi gwrthod rhoi sylw pellach ar hyn o bryd, ond mae'r undeb sy'n gweithio gyda nhw wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod opsiynau i adfer y safle'n cael eu hystyried.
Dywedodd undeb Unite eu bod yn siomedig fod y safle'n cau, ond bod staff yn bwriadu aros gyda'r cwmni tan bydd y safle wedi cael ei ddiogelu.
Gwrthod trwydded
Mae hanes y lofa yn ddadleuol gan iddi gael ei chaniat谩u mor agos at gartrefi a busnesau ym Merthyr Tudful gyda'r addewid y byddai'r tir yn cael ei adfer.
Cafodd dros 11m tunnell o lo ei gynhyrchu yno ers i'r lofa agor yn 2008.
Daeth trwydded y safle i ben ym mis Medi 2022 ac fe gafodd cais i ymestyn y drwydded ei wrthod gan yr awdurdod lleol ym mis Ebrill eleni.
Er hynny'n mae'r cwmni wedi parhau i gloddio, gan wylltio ymgyrchwyr amgylcheddol.
Roedd y cwmni'n dadlau mai un achos i barhau oedd nad oedd digon o arian wedi'i glustnodi i adfer y tir yn 么l y cytundeb gwreiddiol.
Rhybuddiodd Val Williams, hanesydd lleol sy'n byw ger y safle: "Daeth addewid y byddai'r safle'n cael ei adfer i fod yn well nag yr oedd.
"Fedrai ddim gweld hynny'n gallu digwydd nawr. Mae pobl wedi colli eu swyddi ac mae gennym drychineb amgylcheddol yn cael ei adael yno."
'Dyletswydd cyfreithiol'
Ond dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, bod gan y cwmni "ddyletswydd cyfreithiol i adfer y safle fel ei fod yn ddiogel i'r gymuned leol".
"Roedden ni'n disgwyl i'r gweithwyr barhau i weithio yno am ddwy neu dair blynedd arall, felly mae'n siomedig iawn os yw eu cytundebau wedi eu dileu ar fyr rybudd fel hyn.
"Ry'n ni angen i Lywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr drafod gyda'r cwmni beth yw eu cynlluniau i'r gweithwyr, a beth yw eu cynlluniau i adfer y safle."
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd, bod "rhaid i'r gymuned, sydd wedi byw gyda'r lofa yma ers blynyddoedd, gael yr hyn gafodd ei addo".
Pryder Janet Finch Saunders AS o'r Ceidwadwyr oedd y byddai cau busnesau fel Ffos-y-Fran yn gorfodi busnesau fel gwaith dur Port Talbot i ddibynnu ar fewnforio glo.
"Rhaid i Llafur a Phlaid Cymru gydnabod ei fod yn anghyfrifol i ddilyn polis茂au sy'n dadlwytho 么l-troed carbon ar wledydd eraill sy'n dlotach na ni," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r undeb i sicrhau pecyn cymorth i gefnogi gweithwyr sy'n cael eu diswyddo, ond mai "mater i drafod rhwng y cwmni a'r cyngor yn y lle cyntaf" yw adfer y safle.
Gwrthododd Cyngor Merthyr Tudful wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023