Meddygon Cymru mewn 'anghydfod ffurfiol' dros d芒l
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru wedi datgan bwriad i gynnal pleidlais ymhlith rhai o'i aelodau ar weithredu diwydiannol yn sgil anghydfod dros eu cyflogau.
Daeth trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i ben ddechrau'r mis wedi i BMA Cymru wrthod cynnig o 5% yn nh芒l rhai meddygon.
Dywedodd yr undeb bryd hynny mai dyma'r cynnig "gwaethaf" yn y DU, a'i fod yn doriad mewn gwirionedd gan fod chwyddiant yn uwch.
Daeth y penderfyniad i fynd i anghydfod ffurfiol wrth i feddygon iau yn rr Alban bleidleisio i dderbyn y cynnig uchaf erioed gan lywodraeth Holyrood i godi eu cyflogau - 12.4% yn 2023/24, ar ben cynnydd o 4.5% yn 2022/23.
Dywed Llywodraeth Cymru bod penderfyniad y BMA yn "siomedig" ond bod dim arian pellach ar gael i wneud cynnig uwch fel y mae pethau'n sefyll.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod Cymru wedi derbyn ei "setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli".
Mae'r anghydfod yn ymwneud 芒'r telerau yn achos meddygon sy'n arbenigo mewn maes penodol - ac maen nhw'n cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon iau a , sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd yn eu gyrfa.
Er mai 5% oedd y codiad cyflog a gafodd ei gynnig i rai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, dywed y BMA bod y cynnig i rai o'r meddygon SAS mor isel 芒 1.5%.
Mae'r cynnig, medd yr undeb, yn llai na'r hyn a wnaeth corff adolygu t芒l ei argymell eleni ar gyfer meddygon a deintyddion.
Mae'r BMA wedi anelu at adfer lefel cyflogau o fewn y maes, gan ddweud bod meddygon wedi gweld toriad mewn gwirionedd o ryw 29% yn eu t芒l ers 2009.
"Er gwaethaf sawl ymgais i rybuddio Llywodraeth Cymru ynghylch effaith ddinistriol toriadau cyflog cyson yng nghyd-destun rhai o'r amodau gwaith gwaethaf yn y DU, y gorau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yw llai o d芒l," dywedodd cadeirydd BMA Cymru, Dr Iona Collins.
Dywedodd bod pwyllgorau sy'n cynrychioli meddygon ymgynghorol, iau a SAS wedi "cefnogi 100%" i symud ymlaen gyda phleidlais ar weithredu diwydiannol, a bod hynny'n "adlewyrchu cryfder y teimlad o fewn y proffesiwn".
Ychwanegodd: "Os rydym yn derbyn cynnig o 5%, rydym yn derbyn y bydd mwy o feddygon nag erioed yn gadael GIG Cymru oherwydd t芒l anghystadleuol.
"Rydym nawr yn ymgynghori ag aelodau ynghylch ein camau nesaf sy'n cynnwys pleidlais ar weithredu diwydiannol gan yr holl feddygon gofal eilaidd. Rydym eisoes yn gwybod o arolwg diweddar bod 89% o feddygon iau wedi dweud y bydden nhw'n fodlon gweithredu'n ddiwydiannol i gael cytundeb tecach."
Mae pwyllgorau'r BMA yng Nghymru wedi rhybuddio bod rhai aelodau, yn enwedig meddygon iau, yn ennill cyflog sylfaenol cyn lleied 芒 拢13 yr awr, a bod rhai'n cael trafferth talu am eu rhent, gwres a bwyd ac i ad-dalu dyledion prifysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nos Fercher: "Mae'n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol.
"Rydym yn deall cryfder teimladau ymhlith meddygon ynghylch y cynnig t芒l o 5% a'r pwysau ar holl weithwyr y sector cyhoeddus oherwydd yr argyfwng costau byw."
Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn awyddus i adfer lefelau t芒l "ein staff meddygol hanfodol, mae ein cynnig ar derfynau'r cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu lle gwnaethom ei gyrraedd gyda'r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni. 聽
聽"Heb ragor o arian gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig mwy.
"Byddwn ni'n parhau i bwyso arnyn nhw i basio'r arian angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr sector cyhoeddus."
Ychwanegodd eu bod "ar gael ar gyfer rhagor o drafodaethau unrhyw adeg" gyda'r BMA.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd wedi derbyn "y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli", sef "拢18 biliwn y flwyddyn, sy'n dal yn cynyddu mewn termau real dros gyfnod Adolygiad Gwariant 2021".
Ychwanegodd llefarydd: "Y ffordd orau y gallwn ni helpu teuluoedd a chefnogi twf ar draws Cymru yw cael chwyddiant isel a dyna pam rydym yn glynu i ein cynllun i'w haneru eleni - rhywbeth y mae Banc Lloegr wedi darogan yn ddiweddar yr ydym ar y trywydd cywir i'w gyflawni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023