Dyn o flaen llys wedi marwolaeth pencampwraig treiathlon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth pencampwraig treiathlon Cymru.
Bu farw Rebecca Comins, 52, o Gil-y-coed, ar ffordd ger pentref Rhaglan, Sir Fynwy, ar 2 Mehefin 2022.
Roedd hi'n seiclo gyda'r nos, pan fu mewn gwrthdrawiad 芒 fan Vauxhall Movano oedd yn cael ei gyrru gan Vasile Barbu, 48 oed o'r Fenni.
Ymddangosodd Mr Barbu gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, lle plediodd yn ddi-euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Bydd yn ymddangos yn y llys eto ar 28 Ebrill 2024, ac mae disgwyl i'r achos bara pum diwrnod.
Cafodd ei ryddhau ar fechn茂aeth ddiamod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022