Ymgais newydd i leihau defnydd o 'vapes' gan bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Ceisio mynd i'r afael 芒'r defnydd o 'vapes' ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru yw nod gr诺p newydd sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r gr诺p aml-asiantaeth yn debyg i'r rhai sy'n cael eu sefydlu i reoli clefydau heintus, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o fyd iechyd, llywodraeth ac addysg.
Dywedodd Dr Julie Bishop, cyfarwyddwr gwella iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chadeirydd y gr诺p newydd: "Yn anffodus, mae yna dystiolaeth fod y defnydd o gynnyrch vapio yn tyfu ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
"Bydd sefydlu'r gr诺p ymateb yn rhoi golwg i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar faint presennol y broblem, ac adnabod cyfleoedd gyda phartneriaid mewn addysg, gofal iechyd a Llywodraeth Cymru i atal niwed pellach cyn gynted 芒 phosib."
'Cynnydd anferthol'
Yn 么l Suzanne Cass o ASH Cymru, sy'n ymgyrchu dros Gymru ddi-fwg, mae cynnydd wedi bod mewn cynnyrch na sy'n cydymffurfio 芒 chyfreithiau'n ymwneud ag e-sigar茅ts.
"Mae cynnydd anferthol wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n gallu cael mynediad at y cynnyrch yma," meddai.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd anferthol yn nifer y bobl sy'n gwerthu'r cynnyrch yma.
"Ac rydym wedi gweld cynnydd anferthol yn nifer y bobl sy'n adrodd am y cynnyrch yma i Safonau Masnach a'r heddlu, boed nhw'n werthiannau anghyfreithlon neu werthiannau i bobl dan oed."
Yn gyfreithiol nid oes hawl i e-sigarets a vapes gynnwys mwy na 2 mililitr o hylif, a ni ddylai hynny gynnwys mwy na 20mg o nicotin am bob mililitr o hylif.
Mae hefyd rheolau ar labeli a rhybuddion ar y cynnyrch.
Ni ddylai pecynnau gamarwain cwsmeriaid mewn ffordd a allai eu hannog i brynu rhywbeth na fydden nhw wedi'i brynu fel arall, a rhaid i'r cynnyrch gyfateb 芒'r disgrifiad ar y pecyn.
Yn Sir Ddinbych, wedi i lawer o gynnyrch oedd yn cael ei werthu'n anghyfreithlon gael ei ddarganfod, dywedodd y cyngor sir fod gweithrediad diweddar ar y cyd rhwng Safonau Masnach a th卯颅m arfordirol Heddlu Gogledd Cymru wedi darganfod fod lefelau cydymffurfiad wedi gwella mewn siopau sy'n gwerthu'r cynnyrch.
Mae'r cyngor yn annog perchnogion busnesau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gyfraith, a sicrhau eu bod yn cysylltu 芒 th卯m Safonau Masnach Sir Ddinbych os ydyn nhw'n amau unrhyw stoc maen nhw wedi'i brynu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2022