大象传媒

Wcr谩in: 'Pwysig parhau i gofio yr hyn sy'n digwydd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Wcrain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd nifer o ffoaduriaid yn bresennol yn yr orymdaith yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Daeth degau o bobl ynghyd yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn i nodi diwrnod annibyniaeth Wcr谩in a hynny 18 mis ers dechrau ymosodiadau Rwsia ar y wlad.

24 Awst yw Diwrnod Cenedlaethol Wcr谩in ac mae'n dathlu datganiad annibyniaeth y wlad ym 1991, ar 么l i'r hen Undeb Sofietaidd ymrannu.

Mae'r orymdaith fechan a drefnwyd heddiw yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae gr诺p gwirfoddol 'Cardiff for Ukraine' wedi'u trefnu a'u prif nod yw sicrhau cymorth i'r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil y rhyfel.

Mae'r arian a godir ganddynt yn cael ei ddefnyddio i gefnogi elusennau dyngarol cofrestredig ac ysbytai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n bwysig cadw yr hyn sy'n digwydd yn llygad y cyhoedd,' medd un o'r trefnwyr

Yn y digwyddiad ddydd Sadwrn dywedodd Andrii Zhuravskyi, un o'r trefnwyr :"Ry'n wedi bod yn cydlynu ral茂au er budd pobl Wcr谩in ers yr ymosodiadau gan luoedd Rwsia 18 mis yn 么l ac heddiw ry'n yn dathlu Diwrnod Annibyniaeth Wcr谩in.

"Mae'n beth da bod Wcr谩in yn dal ei thir ond yn amlwg ry'n dal angen cymorth.

"Mae tipyn o adrenalin wedi ei golli ers dechrau'r ymosodiadau a does dim cymaint o sylw i'r ymladd ar y newyddion.

"Ry'n yn credu bod gorymdeithiau fel yr un yma yn cadw yr hyn sy'n digwydd yn llygad y cyhoedd.

"Mae pobl wedi blino. Mae'n amhosib brwydro hyd eithaf eich gallu bob dydd ond mae digwyddiadau cyhoeddus yn ffordd dda o gael pobl ynghyd a dangos cefnogaeth."

Yn bresennol yn y digwyddiad hefyd roedd teuluoedd o Wcr谩in sydd wedi cael lloches yng Nghymru.

Iddyn nhw roedd yr orymdaith yn ddigwyddiad pwysig i nodi annibyniaeth Wcr谩in yn 1991.

Hefyd ymhlith y dorf roedd rhai a oedd wedi rhoi lloches i ffoaduriaid o Wcr谩in.

"Fe wnes i gymryd person o Wcr谩in ryw flwyddyn a hanner yn 么l," medd un, "a dwi wedi fy mabwysiadu gan yr Wcreiniaid erbyn hyn.

"Mae'n anodd credu bod rhywun am ddinistrio eu gwlad a'u diwylliant. Mae'n gas gen i'r sefyllfa ond dwi'n falch bod Cymru wedi rhoi croeso i gynifer o ffoaduriaid.

"Un diwrnod fyddai'n bendant yn mynd yno."

Mae dros 7,000 o Wcreiniaid wedi cyrraedd Cymru ers i'r cynllun Cartrefi i Wcr谩in agor.

Mae tua hanner o'r bobl hynny wedi cael eu cefnogi gan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, gyda dros 2,000 mewn llety tymor hir.

Pynciau cysylltiedig