大象传媒

Cyn-fewnwr Cymru Rhys Webb yn methu prawf cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhys Webb wedi'i wahardd dros dro

Dywed Clwb Rygbi Biarritz Olympique bod cyn-fewnwr Cymru, Rhys Webb, wedi'i wahardd dros dro gan yr awdurdodau yn Ffrainc wedi iddo fethu prawf cyffuriau.

Cafodd Mr Webb ei brofi gan yr awdurdodau Ffrengig yn ystod sesiwn ymarfer yng Ngorffennaf a'r gred yw ei fod wedi profi'n bositif am fath o hormon twf.

Mae Mr Webb yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le ac mae ymchwiliad i'r mater wedi dechrau.

Petai Rhys Webb yn euog gallai wynebu cael ei wahardd rhag chwarae.

Fe wnaeth Webb gyhoeddi'n annisgwyl ei fod yn ymddeol o d卯m Cymru ym mis Mai ac yna ymuno 芒 th卯m Biarritz.

Deallir bod rywfaint o anghysondeb yn lefelau hormonaidd Webb.

Mae Rhys Webb yn dweud ei fod yn ddi-euog ac wedi gofyn am gymorth cyfreithiol.

Dywedodd llywydd Biarritz Jean-Baptiste Aldig茅: "Fe ddaeth Rhys ataf ddydd Llun gan ddangos y llythyr yr oedd wedi'i dderbyn gan yr Asiantaeth Ffrengig i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon.

"Roedd y llythyr yn nodi bod Rhys yn bositif ar gyfer rhai pethau. Bydd yn cyfarfod 芒'r asiantaeth ddydd Llun. Dyw e ddim yn wrandawiad llys ac ar hyn o bryd dyw e ddim yn euog.

"Bydd y cyfarfod yn egluro'r canlyniadau. Fel llywydd y clwb rwy'n aros am y canlyniad. Roedd y canlyniad ddydd Llun diwethaf. Roedd y prawf ar 14 Gorffennaf.

"Rhys a gafodd ganlyniadau'r prawf. Wedi'r cyfarfod ddydd Llun fe fydd yna benderfyniad a ddylid mynd i'r llys ai peidio.

"Wedi i chi gael canlyniad braidd yn rhyfedd, rydych yn cael eich gwahardd dros dro fel chwaraewr."

Pynciau cysylltiedig