大象传媒

Gwersi coginio yn dysgu pobl sut i arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Sue Heffernan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda chostau'n parhau i gynyddu, byddai siop archfarchnad a gostiodd 拢100 flwyddyn yn 么l bellach yn costio 拢112.70

Mae'r cynnydd ym mhrisiau bwyd wedi arwain rhai at gael gwersi i ddysgu sut i arbed arian wrth goginio.

Mae cynhwysion iach a thechnegau coginio sylfaenol yn cael eu cyflwyno i grwpiau o bobl ledled Cymru.

Dywedodd rhai oedd yn mynychu dosbarth yn Y Barri ym Mro Morgannwg eu bod wedi dysgu sut i arbed arian wrth siopa am fwyd, ac wedi gwella eu hiechyd meddwl.

Yn 么l trefnydd y gwersi - y dietegydd Sherree Robertson - mae'n "gamsyniad" bod bwyta'n iach yn ddrud, ac mae pris ei phrydau bwyd wedi'i gynllunio i fod yn "agored i bawb".

Gostyngodd chwyddiant - sy'n mesur y gyfradd y mae prisiau'n codi - i 6.8% ym mis Gorffennaf. Mae cwymp yn y gyfradd chwyddiant yn golygu bod prisiau'n dal i godi, ond ar gyfradd arafach.

Yn y cyfamser arhosodd y gyfradd chwyddiant ar gyfer bwyd yn unig ar 12.7%. Mae hyn yn golygu y byddai taith siopa a gostiodd 拢100 flwyddyn yn 么l bellach yn costio 拢112.70.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sherree Robertson sy'n arwain y gwersi yn Y Barri, gan ddangos i bobl sut i goginio prydau gwahanol a'u tywys ar brofiad siopa

"Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i'r gwersi yn gofyn i mi faint rydw i wedi'i wario ar bob rys谩it," dywedodd Sherree Robertson.

"Felly dwi'n esbonio iddyn nhw fod rhai pethau'n dod o'r cwpwrdd yn y gegin, a bod pethau eraill yn dod o'r siop.

"Rydym hefyd yn cynnal profiad siopa hefyd, fel y gallan nhw ddod i siopa gyda ni."

Ar y teithiau siopa, mae'r myfyrwyr yn dysgu sut i ddod o hyd i opsiynau rhatach, sydd gyda'r un cynnwys maethol 芒 chynnyrch y cwmn茂au mwy adnabyddus.

Yn y gwersi wythnosol, mae myfyrwyr yn dewis pa brydau y byddan nhw'n eu paratoi, ac yna'n coginio a bwyta'r prydau gyda'i gilydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ashley Palmer (dde) fod y cwrs wedi lleihau ei ddibyniaeth ar brydau parod

Dywedodd Ashley Palmer fod ei agwedd at goginio wedi "newid yn llwyr" ers dechrau'r cwrs.

"Mae wedi helpu gyda fy iechyd meddwl, i gymdeithasu, ac mae wedi fy nysgu i ddarllen cefnau pacedi'r nwyddau pan fyddaf yn mynd i siopa," meddai.

"Mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi goginio gartref."

Costiodd pizzas gwnaeth y myfyrwyr 拢2.09 i'w gwneud, sy'n sylweddol rhatach na'r rhan fwyaf o pizzas ffres yn y siopau.

Mae'r gwahaniaeth yn y gost wedi lleihau dibyniaeth Ashley ar brydau parod wedi'u rhewi, a oedd yn swper rheolaidd iddo cyn dechrau'r dosbarthiadau coginio.

"Gyda'r prydau parod, wedi'u rhewi, roedd pob un yn costio 拢5 neu 拢6," esboniodd Ashley. "Ond nawr gyda'r cynhwysion yma, gallwn i wneud y pryd hwn am lai na 拢3."

Cynyddu cyfleoedd am ddiet iach

Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro sydd wedi trefnu'r gwersi yn Y Barri.

Mae rhai myfyrwyr wedi eu cyfeirio yno gan weithwyr proffesiynol fel ymwelwyr iechyd, ond gall unrhyw un gofrestru am ddim.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cwrs hefyd yn dysgu myfyrwyr sut mae bwyta'n iach drwy goginio eu bwyd eu hun

Dywedodd Emma Holmes, sy'n goruchwylio'r prosiect ar gyfer y bwrdd iechyd, fod y dosbarthiadau'n boblogaidd gyda phobl sydd eisiau gwella eu sgiliau coginio ac arbed arian.

"Mae prisiau bwyd wedi cynyddu'n sylweddol ac rydym i gyd wedi gweld ein bil siopa wythnosol yn cynyddu.

"Os ydych chi eisoes yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd, gall fod yn anoddach fyth.

"Yr hyn y mae cyrsiau fel hyn yn ei wneud yw cynyddu'r cyfleoedd a'r opsiynau i bobl gael gafael ar ddiet iach, sy'n rhywbeth, fel cymdeithas, rydyn ni i gyd eisiau ei wneud."

'Da i fy iechyd meddwl'

Dywedodd un arall o'r criw yn Y Barri, Linda Jones, ei bod wedi perswadio ei ffrindiau i gofrestru ar gyfer y dosbarthiadau.

"Rydyn ni ar ein seithfed dosbarth, ac mae ein un olaf yfory, sy'n drist iawn. Hoffwn ymuno eto, ond sai'n credu bod nhw'n caniat谩u hynny!" meddai.

"Rydyn ni wedi annog llwythi i ddod - mae llawer o'n ffrindiau wedi cofrestru yn barod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Linda Jones [chwith] a Sue Heffernan eu bod wedi mwynhau'r gwersi ac maent yn annog eraill i ymuno

Dywedodd Sue Heffernan, a fynychodd y dosbarth hefyd, ei fod wedi agor ei llygaid i'r arbedion posib.

"Rydych chi'n edrych [ar y prydiau] ac yn meddwl, wel, mae hynny'n llawer rhatach na phrynu pizza.

"Ac rwy'n meddwl bod mwy o flas pan fyddwch chi'n gwneud eich rhai eich hun, oherwydd gallwch chi ychwanegu mwy o bethau ato hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teimla Tom Halleron bod y cwrs hefyd wedi'i helpu gyda'i iechyd meddwl

Cytunodd ei chyd-fyfyriwr Tom Halleron.

"Mae'n mynd 芒 chi allan o'ch comfort zone," meddai.

"Dydyn ni erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen, felly mae'n rhoi gwybodaeth newydd i ni.

"Rydyn ni i gyd yn ei fwynhau, ac mae'n mynd 芒 chi allan o'r t欧. Mae'n dda i'ch iechyd meddwl hefyd."

Pynciau cysylltiedig