Ynys M么n: Ap锚l wedi anafiadau 'catastroffig' i wartheg
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar 么l i wartheg ddioddef "anafiadau catastroffig" a marw ar Ynys M么n.
Y gred yw bod ci wedi bod yn rhydd yn yr un cae 芒'r pedair buwch, oedd yn cario lloi, ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd.
O ganlyniad, mae'r gwartheg wedi disgyn i lawr llethr serth, gan ddioddef anafiadau difrifol.
Digwyddodd rhyw bryd rhwng tua 15:00 ar 23 Awst a 10:00 y bore canlynol.
Dywedodd yr heddlu y byddai'r digwyddiad yn golygu "cost ariannol sylweddol" i'r ffermwr, yn ogystal 芒'r "effaith emosiynol o ganfod ei stoc mewn amgylchiadau mor frawychus".
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gwybodaeth, neu sy'n gwybod bod eu ci yn rhydd yn y cyfnod ac a allai fod yn gyfrifol, i gysylltu gyda nhw.