Rhod Gilbert: Paratoi sioe newydd wedi triniaeth am ganser
- Cyhoeddwyd
Mae Rhod Gilbert yn paratoi sioe deithiol newydd y flwyddyn nesaf ar 么l derbyn triniaeth ganser.
Fis Gorffennaf diwethaf fe gyhoeddodd y comed茂wr 54 oed ei fod yn derbyn triniaeth i ymladd canser cam pedwar yn ei ben a'i wddf.
Ond dywedodd wrth 大象传媒 Radio Wales ei fod yn ddiolchgar iawn i'r GIG a Chanolfan Ganser Felindre am "fy nghael yn 么l ar fy nhraed".
"Fy agwedd newydd yw bod bywyd yn rhy fyr," meddai.
"Mae'n rhaid i chi gracio ymlaen a gwneud y pethau hyn."
Fis Mai fe berfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf ers derbyn y diagnosis.
Wrth siarad ag Eleri Sion ddydd Gwener, dywedodd ei fod hefyd yn teimlo'n ddigon cryf i arwain taith i Mount Toubkal ym Moroco fis nesaf.
Bydd y daith yn codi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, lle dderbyniodd ei driniaeth canser a lle mae hefyd wedi bod yn noddwr am y 10 mlynedd diwethaf.
Dywedodd yn flaenorol mai yn ystod taith codi arian i Giwba yn 2022 y sylwodd y lwmp yn ei wddf a y tro cyntaf.
Hyd yn hyn, mae wedi helpu i godi dros 拢1.8m i Felindre.
"Fe wnaeth pawb ar y teithiau cerdded hynny ymdrech enfawr felly gyda'n gilydd rydyn ni i gyd wedi codi [yr arian hwnnw]," meddai.
"Rydw i wedi bod yn Felindre pan maen nhw wedi bod yn rhwbio fy nhraed, tra rydw i'n cael cemotherapi a'r holl bethau ychwanegol hynny nad ydyn nhw o reidrwydd yn y GIG. Dyna lle mae'r arian yn mynd.
"Felly rydw i wedi gweld drosof fy hun pa wahaniaeth mae arian yn ei wneud.
"Rwy'n falch iawn o fy nghysylltiad 芒 Felindre - doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddai'n mynd fel hyn ond rwy'n falch iawn ohono serch hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2016