Yr actores Rakie Ayola yn derbyn Tlws Si芒n Phillips
- Cyhoeddwyd
Yr actores Rakie Ayola o Gaerdydd sy'n derbyn Tlws Si芒n Phillips BAFTA Cymru eleni.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol mewn ffilm neu raglen deledu.
Mae Ms Ayola wedi actio ym myd ffilm, theatr a theledu am dros 30 mlynedd, ac mae hefyd yn ymgyrchydd brwd dros ehangu cynrychiolaeth ym myd perfformio.
Yn wreiddiol o Drel谩i, bu'n rhan o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru pan yn iau, cyn mynd i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn ddiweddar mae wedi chwarae cymeriadau yn The Pact ar 大象传媒 One - lle bu hefyd yn uwch-gynhyrchydd - a'r ffilm Anthony, lle portreadodd Gee Walker gan dderbyn gwobr yr Actores Gefnogol Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021 am ei pherfformiad.
Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae'r actorion Rhys Ifans, Matthew Rhys, Michael Sheen, Ioan Gruffudd a Ruth Jones, y cynhyrchydd teledu Bethan Jones, y sgriptiwr teledu Russell T Davies a'r artist colur Si芒n Grigg.
'Talent anhygoel sy'n ysbrydoli'
Dywedodd Ms Ayola: "Mae wedi cymryd amser hir i mi brosesu'r newyddion yma. A dweud y gwir, dyw e dal ddim yn teimlo'n real.
"Diolch yn fawr iawn BAFTA Cymru am fy newis fel enillydd Gwobr Si芒n Phillips eleni.
"Mae gwaddol yn rhywbeth hanfodol bwysig i mi, felly mae'n anrhydedd enfawr i mi ymuno 芒'r rhestr o'r rhai sydd wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol, gyda'r gobaith y gallaf ddefnyddio'r platfform anhygoel hwn i annog a gweithio gydag eraill fydd, gobeithio yn ymuno 芒 ni ar y rhestr yn y dyfodol."
Dywedodd Rebecca Hardy, pennaeth dros dro BAFTA Cymru: "Mae Rakie yn dalent anhygoel sy'n ysbrydoli, gyrru a chyfoethogi'r diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt.
"Yn rym creadigol sydd a galw mawr amdani, mae hi hefyd mor falch o'i gwlad, ac yn chwifio baner Cymru ar bob cyfle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Awst 2023