大象传媒

Costau byw: 'Dim dwywaith' bydd pobl yn dal i ddioddef

  • Cyhoeddwyd
GaeafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd y bydd yr argyfwng costau byw yn taro nifer o deuluoedd yng Nghymru dros y gaeaf

Bydd yr argyfwng costau byw yn dal i gael "effaith aruthrol" ar rai teuluoedd dros y gaeaf, yn 么l arolwg ar ran felin drafod annibynnol.

Yn 么l ymchwil gan YouGov ar ran Sefydliad Bevan nid yw'r sefyllfa ariannol wedi gwella i lawer, er gwaethaf cymorth gan lywodraethau'r DU a Chymru.

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan: "Fel y mae chwyddiant yn gostwng o'r diwedd, mae'n bosib fod gobeithion fod y gwaethaf drosodd o ran yr argyfwng costau byw.

"Ond mae'r canfyddiadau diweddaraf yn dangos nad ydi pethau'n gwella ar lawr gwlad, ac i filoedd o bobl mae bywyd yn parhau i fod yn hynod anodd."

Beth mae'r arolwg yn ei ddangos?

Ym mis Gorffennaf 2023 roedd un o bob saith o deuluoedd yng Nghymru (15%) yn methu fforddio prynu eitemau angenrheidiol, o'i gymharu 芒 14% ym mis Ionawr 2023.Yn 么l y gwaith ymchwil, roedd 26% o bobl yn bwyta prydau llai, neu'n mynd heb brydau'n gyfan gwbl wrth geisio rheoli eu harian.

Roedd 29% yn benthyca arian, a 13% ar ei h么l hi gyda'u dyledion.

Roedd y ganran o bobl oedd yn mynd heb wres yn eu cartrefi wedi gostwng, ond rhybuddiodd Dr Evans y gallai'r niferoedd godi wrth i'r tymheredd ostwng.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan "nid nawr yw'r amser i gymryd cam yn 么l"

"Yn ystod y pandemig Covid-19 a dros aeaf 2022 fe wnaeth llywodraethau'r DU a Chymru gamu i mewn i ddarparu cefnogaeth sylweddol i ddiogelu pobl", meddai Dr Evans.

"Hyd yma mae'r gefnogaeth sydd wedi ei addo ar gyfer y gaeaf yn llawer iawn llai.

"Gyda dim arwydd fod yr argyfwng costau byw yn gwella, nid nawr yw'r amser i gymryd cam yn 么l."

Roedd cymaint a 49% o'r ymatebwyr ar Gredyd Cynhwysol neu fudd-daliadau eraill wedi mynd heb fwyd, neu'n bwyta prydau llai.

Roedd y ffigwr yn debyg yn y sector rhentu preifat, a'r anabl, lle'r oedd 48% a 46% yn mynd heb neu'n bwyta llai.

A rhwng Ebrill a Gorffennaf, roedd 47% o rieni gyda phlant o dan 18 oed wedi benthyca arian.

'Mae pobl yn mynd i ddioddef'

Dywedodd Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan fod angen i lywodraethau gamu i mewn i gefnogi gyda'u costau byw dros y misoedd nesaf. "Mae'r argyfwng cynddrwg ag yr oedd y gaeaf diwethaf, ac mae'r cartrefi sy'n cael eu taro waethaf angen cymorth os ydyn nhw am fwyta a chadw'n gynnes dros y misoedd sydd i ddod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jason Edwards yn ofni y bydd llawer mwy o alw ar fanciau bwyd dros y gaeaf

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth cytunodd Jason Edwards, rheolwr Hwb Cefnogaeth Gymunedol Conwy ym Mae Colwyn, a gwirfoddolwr gyda banc bwyd Penmaenmawr, fod y sefyllfa'n gwaethygu yn lle gwella.

"'Dan ni'n disgwyl iddo fo fod lot gwaeth y gaeaf yma", meddai.

"Mae chwyddiant ar fwyd, yn enwedig i bobl sy'n prynu budget lines... mae'r stwff 'na sy'n rhad i'w brynu, mae hwnna ella wedi dyblu yn ei bris. Does 'na ddim control arno fo.

"Mae pobl yn mynd i ddiodda', does na'm dwywaith amdani.

"Da ni'n disgwyl gwario tua pum gwaith gymaint a be' oeddan ni'n wario bedair blynedd yn 么l, so mae'n amlwg be sy'n digwydd.

"Hefyd dydan ni ddim yn cael cymaint o fwyd y dyddiau yma, mae rhoddion pobl wedi mynd i lawr.

"'Dan ni'n disgwyl gweld lot mwy [o bobl] y gaeaf yma, ond 'dan ni'n gweld pobl gwahanol yn dod - pobl fysa byth yn meddwl eu bod nhw isio banc bwyd. Mi fydd hynna'n broblem fawr dwi'n meddwl."

Roedd costau ynni hefyd yn mynd i godi'r niferoedd sy'n defnyddio'r banc bwyd, meddai.

"Mae hi'n braf neis ar y funud, ond buan iawn 'neith hi oeri a pan mae hynny'n digwydd, 'dan ni'n mynd i weld y niferoedd yn codi'n eitha uchel."