Concrit RAAC Neuadd Dewi Sant Caerdydd 'yn ddiogel'
- Cyhoeddwyd
Mae math o goncrit sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd yn un o neuaddau cyhoeddus Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) wedi ei ddefnyddio yn nenfwd Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas, ond yn dweud nad yw wedi dirywio.
Daw wrth i arbenigwr alw am adolygiad diogelwch brys o holl adeiladau cyhoeddus Cymru i weld a ydyn nhw'n cynnwys y concrit.
Mae dwy ysgol yn Ynys M么n eisoes wedi cael eu cau ar 么l i RAAC gael ei ddarganfod yno.
'Neuadd Dewi Sant yn ddiogel'
Mae RAAC sydd wedi heneiddio yn gallu dymchwel yn ddirybudd, yn 么l yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod archwiliadau cyson o'r RAAC yn Neuadd Dewi Sant wedi bod dros 18 mis, ac nad yw'r deunydd wedi dirywio yn y cyfnod.
Dywedodd llefarydd ei bod yn "ddiogel parhau i weithredu fel yr arfer".
Ond ychwanegodd y llefarydd bod cynllun diogelwch mewn grym "er mwyn sicrhau bod y neuadd yn parhau'n ddiogel yn y tymor byr".
Fe fydd gwaith i adfer y rhannau o'r neuadd sy'n cynnwys RAAC yn digwydd yn y "tymor hir", meddai'r cyngor.
Yn siarad fore Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr y Sefydliad Peirianwyr Strwythurol bod angen asesu holl adeiladau cyhoeddus Cymru.
"Mae angen i ni ddarganfod maint y broblem," meddai Keith Jones.
"Gallwn ni ddim dechrau symud ymlaen os nad ydyn ni'n gwybod gwir faint hwn."
Ddydd Llun, fe wnaeth y gweinidog addysg fynnu bod ysgolion yng Nghymru yn ddiogel.
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i asesu maint y broblem mewn ysgolion a cholegau, gyda disgwyl y canlyniadau mewn pythefnos.
Daw wedi i RAAC gael ei ddarganfod mewn tri ysbyty yn gynharach eleni.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, fe wnaeth y Gweinidog Addysg alw eto am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU ynghylch y mater.
Dywedodd Jeremy Miles: "Fe gafwyd y cyngor nos Sul a oedd yn sail i'r camau a gymerwyd, ond beth hoffwn ni nawr yw gweld y data technegol a'r cyngor arbenigol y mae Llywodraeth San Steffan wedi ei dderbyn fel bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu asesu a rhannu gyda swyddogion llywodraeth leol.
"Dy'n ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd a fydd angen gwaith atgyweirio, bydd yn rhaid edrych ar y gost ar 么l i'r asesiadau gael eu cynnal."
Ychwanegodd: "Ry' ni'n gweithio gyda chynghorau ar draws Cymru i weld a oes ysgolion eraill lle mai RAAC yn risg... Mae nifer [o ysgolion] wedi dweud eu bod nhw'n sicr nad oes RAAC yn eu hadeiladau a gwaith yn parhau ar hynny."
Wrth gymharu'r sefyllfa 芒 gweddill y DU dywedodd y gweinidog: "Mae'r sefyllfa ychydig yn wahanol yng Nghymru am fod nifer o ysgolion wedi eu hadeiladu cyn cyfnod RAAC, o bosib yn rhai Fictorianaidd, ac wedyn llawer yn ysgolion modern iawn.
"Yn y ddwy ysgol dan sylw maen nhw wedi adnabod presenoldeb RAAC ers rhai blynyddoedd ac wedi bod yn delio ag e'n ddiogel gyda chyngor arbenigol sydd ar gael ar sut i ddefnyddio ac ymateb i RAAC.
"Maen siom fawr i'r rhai sy'n mynd n么l i'r ysgol neu oedd yn mynd i ddechrau am y tro cyntaf ond diolch i'r cyngor ar ysgol am weithio mor gyflym."
Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys M么n: "Ma' rhaid i ni gael sicrwydd ariannol, oherwydd ma' hwn yn mynd i fod efallai yn gost anferthol.
"Fel dywedodd y gweinidog, 22:00 nos Sul oedd ein swyddogion ni'n trafod y sefyllfa oherwydd mai nos Sul ddoth y wybodaeth ac fel ddywedodd y gweinidog, 'da ni dal yn disgwyl mwy o wybodaeth gan San Steffan."
Yn ymateb i gyhuddiadau gan rhai y dylai cynghorau fod wedi gweithredu'n gynharach dywedodd Ms Medi: "'Da ni 'di bod yn gwneud adolygiadau blynyddol [o RAAC] ar ein hunain, doedd na ddim disgwyliad arnon ni i wneud hynny, oeddan ni'n bod ella yn or-ofalus.
"Ond dydd Iau diwethaf penderfynodd Llywodraeth San Steffan i newid hynny [y canllawiau], a be' ma' rywun isio gwybod ydy beth yn union yw'r rhesymeg arbenigol.
"Ond heddiw ein blaenoriaeth ni ydy'r ddwy ysgol yma ym M么n, y plant, y bobl ifanc, y rhieni a'r staff."
'Angen atebion'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod yn "aros i lywodraeth Llafur Cymru i wneud rhywbeth" am y mater.
Yn 么l Mr Davies nid yw Lywodraeth Cymru "wedi dilyn y camau penderfynol sydd wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr dros yr 18 mis diwethaf.
Ychwanegodd: "Mae rhan o'r hyn mae pobl yn ei ddweud wrth geisio troi hyn yn fater gwleidyddol yn fy mhryderu ac mae'n hynod annheg."
Dywedodd Laura Anne Jones AS o'r Ceidwadwyr Cymreig ei bod "yn amlwg nad oedd y llywodraeth Lafur yn meddwl mai eu cyfrifoldeb nhw oedd hyn a gadael i gynghorau lleol ddelio 芒'r dasg anferthol hon".
"Er fy mod yn croesawu'r arolwg trylwyr o ysgolion sydd bellach wedi dechrau, mae'n destun pryder y bydd y gwiriadau hyn yn cymryd hyd at fis Rhagfyr i'w cwblhau. Gwyddom fod d诺r yn cael effaith enfawr ar y math hwn o goncrit ac wrth ddod i mewn i fisoedd gwlyb yr hydref mae angen i ni fod yn gynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023