Wilko: Cau chwe siop a cholli 186 o swyddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr cwmni Wilko wedi cadarnhau y bydd chwech o'i siopau yng Nghymru yn cau, ynghyd 芒 chanolfan dosbarthu ym Magwyr ger Casnewydd.
Mae disgwyl y bydd 186 o swyddi yn cael eu colli - 107 yn y siopau a 79 yn y ganolfan ddosbarthu.
Bydd siopau Bae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot yn cau ar 12 Medi, a siopau Treforys, Heol y Frenhines Caerdydd a'r Rhyl ar 14 Medi.
Dywedodd Edward Williams, o'r gweinyddwyr PwC: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth aelodau o'r t卯m yn ystod y cyfnod anodd yma ac rydym wedi'n hymroi i wneud popeth gallwn ni i helpu'r staff sydd wedi'u heffeithio."
Ychwanegodd bod trafodaethau'n parhau gyda rhai sydd 芒 diddordeb mewn prynu rhan o'r busnes, ond rhybuddiodd ei fod yn bosib y bydd yn rhaid cau mwy o siopau yn y dyfodol.
'Lot o ddagrau'
Dywedodd Paul McGuire, cyn-weithiwr Wilko a threfnydd rhanbarthol undeb y GMB yn y de bod y broses yn un anodd i'r staff.
"Fe fues i yn ymweld 'da rhai o'r siopau heddi. Mae 'na lot o ddagrau ac ansicrwydd mawr," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
Eglurodd nad yw pob aelod o staff yn wynebu colli eu swyddi yn syth ond mae'n rhagweld y bydd rhagor o siopau yn cau:
"Fe ddaw 'na bwynt pan fydd y gweinyddwyr yn gorfod dweud digon yw digon. Rwy'n credu ein bod ni yn agosau at ddiwedd y broses.
"Dyw'r gweinyddwyr ddim yn mynd i gadw y siopau ar agor pan maen nhw just yn colli arian."
Rhybuddiodd Mr McGuire nad yw cytundeb i werthu rhai o adeiladau Wilko i B&M yn gwarantu unrhyw swyddi.
Dywedodd ei fod yn disgwyl i staff Wilko golli eu swyddi yn y siopau hynny pan fydd eu lleoliadau yn cael eu datgelu
Mae gan Wilko 29 o siopau yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023