大象传媒

Gwynedd: Premiwm treth ail gartrefi yn creu niwed 'parhaol'

  • Cyhoeddwyd
CricciethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y gr诺p tu 么l i'r ddeiseb mae'r premiwm ar y dreth yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth yn yr ardal

Mae deiseb yn galw am gael gwared 芒 phremiwm treth cyngor ar ail gartrefi wedi cael ei chyflwyno i Gyngor Gwynedd.

Ers mis Ebrill mae'r awdurdod lleol wedi bod yn codi premiwm o 150% ar dreth cyngor ail gartrefi.

Ond yn 么l y gr诺p a gyflwynodd y ddeiseb, sydd 芒 3,600 o lofnodion, mae'r dreth eisoes yn niweidio'r economi.

Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio mai "nid ar chwarae bach y daethpwyd i'r penderfyniad", ond mai nod y premiwm yw "cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl leol fyw yn eu cymunedau".

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno fore Mercher gan Paul Gill, sy'n berchen ail gartref yn ardal Abersoch.

Mae'n dweud ei fod yn cynrychioli gr诺p "anffurfiol" o 477 o aelodau, sy'n cynnwys perchnogion ail gartrefi a busnesau lleol fel siopau, tafarndai ac atyniadau i ymwelwyr.

Dywedodd Mr Gill: "Bydd y premiwm treth cyngor yn niweidio economi Gwynedd yn barhaol. Twristiaeth ydy prif yrrwr yr economi yng Ngwynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Paul Gill mae'r dreth yn "effeithio ar aelodau tlotaf y gymuned"

"Mae'n iawn i gyflwyno mesurau i gynyddu'r tai fforddiadwy. Ond dydy t欧 ddim yn fforddiadwy os ydy'r perchennog yn cael ei wneud yn ddi-waith.

"Bydd hyn yn effeithio ar aelodau tlotaf y gymuned."

Premiwm hyd at 300%

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r grym i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 300% ar ail gartrefi o fis Ebrill 2023.

Mis Rhagfyr 2022, fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd o blaid codi'r premiwm o 100% i 150%.

Mae'n golygu, er enghraifft, bod trigolion yn talu 拢1,000 am brif gartref tra bod perchennog t欧 o'r un fath sy'n ail gartref yn talu 拢2,500.

Fel mewn siroedd eraill yng Nghymru, roedd perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd wedi bod yn talu premiwm o 100% - neu ddwbl - treth cyngor ers Ebrill 2021.

Mae'r cynnydd yn rhan o ymgais i helpu pobl brynu cartrefi yn yr ardaloedd ble cawsant eu magu.

Ond yn 么l Paul Gill, nid oherwydd perchnogion ail gartrefi y mae pobl leol yn cael trafferth prynu tai.

Mae'n dweud nad ydy pobl leol yn medru fforddio prynu cartrefi am nad ydy Cyngor Gwynedd wedi sicrhau stoc o dai fforddiadwy ers degawdau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn Abersoch y mae'r nifer uchaf o ail gartrefi drwy Wynedd

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym yn pwysleisio na nid ar chwarae bach y daethpwyd i'r penderfyniad yma - cynhaliwyd ymgynghoriad o flaen llaw a rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r holl adborth a dderbyniwyd.

"Trafodwyd effaith y newid yn fanwl ar lawr y siambr ac mae'r cyngor wedi ymrwymo i fonitro effeithiau'r cynnydd yn y premiwm treth cyngor yn ofalus.

"Ers 2018, mae incwm o'r premiwm (hyd at 100%) wedi'i glustnodi ar gyfer ariannu Cynllun Gweithredu Tai'r Cyngor, sydd 芒'r nod o gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl leol fyw yn eu cymunedau, gan gynnwys adeiladu tai fforddiadwy newydd.

"Mae arian ychwanegol a godwyd gan y cynnydd o 100% i 150% wedi ei glustnodi ar gyfer mynd i'r afael 芒'r argyfwng digartrefedd, wrth i Wynedd weld cynnydd o 47% yn ffigyrau digartrefedd rhwng 2018/19 a 2021/2022."

Pynciau cysylltiedig