Dros 100 o bobl wedi'u hachub o draeth Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae gwylwyr y glannau yn dweud bod tua 120 o bobl wedi cael eu hachub ar 么l iddynt gael eu dal gan y llanw ar draeth Y Rhyl ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau achub eu galw am 16:00 gyda bad achub yr RNLI a thimoedd gwylwyr y glannau Y Rhyl a'r Fflint yn rhan o'r ymgyrch achub.
Defnyddiwyd y bad achub i gludo pobl yn 么l i'r llan, tra cafodd eraill eu casglu gan Land Rover yr RNLI.
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Caergybi fod rhai unigolion wedi cyrraedd yn 么l i'r lan ar eu pen eu hunain.
Daeth yr ymgyrch achub i ben yn fuan wedi 17:00 a ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd Martin Jones o'r RNLI: "Rydym yn falch fo gwirfoddolwyr yr orsaf wedi medru cynorthwyo cymaint o bobl heb unrhyw anafiadau difrifol i'r rhai cafodd eu hachub.
"Rydym o hyd yn dweud bod pobl yn rhydd i fwynhau ein traethau godidog ond mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'r llanw. Edrychwch yn 么l bob amser i weld a ydych mewn perygl o gael eich dal gan y llanw."