Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Risg i fyrddau iechyd Cymru orwario £800m'
- Awdur, Owain Clarke & Rhiannon Michael
- Swydd, Gohebydd Iechyd ´óÏó´«Ã½ Cymru a Gohebydd Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
Gall ´óÏó´«Ã½ Cymru ddatgelu bod yna risg y bydd gwasanaeth iechyd Cymru wedi gorwario dros £800m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Daw'r wybodaeth i'r amlwg wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru bellach ar lefel uwch o oruchwyliaeth yn sgil pryderon am "yr heriau ariannol eithafol maen nhw'n eu hwynebu".
Mae'r gweinidog iechyd wedi rhybuddio y bydd "penderfyniadau anodd" i'w gwneud i daclo'r "gorwario aruthrol".
Ond mae Eluned Morgan yn mynnu y dylai byrddau iechyd ddod o hyd i doriadau sy'n achosi'r "niwed lleiaf i gleifion."
Yn y gorffennol, mae'r gweinidog wedi rhybuddio bod y GIG yn ei ffurf bresennol yn "anghynaladwy".
Dywedodd Eluned Morgan bod y sefyllfa'n "siomedig".
"Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa ariannol anodd iawn rydym ynddi, o ganlyniad i chwyddiant a chyni, a'r heriau sy'n effeithio ar fyrddau iechyd.
"Rydym yn gweld pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, a sefyllfa ariannol eithriadol heriol yn y GIG - ond nid yw hyn yn unigryw i Gymru."
'Storm berffaith'
Yn ôl prif weithredwr Cyd-ffederasiwn y GIG yng Nghymru mae'r gwasanaeth yn wynebu ei sefyllfa ariannol mwyaf anodd yn ei hanes, yn ceisio ymateb i "storm berffaith" o gynnydd mewn galw a chostau cynyddol.
Mae'r corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd yn un o 32 sefydliad sy'n galw am "sgwrs genedlaethol gyhoeddus" ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal.
Yn ôl cyfrifon swyddogol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru wythnos diwethaf, roedd y saith bwrdd iechyd gyda'i gilydd wedi gorwario £150m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf hyd at Ebrill 2023.
Ond nôl yn y gwanwyn, roedden nhw'n rhybuddio Llywodraeth Cymru yn eu cynlluniau y byddai'r gorwario yn gallu bod lawer uwch - tua £650m.
Mae astudiaeth ´óÏó´«Ã½ Cymru'n awgrymu y gallai hyn godi i dros £800m - oni bai bod y byrddau'n dod o hyd i arbedion mawr yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Hwn fydd y gorwariant mwyaf erioed yn hanes gwasanaeth iechyd Cymru.
Pa mor bell aiff £800m o fewn GIG Cymru?
Er mwyn rhoi'r symiau ariannol mewn cyd-destun, dyma ambell gost i GIG Cymru:
- £358m oedd cost codi Ysbyty Athrofaol Y Faenor - ysbyty mwyaf newydd Cymru - yn Llanfrechfa, ger Cwmbrân;
- Mae Llywodraeth Cymru'n gwario ychydig dros £10bn y flwyddyn ar iechyd a gofal cymdeithasol;
- Tua £4.5bn yw cost cyflogau'r 94,000 o aelodau staff sy'n gweithio i GIG Cymru.
Un bwrdd iechyd sy'n agored am eu gorwariant yw Hywel Dda. Er bod y bwrdd wedi cynllunio i orwario £112.9m, mae eu cyfarwyddwr cyllid yn cydnabod bod y gwariant eleni wedi pasio hynny yn barod.
"Hon yw'r wasgfa fwyaf fi wedi gweld erioed yn fy ngyrfa i yn sicr ers datganoli," meddai Huw Thomas.
"Os edrychwn ni ar gostau ynni yn benodol fan hyn yn Glangwili… mae'n costau ynni ni wedi cynyddu o rhyw £5m ddwy flynedd nôl i £14m eleni. Felly mae'r cynnydd 'na'n gynnydd enfawr ar draws y bwrdd iechyd."
Ychwanegodd Mr Thomas fod costau ychwanegol o ran gwella isadeiledd ysbytai, fel Ysbyty Glangwili, sydd rywfaint yn hÅ·n.
"Mae'r gwaith o edrych ar ein isadeiledd a gweld beth allwn ni wneud i wneud hwnnw'n fwy effeithlon yn hynod o bwysig," dywedodd.
"Yn amlwg ry'n ni yn gweld y pwysau yna yn lleol ac er falle na fydd y gwasanaeth cyhoeddus yn rhedeg mas o arian mae hwn yn her i ni i geisio cael rhyw fath o falans rhwng anghenion y cyhoedd, anghenion ein cleifion ni ond hefyd ein dyletswydd ni tuag at y trethdalwr."
'Sefyllfa ddifrifol'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu sefyllfa ble mae "pob bwrdd iechyd yng Nghymru nawr dan ryw fath o ymyrraeth gan y llywodraeth oherwydd perfformiad gwael".
Yn ôl eu llefarydd iechyd, Russell George, mae'n "bositif bod y Gweinidog Iechyd Llafur yn cymryd rhyw gamau trwy gydnabod cyflwr enbyd GIG Cymru".
Ond mae'n dweud nad yw'n ffyddiog "o weld cyn lleied o welliannau mewn byrddau iechyd sydd eisoes yn cael eu monitro, y bydd llawer yn newid yn y misoedd nesaf".
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS, yn honni fod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi "colli gafael ar y sefyllfa" ar draws Cymru.
"Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach dan ryw fath o ymyrraeth. Mae hyn yn ddifrifol," dywedodd.
"Ni ddylai fod wedi cymryd cyhyd i'r gweinidog sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa yr oedd byrddau iechyd ynddi ac i weithredu."
Ychwanegodd fod angen "darparu darlun clir o les ariannol byrddau iechyd ar fyrder" gyda "chynllun sy'n rhoi hyder i gleifion, yn enwedig gyda phwysau'r gaeaf".