Cyhoeddi c芒n newydd i roi hwb i Fenter yr Eagles
- Cyhoeddwyd
Mae fersiwn Gymraeg o'r g芒n Hotel California wedi ei chyhoeddi fel rhan o'r ymdrechion i godi arian i ddatblygu tafarn enwog yr Eryrod yn Llanuwchllyn.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y perchnogion presennol eu bod yn ymddeol, ac fe gafodd Menter yr Eagles ei sefydlu i sicrhau dyfodol y dafarn.
Mae'r fenter wedi gosod targed i godi 拢500,000 er mwyn ei rhedeg fel tafarn, t欧 bwyta a siop gymunedol.
Fel rhan o'r ymdrechion, mae criw o gantorion a cherddorion enwog, sydd 芒 chysylltiadau yn lleol, wedi dod at ei gilydd i recordio'r fersiwn Gymraeg.
Y pedwar yw Osian Huw Williams, Branwen Haf, Marged Gwenllian ac Ifan Prys o fandiau Candelas a'r Cledrau.
Ar raglen Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru fore Iau, fe esboniodd Osian o ble ddaeth y syniad am greu fersiwn Gymraeg o g芒n enwog yr Eagles.
"Ges i'r syniad bod rhaid gwneud rhyw fath o g芒n neu cover ar gyfer yr ymgyrch i ysgafnhau bob dim a dod 芒 phawb at ei gilydd i helpu'r fenter," meddai.
"Ond fy mrawd-yng-nghyfraith sy'n cael y clod am gael y syniad, a na - doeddan ni ddim yn yr Eagles pan gafon ni'r syniad!"
Ychwanegodd: "Dwi a'n chwaer yn dal i fyw yn y pentref, ac mae Marged ac Ifan Prys o'r Cledrau i gyd yn dod o Lanuwchllyn - 'sa'n wirion 'sa ni ddim yn creu rhywbeth tebyg i hyn.
"Dwi ar y pwyllgor, ac ma' petha' yn gallu mynd mor ddifrifol - mae pobl yn mynd i boeni a meddwl os wyt ti am hel y pres - felly mae'n atgoffa pobl mai rhywbeth positif ydi hyn."
'Dipyn o swm'
Mae'r ymdrechion yn parhau i gyrraedd y nod o godi 拢500,000.
Hyd yma mae'r swm yn agos谩u at y 拢200,000 ac mae Osian yn ffyddiog y gallan nhw gyrraedd y targed.
"Mae o'n dipyn o swm. Mae pethau yn mynd yn ofnadwy o dda ar y funud - newydd basio y 拢200,000, sy'n anhygoel i bentref mor fach.
"Os 'dan ni yn cael 'chydig mwy - ryw 拢250,000 - croesi bysedd buasen ni'n cael arian cyhoeddus wedyn.
"Mae 'na gefnogaeth i bopeth yn yr ardal yma, ac o safbwynt personol, 'da ni'n mynd yno 'chydig yn rhy aml yn enwedig ar nos Iau ar 么l ymarfer c么r.
"Mae'n dafarn, ond hefyd yn siop a chymaint o gymdeithasau yn cwrdd yno o'r Ffermwyr Ifanc i'r to h欧n - dwi'n meddwl os fysan ni'n colli rhywle fel hyn mi fasa fo'n glec fawr.
"Dwi'n erfyn ar bawb i fynd i hel eu ceiniogau - mi fasa ni'n gwerthfawrogi lot."
Ac o ran y g芒n, mae Osian yn gobeithio y bydd yn hwb gwerthfawr i'r ymdrechion.
"Mae'n un o'r rheiny, os 'newch chi wrando arni, alla i sicrhau fydd hi'n sownd yn eich pennau drwy'r dydd - mae'n un o'r rheiny sy'n gweithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023