大象传媒

Ateb y Galw: Morgan Owen

  • Cyhoeddwyd
morganFfynhonnell y llun, Morgan Owen

Yr awdur a bardd o Ferthyr Tudful, Morgan Owen, sydd dan y chwyddwydr yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cropian rhwng coesau cadeiriau plastig yng ngardd fy mam gu a thad cu ym Merthyr ryw haf amser maith yn 么l.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd. Er bod tref fy magwraeth, Merthyr, yn annwyl iawn i mi, ac er fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus (ac anffodus) i symud nifer anghredadwy o weithiau o amgylch Cymru, Caerdydd yw'r lle i mi. Dyma'r lle gorau i grwydro: mae'n fil o lefydd mewn un! Mae'n fythol newydd, ond hefyd yn gyfarwydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Sut mae dewis? Y nosweithiau hynny sy'n herio gafael amser, lle mae'r cwmni'n gyt没n a'r sgwrsio'n llifo, lle mae'r strydoedd yn ddi-ben-draw a'r bore'n freuddwyd pell! Nosweithiau llawn lleisiau.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hoff o grwydro.

Ffynhonnell y llun, Morgan Owen

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Cwympo i gysgu ar y bws a deffro yn y maes awyr anghywir, a rhywsut cael lifft yn 么l i'r un iawn a dal fy awyren mewn pryd! Cyfuniad o dwpdra, lwc, a nerfau dur.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan oeddwn yn y Brifysgol, es i i ryw fath o ffair gwrw. Roedd yno danciau agored o gwrw, ac os oeddet ti am flasu peth, byddet ti'n cael gwelltyn i'w roi yn y cwrw a'i dynnu mas gyda dy fys dros yr agoriad at y top: byddai hynny'n cadw'r cwrw yn y gwelltyn, a gallet ti wedyn ei ollwng yn dy geg.

Doeddwn i ddim yn gwybod hyn: yfais yn syth o'r tanciau gyda'r gwelltyn! Dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach y sylwais beth oedd y ffordd iawn. Cringe-ais wrth ddychmygu ymateb y bragwyr wrth i mi contaminato eu tanciau o gwrw!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi wir ddim yn gwybod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gadael llyfrau ar hyd y lle yn y t欧. Trafod unrhyw beth rwy'n ei ysgrifennu yn ddi-baid gyda phawb hyd syrffed.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae fy hoff lyfr yn amrywio o hyd! Ond heddiw, 芒'r hydref yn agos谩u, byddwn yn dweud The Bloody Chamber gan Angela Carter. Dyma glasur, i mi: straeon lled-arswydus sy'n seiliedig (i raddau helaeth) ar straeon gwerin a chwedlau eraill, ond gyda dogn mawr o wreiddioldeb, a'r ysgrifennu'n gain iawn heb fynd yn dros ben llestri. Mae cyfrolau ysgrifau T. H. Parry-Williams hefyd yn dal eu tir yn gyson ar ben fy nhomen o lyfrau cyfredol.

O ran albym (er na ofynnwyd): Physical Graffiti gan Led Zeppelin. Mae'n rhychwantu cymaint.

Ffynhonnell y llun, Morgan Owen

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Rhyfeddod i mi yw'r ffaith bod Merthyr yn dref Gymraeg ei hiaith, ar y cyfan, tan ddechrau'r 20fed ganrif. Byddwn wrth fy modd yn gwrando ar hen siaradwyr Gwenhwyseg Merthyr, a'u holi hefyd. Hefyd, fy nhad cu ar ochr fy nhad, a fu farw cyn i mi ddod i'w nabod. Gweithiodd yn y diwydiant dur ar hyd ei oes, a gwelodd ddiwedd cyfnod diwydiannol Merthyr a'r holl newidiadau a ddaeth gyda hynny. Byddwn am glywed ei hanesion i gyd.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fe wnes i astudio Ll锚n Saesneg yn y Brifysgol i ddechrau cyn newid i'r Gymraeg.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ymlacio. Pa iws fyddai poeni neu drafferthu!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ger Heolgerrig, ym Merthyr, mae yna goedwigoedd derw a bedw trawiadol, ac oddi tanynt gallwch weld y dref, ac i'r gogledd, dyna Fannau Brycheiniog. Mae'n nhw'n gyforiog o fywyd gwyllt o bob math, a phan oeddwn yn tyfu lan, byddwn yn crwydro ar hyd y coedwigoedd hyn yn rheolaidd, ac mae nifer o'r golygfeydd a welais yn aros y glir yn y cof.

Ffynhonnell y llun, Morgan Owen

Yn anffodus, mae cynlluniau datblygu yn eu bygwth. Prin ar y cyfan yw'r cyfleoedd a gaf i'w gweld nhw bellach - ond os am fynd, yn yr hydref maen nhw ar eu gorau!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Broga - dim problemau, dim cyfrifoldebau. Jyst eistedd ar ddeilen braf heb ofal yn y byd.

Pynciau cysylltiedig