大象传媒

'Byddai safle Tata wedi cau heb gymorth ariannol'

  • Cyhoeddwyd
Gwaith dur Tata ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r 8,000 o bobl sy'n cael eu cyflogi gan Tata yn y DU mae hanner ohonyn nhw'n gweithio ym Mhort Talbot

Fe fyddai cwmni Tata Steel wedi cau eu safle ym Mhort Talbot a chefnu ar y DU yn gyfan gwbl oni bai am eu cytundeb diweddaraf gyda Llywodraeth y DU, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.

Mae yna ofnau bod miloedd o swyddi yn y fantol yn sgil y cytundeb i ddiogelu'r safle ac i helpu'r cwmni leihau allyriadau wrth gynhyrchu dur.

Dywedodd David TC Davies wrth raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales y byddai miloedd yn rhagor wedi diflannu oni bai am 拢500bn o gymorth gan Lywodraeth San Steffan.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn wrth Tata am ymateb, ond mae'r cwmni wedi dweud eisoes bod y safle'n gwneud colled o hyd at 拢1.5m y diwrnod.

Mae'r cwmni'n ychwanegu 拢700m ei hun at 拢500m Llywodraeth y DU i symud o gynhyrchu metel crai mewn ffwrneisi chwyth wedi eu pweru gan danwydd ffosil.

Y bwriad yn hytrach yw i gynhyrchu dur wedi ei ailgylchu gan ddefnyddio ffwrneisi arc drydan gydag ynni adnewyddadwy.

Sefyllfa 'hynod o drist'

Dywedodd Mr Davies bod hi'n hysbys ers rhai blynyddoedd bod angen defnyddio technoleg arall gan fod safle Port Talbot yn gwneud colledion mawr.

"Dyw'r un cwmni byth yn mynd i dderbyn colledion fel 'na, felly wnaethon nhw benderfynu bod nhw am gau'r safle yna," dywedodd.

"Pan ddaethon ni i wybod hynny wnaethon ni ddechrau trafodaethau gyda nhw fel llywodraeth i ddweud "edrychwch, allwn ni wneud rhywbeth i gadw cynhyrchu dur yna? Beth sydd angen i ni wneud i gadw Tata yma?'

"Roedden ni'n trafod pris cefnogi ffwrnais arc drydan. Fe gaethon ni'r maen i'r wal yn y diwedd. Rydyn ni'n talu 拢500m nawr i Tata."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tata Steel hefyd 芒 safleoedd yn Shotton, Llanwern a Throstre yng Nghymru, a Corby, Hartlepool a Shapfell yn Lloegr

Ychwanegodd: "Dydy hynny ddim yn mynd i arbed pob swydd, ond mae yn mynd i achub swyddi ar y cyfan oherwydd roedd Tata yn edrych ar dynnu allan o'r DU."

Mae Mr Davies yn amcangyfrif y byddai'r fath sefyllfa wedi arwain at golli 12,500 o swyddi i gyd. Mae'r ffigwr yna'n cynnwys yr 8,000 o bobl sy'n gweithio i Tata ei hun, a'r gweithwyr sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Dan y cytundeb rhwng y llywodraeth a Tata mae disgwyl tua 3,000 o ddiswyddiadau, ac yn sgil hynny fe ddywedodd bod y sefyllfa'n "hynod o drist"

"Dyw e ddim yn ddiwrnod i ddathlu," dywedodd.

"Naethon ni popeth posib i achub swyddi, ac i wneud yn si诺r bod dur yn dal yn cael ei gynhyrchu ond dydw i ddim yn mynd i guddio rhag y ffaith bod hyn yn dal yn newyddion ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd hyd at 拢100m yn cael ei neilltuo er mwyn helpu gweithwyr sy'n cael eu heffeithio

Ddydd Gwener, gan gyfeirio at asedau oedd yn tynnu at ddiwedd eu hoes ym Mhort Talbot, fe ddywedodd rheolwr gyfarwyddwr Tata Steel, T V Narendran wrth 大象传媒 Cymru: "Roedden ni'n cyrreedd pwynt ble roedd rhaid i ni wneud penderfyniad ac rydym wedi bod yn agored ynghylch hynny.

"Fe wnaethon ni ddweud, rai misoedd yn 么l, bod gyda ni flwyddyn, mwya' tebyg, ar 么l i benderfynu ar y naill ffordd neu'r llall."

Ychwanegodd bod amseriad y cytundeb "wedi bod yn amserol iawn - o leiaf rydym wedi sicrhau dyfodol y safle".

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn sicrhau "ystod eang o gefnogaeth i unrhyw staff sy'n cael eu heffeithio gan y newid, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Tata Steel i sicrhau bwrdd trawsnewid penodol i gefnogi'r gweithwyr dan sylw a'r economi leol gyda hyd at 拢100m o gyllid".