O'r uned gofal dwys i Gwpan Rygbi'r Byd

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Dipyn o newid mewn pum mis: Wil Williams yn yr uned gofal dwys yn Lerpwl fis Ebrill, a gyda'i wraig Caron cyn g锚m Cymru v Fiji fis Medi

Ddechrau'r flwyddyn fe gafodd Wil Williams ddiagnosis o ganser a dim ond tri mis i fyw. Heddiw, mae o'n dilyn t卯m rygbi Cymru ar draws Ffrainc efo gwerth deufis o dabledi cemotherapi - ac yn benderfynol o aros tan ffeinal Cwpan y Byd os oes angen...

'N么l yn Ebrill 2022 fe benderfynodd y g诺r o Rhiwlas a'i wraig Caron ddechrau cynllunio am daith fythgofiadwy. Ar 么l prynu tocynnau i'r pedair g锚m gyntaf a champerfan roedd 'na hen edrych 'mlaen.

Ond fis Ionawr eleni fe newidiodd popeth ar 么l i Wil fynd i'r adran frys yn ysbyty Gwynedd Bangor efo clefyd melyn, jaundice.

"Wnaeth y meddyg yn A&E eistedd fi i lawr a gofyn 'yda chi'n gwybod pam 'da chi yma?'" eglurodd Wil wrth Cymru Fyw, o'i gamperfan yn Cannes. "'Ydw,' medda fi, 'mae gen i gerrig yn y gall bladder'. A dyma hi'n dweud 'na, mae gen ti ganser yn y pancreas, mae o'n incurable ac mae gen ti dri mis i fyw.' A dyna ni.

"Y noson honno - roedd Caron a finna'n siarad am bob dim - wel, roedda ni'n trefnu marwolaeth."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Wil a Caron yn dathlu'r flwyddyn newydd yn Barcelona, heb wybod beth oedd yn eu hwynebu yn 2023

Gofynnodd yr ysbyty iddo fynd adref yn y bore gan ddweud y bydden nhw'n trefnu iddo ddod 'n么l am sgan ymhen rhai wythnosau. Gwrthododd Wil a dweud nad oedd yn mynd i unlle heb gael y profion er mwyn iddo gael gwybod mwy am ei sefyllfa.

Felly, am hanner dydd, fe gafodd o'r sgan a chael newyddion da a drwg. Oedd, roedd ganddo fo ganser, ond nid ar y pancreas ond yn hytrach ar y codau bustl (y gallbladder) ac roedd posib ei drin.

Roedd gobaith felly, ond taith hir o'i flaen.

Llawdriniaeth 12 awr

Trefnwyd iddo gael llawdriniaeth yn Lerpwl fis Ebrill, ond cyn mynd fe gafodd sepsis a threulio wyth diwrnod yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

O fewn dyddiau i ddod allan roedd yn yr Ysbyty Royal, Lerpwl, yn derbyn llawdriniaeth 12 awr a hanner, triniaeth nad ydi un o bob 10 yn ei goroesi.

Tynnwyd tri chwarter o'i iau, y codau bustl, dwythell y bustl (y bial duct), a'i "ail blymio".

Naw diwrnod yn ddiweddarach, roedd o'n gadael Lerpwl am adref. Meddai: "Wnaeth fy ngwraig edrych ar y llawfeddyg a deud 'ryda chi'n sbeshal' a nath o ddeud 'Na, fo sy'n sbeshal. Mae o wedi mynd drwy'r llawdriniaeth a dod allan ohono mor dda'."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Wil Williams yn gadael ysbyty'r Royal yn Lerpwl; craith Wil wedi'r llawdriniaeth 12 awr a hanner

Ond roedd problem arall. Roedd o'n wynebu misoedd o driniaeth cemotherapi a Chwpan y Byd ar y gorwel, felly fe gafodd air efo'r arbenigwr oedd yn ei drin.

"Ei ymateb cynta' oedd 'hmm, dwn im fydd rhaid i ni feddwl am hynny' ond ar 么l trafod ac ati dyma fo'n dweud, 'wel mae gen ti dy fywyd i'w fyw, felly wnawn ni drefnu pethau'."

Cymaint oedd hyder Wil yn nh卯m Cymru, roedd eisiau'r opsiwn o fod allan yn Ffrainc tan 28 Hydref, rhag ofn i Gymru fynd yr holl ffordd i'r rownd derfynol yn Stade de France ac yntau yn 么l yn Rhiwlas.

"Fydda fo'n gwneud y trip yn ddibwys tasa ni'n mynd adra a Chymru dal yma - felly tra mae Cymru yma, 'da ni yma," meddai Wil.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mynd a'r ddraig goch gyda nhw yr holl ffordd o Rhiwlas i Ffrainc

Yn y diwedd, trefnwyd ei fod o'n cael gwerth tri dos o cemotherapi cyn croesi drosodd i Ffrainc, digon o dabledi am ddeufis ac apwyntiad efo'r arbenigwr yn syth ar 么l dod n么l.

"Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud ac roedd o'n gysur i mi drwy'r driniaeth a phob dim," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod be' fasa wedi digwydd tasa nhw wedi deud 'ti'm yn cael mynd i Ffrainc' achos drwy bob dim roedd fy meddwl i ar fod yn well erbyn gallu dod yma.

"A be' sydd wedi bod yn helpu hefyd, ydi pan wnaeth y meddyg gynta' ddweud 'gen ti dri mis i fyw' - mae hynny wedi helpu mewn ffordd od, achos dwi ddim yn marw. Oedd, roedd o'n boenus o ddychrynllyd ar y noson honno, ond mae'n gwneud i chdi feddwl am bob dim, a bywyd, ac ar 么l gwybod bod posib ei drin o ro'n i'n teimlo bod y byd wedi agor i fi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Barod am g锚m Cymru v Fiji... Dylan, Jackie, Wil a Caron

Yn barod mae Wil a Caron, sy'n gwneud y daith efo'u ffrindiau Dylan a Jackie, wedi gweld Cymru yn trechu Fiji a Phortiwgal, ac wedi cael profi ardaloedd Bordeaux, Cannes a Nice.

Er y blinder a'r dyddiau o deimlo'n isel sy'n dod efo'r cyffuriau cemotherapi, mae Wil wrth ei fodd. Yr unig deimlad tebyg ydi'r un gafodd o wrth wylio cyngerdd diweddar gan Fleetwood Mac, ei hoff gr诺p ers oedd o'n ddeunaw.

Meddai: "Tra ro'n i'n eistedd yna yn gwrando arnyn nhw ro'n i'n meddwl 'Arglwydd, ydw i yma go iawn?'. A fel yna dwi r诺an bob dydd, 'ydw i yma go iawn?'"

'Fy salwch i ydi o'

Yn 么l Wil mae ei brofiad eleni yn wers bwysig i unrhywun sy'n mynd drwy'r system iechyd.

Does ganddo ddim ond canmoliaeth am y driniaeth a'r gofal mae o wedi ei gael, ond mae'n pwysleisio nad dilyn y drefn ydi'r opsiwn gorau bob tro.

Meddai: "Weithiau mae angen stopio a dweud 'dwi eisiau cyfrifoldeb o be' sy'n digwydd, fy salwch i ydi o a dwi eisiau gwneud yn si诺r mod i'n cael y triniaeth gorau posib'.

"Felly'r neges i unrhywun sy'n mynd trwy y math yma o beth ydi i wneud yn si诺r eu bod nhw'n cael eu clywed a bod pobl yn gwrando arnyn nhw."

Ac os fydd Cymru yn codi Cwpan Webb Ellis yn y Stade de France ddiwedd Hydref, fe fydd un Cymro ychwanegol allan yn Ffrainc fydd hefyd yn haeddu medal.