20mya: Nifer uchaf erioed yn arwyddo deiseb yn gwrthwynebu
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 20mya newydd wedi denu'r nifer uchaf erioed o lofnodion.
Erbyn prynhawn dydd Mercher roedd dros 295,000 wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gael gwared ar y gyfraith 20mya trychinebus".
Cymru yw gwlad gyntaf y DU i osod y terfyn cyflymdra ar ffyrdd cyfyngedig, er mae gan gynghorau sir hawl i eithrio rhai ble mae 30mya yn fwy priodol.
Ond wedi ymhell groesi'r trothwy angenrheidiol o 10,000 llofnod, bydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd nawr yn ei ystyried ar gyfer dadl.
Dywedodd gweinidogion y byddai cyfyngiad o 20mya yn lleihau nifer y marwolaethau a s诺n, gan hefyd annog pobl i gerdded neu feicio, ond mae hefyd yn cael ei wrthwynebu gan rai gyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan rai, gan gynnwys Gareth Parry, a gollodd ei frawd Keith yn 1994 ar 么l cael ei daro gan gar oedd yn teithio ar gyflymder o 30mya.
Fe allai gyrwyr gael dirwy os ydyn nhw'n gyrru ar gyflymder uwch nag 20mya, ond fe fydd pwyslais ar addysgu ac ymgysylltu - a rhywfaint o ddisgresiwn gan yr heddlu - am y flwyddyn gyntaf.
Bydd camer芒u cyflymder yn gweithredu gan ddefnyddio'r trothwyon goddefiant presennol, sef 10% o'r terfyn cyflymder + 2mya.
Yn y Senedd brynhawn Mawrth fe ofynnwyd i'r prif weinidog ailystyried y cyfyngiadau.
Gofynnodd y Ceidwadwr Tom Giffard AS "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fonitro effaith terfynau cyflymder 20mya diofyn ar amseroedd teithio?"
Wrth gyfeirio at y deiseb i "gael gwared ar y gyfraith 20mya trychinebus", fe ychwanegodd "A fyddwch yn gwneud hynny?".
"Na fyddwn" oedd ateb Mr Drakeford.
Ychwanegodd y bydd "fframwaith monitro ar gyfer parthau 20mya yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi".
"Bydd hwn", meddai, "yn nodi'r dangosyddion perfformiad allweddol.
"Un o'r rhain fydd amseroedd teithiau cerbydau ac amrywiadau mewn amseroedd teithio."
Ychwanegodd yn ddiweddarach: "Y tu 么l i'r penderfyniad hwn mae... bywydau'r bobl fydd yn cael eu hachub.
"Dyna pam y bydd y llywodraeth hon yn glynu at y penderfyniadau rydyn ni wedi ei wneud".
Galw am ymddiheuriad
Fe wnaeth Mr Drakeford gyhuddo arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies o fod yn "benderfynol o beidio 芒 dweud y gwir" ynghylch y polisi terfyn cyflymder o 20mya, gan ei alw ef yn "warth".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi honni'n gyson mai terfyn cyffredinol ydyw, gan arwain at gyhuddiadau gan Lafur Cymru mai camwybodaeth yw hynny gan fod cynghorau wedi gosod eithriadau i'r terfyn newydd.
Yn ddiweddarach, fe ysgrifennodd Mr Davies at y Llywydd Elin Jones yn mynnu ymddiheuriad gan Mr Drakeford.
"Mae'n gywir i ddweud bod y cyfyngiad cyffredinol blaenorol o 30mya wedi ei ddisodli gan gyfyngiad cyffredinol o 20mya ac mae'n gamarweiniol i'r prif weinidog honni fel arall," meddai Mr Davies.
'Rhyfel yn erbyn modurwyr'
Mae gwleidyddion sy'n gwrthwynebu'r mesur wedi galw'r polisi yn "ryfel yn erbyn modurwyr".
Canfu ymgynghoriad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod mwy yn erbyn y terfyn cyflymder nag oedd yn ei gefnogi.
Dywedodd un o ddogfennau'r llywodraeth ei hun y gallai teithiau hirach achosi anfantais economaidd "sylweddol".
Mae'r ddeiseb a ddechreuwyd gan Dr Mark Baker ar 13 Medi, eisoes wedi torri'r record ar gyfer y nifer uchaf erioed o lofnodion ar gyfer deiseb i'r Senedd yng Nghymru.
Y record flaenorol oedd deiseb i ganiat谩u i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfnod clo, gan ddenu 67,940 o lofnodion.
'Gadael i'r rheolau ymsefydlu'
Yn siarad ar raglen 大象传媒 Radio Wales Breakfast fe ddywedodd Aelod o'r Senedd Pontypridd, Mick Antoniw, mai mater i Bwyllgor Deisebau'r Senedd fyddai trafod y terfyn cyflymder.
"Y Senedd sy'n dewis beth fydd y ddadl honno, ac os yw'n cael ei chynnal," meddai.
"Rydym newydd gyflwyno'r newidiadau, bydd angen i ni adael iddyn nhw ymsefydlu. Rwy'n hyderus y byddant yn ymarferol ac y bydd pobl yn eu derbyn.
"Rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn bryderus ac bod rhywfaint o ddryswch. Bydd yn cymryd amser i'r newid diwylliant sylweddol yma ymsefydlu ei hun."
Ond wrth siarad ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru fe ddywedodd Iwan Jenkins, sy'n byw yn ardal Aberaeron ac yn teithio o gwmpas y wlad yn gwerthu peiriannau Caterpillar, fod y cyfyngiadau newydd eisoes yn effeithio ar ei waith.
"Ni'n gorfod planio lot mwy o flaen llaw... ewch o Aberaeron i Gaerfyrddin a chi'n bwrw sawl pentref ac wrth gwrs mae'n bwysig mewn ardaloedd lle mae ysgolion i gael 20mya, ond mewn pentrefi i fynd i lawr o 30 i 20 mae e yn slowo chi lawr lot.
"Ma' fe am stretchio'r dydd yn hirach.
"Mae'n well cyrraedd mewn un pishyn ond licen i ofyn ydi'r llywodraeth wedi gofyn i'r heddlu? Fydd mwy o bobl yn torri'r gyfraith a bydd hynny'n rhoi mwy o straen a mwy o gostau, penalisio'r pobl sy'n gyrru o ddydd i ddydd.
"Bydd hwn yn rhagor o waith eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023