Meddygon benywaidd wedi teimlo 'dan bwysau i gael rhyw'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon benywaidd wedi teimlo eu bod wedi dod dan bwysau i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw gyda chydweithwyr, yn ôl llythyr agored i'r proffesiwn gan bedwar meddyg blaenllaw.
Mae'r meddygon - pedair menyw sy'n arwain colegau brenhinol meddygol yng Nghymru - wedi disgrifio'r bwlio, aflonyddu rhywiol a'r casineb at fenywod sy'n digwydd yn y gweithle.
Mae'n cynnwys honiadau o aelodau staff gwrywaidd yn gofyn am gael rhyw gyda chydweithwyr benywaidd yn ystod shifftiau.
Fe ddywedodd llywodraeth Cymru nad oes unrhyw le i gamdrin rhywiol o fewn y gwasanaeth iechyd, a'i bod wedi cyhoeddi fframwaith i gryfhau prosesau cwyno o fewn y GIG yr wythnos hon.
Awduron y llythyr agored yw:
Dr Olwen Williams - Cadeirydd Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
Dr Hilary Williams - Is-lywydd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Cymru
Dr Rowena Christmas - Cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru
Dr Maria Atkins - Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Mae'n nhw'n dweud bod "aflonyddu rhywiol o fewn meddygaeth wedi ei oddef yn rhy hir".
"Ddeugain mlynedd yn ôl, roedd hi'n rhemp, yn amlwg ac yn peri loes. Dyw hynny'n sicr heb ddiflannu."
Yn ôl y llythyr, mae'r problemau'n gyffredin, a dydyn nhw ddim wedi eu cyfyngu i adrannau llawfeddygol nac anesthetig yn unig.
'Niweidiol iawn'
Dywedodd Dr Maria Atkins: "Rwyf wedi clywed gan amryw o fenywod dros y blynyddoedd bod yn ystod shifftiau nos, mae cydweithwyr gwrywaidd wedi gwneud cynnig iddyn nhw a'u bod wedi teimlo dan bwysau i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.
"Pan maen nhw wedi gwrthod maen nhw'n cael eu cosbi."
Ychwanegodd Dr Atkins, sy'n seiciatrydd ymgynghorol: "Mae'n gallu bod yn niweidiol iawn i rai menywod sy'n llai profiadol neu'n ifancach oherwydd bydd yn eu hannog i beidio ymwneud â thîm, allai fod o fewn y maes meddygaeth arbenigol roedden nhw'n dymuno cael gyrfa ynddo."
Cyhoeddodd gwaith ymchwil helaeth diweddar bod menywod sy'n llawfeddygon yn cael eu haflonyddu yn rhywiol, yn dioddef ymosodiadau, ac mewn rhai achosion yn cael eu treisio gan gydweithwyr.
Yn ôl awduron yr ymchwil, mae 'na batrwm clir ar hyn o bryd bod menywod sy'n hyfforddi yn cael eu cam-drin gan uwch-lawfeddygon gwrywaidd o fewn ysbytai'r gwasanaeth iechyd.
Mewn ymateb, cafodd llythyr dadleuol gan anesthetydd fu'n gweithio yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ei gyhoeddi ym mhapur newydd The Times.
Yn y llythyr roedd Dr Peter Hilton, sydd bellach wedi ymddeol, yn awgrymu y dylai menywod o fewn y proffesiwn oddef ymddygiad fel hyn a chaledu iddo.
Cafodd y farn yn y llythyr hwn ei wrthod gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe.
'Profiadau o'n gyrfa ni'n hunain'
Mae llythyr agored arweinwyr y colegau yng Nghymru'n dweud bod "pob un ohonom ni'n gallu meddwl am brofiadau o'n gyrfa ni'n hunain ble y gwnaethon ni anwybyddu, disytyru, esgus peidio â chlywed neu weld - ond fe welon ni, fe glywon ni, ac ry'n ni'n dal i gofio".
Mae'r enghreifftiau o fewn y llythyr yn cynnwys cael gwybod gan ymgynghorydd eu bod wedi pasio arholiad "oherwydd maint eu bronnau"; i "ganolbwyntio ar wneud te i'w gwÅ·r"; ac nad oedd sgyrsiau ar wahaniaethu ar sail rhyw yn berthnasol i ddynion.
Wrth egluro wrth raglen Dros Frecwast pam y llofnododd y llythyr agored, dywedodd Dr Olwen Williams ei bod wedi "meddwl bod petha' wedi symud ymlaen" yn y 40 mlynedd ers iddi ddod yn feddyg.
"Pan ddoth y llythyr a'r ymchwil gan y llawfeddygon yn dangos bod nhw yn cael eu cam-drin yn rhywiol, doedd o'm yn sioc ond y peth oedd o'n i'n meddwl bod petha' wedi symud ymlaen."
Roedd hi a'r tair meddyg arall wedi sylweddoli wrth ddod ynghyd eu bod "wedi cael cryn brofiad o betha' yn ein bywyda' ni sydd wedi newid ffordd gyrfeydd ni, y ffordd o'ddan ni'n byw a'r ffordd o'ddan ni'n mynd o gwmpas ein gwaith oherwydd y sexism 'ma o'dd yna dros y blynyddoedd".
"Wrth i ni feddwl amdan be' o'dd wedi digwydd i ni, o'dd o'n bwysig bod hi yn d'eud wrth menywod er'ill yn y maes bod ni'n deall be' sy'n digwydd iddyn nhw a bod dyla fod ddim digwydd."
Mae'r llythyr yn dweud bod menywod yn osgoi rhai sefyllfaoedd cymdeithasol gyda rhai dynion oherwydd y risg, ac yn addasu neu reoli beth oedden nhw'n ei ddweud er mwyn osgoi cael eu gweld fel "y ddynes anodd".
Mae'r llythyr hefyd yn tynnu sylw at ymddygiad gwael gan rai menywod, sydd ei hunain wedi cael eu bwlio yn y gwaith.
"Mae creulondeb yn arwain at greulondeb," meddai'r awduron.
Mewn neges uniongyrchol at y rhai sy'n cytuno bod angen i fenywod galedu at ymddygiad o'r fath, mae'r awduron yn gofyn yn ddi-flewyn ar dafod a fasen nhw, tra'n hyfforddi, "wedi mwynhau gwybod bod datblygiad eu gyrfa yn rhannol ddibynnol ar ymgynghorydd hÅ·n oedd eisiau eich gweld yn noeth?"
Dim effaith ar y sawl sy'n gyfrifol
Cafodd y llythyr gefnogaeth gan sawl meddyg blaenllaw o grwpiau sy'n cynrychioli'r proffesiwn meddygol yng Nghymru.
Maen nhw hefyd yn nodi bod natur hyfforddiant meddygol, ble mae meddygon iau yn cael eu symud o gwmpas ysbytai a byrddau iechyd, yn golygu ble bod yna gamymddwyn yn digwydd, mae'r aelod iau yn cael eu symud, a does dim effaith ar yr unigolyn oedd yn gyfrifol.
"Ry'n ni wedi cael digon o'r adroddiadau sy'n agoriad llygad, y straeon torcalonnus, a'r cam-drin sy'n dod gyda gwneud swydd ry'n ni'n ei charu," dywed y llythyr.
"Yn y gorffennol, fe ddysgon ni beidio ag ymateb ac aros yn dawel, ond dyw hyn ddim yn ddigon da bellach. Mewn gwirionedd doedd e' fyth [yn ddigon da]."
Maen nhw wedi cefnogi'r alwad am gyflwyno mesurau brys i wella ymchwiliadau i gamymddwyn rhywiol o fewn y byd iechyd, gan gynnwys yn benodol, y broses o adrodd cwynion.
"Ry'n ni angen mwy o lefydd diogel i gydweithwyr allu codi llais," ychwanega'r llythyr.
"Mae staff dan hyfforddiant a chydweithwyr ymgynghorol sydd newydd gymhwyso'n dweud wrthon ni bod y systemau adrodd [cwynion] yn wan… mae'r perygl o greu niwed i yrfa yn rhy fawr i sawl un allu codi llais."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae aflonyddu a chamdrin rhywiol yn erchyll a does dim lle iddynt yn y GIG."
"Rydyn ni'n cytuno'n llwyr y dylai pob achos o gasineb at ferched a chamymddwyn gael eu taclo. Rydyn ni'n annog i'r GIG gefnogi prosesau troseddol yn erbyn unrhyw un sy'n ymosod ar staff."
"Yr wythnos hon fe gyhoeddon ni fframwaith Codi Llais Heb Ofn, fydd yn cryfhau prosesau a rhoi sicrwydd y bydd unrhyw bryderon yn cael eu cymryd o ddifrif, eu clywed a ni fydd unigolion yn wynebu sgil effeithiau am godi eu llais.
"Rydyn ni am i unrhyw un sydd â phryderon neu sydd wedi profi aflonyddu neu chamdrin rhywiol wybod y bydd rhywun yn gwrando arnynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023