Cynghrair y Cenhedloedd: Gwlad yr I芒 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru eu trechu gan Wlad yr I芒 yn eu g锚m gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener.
Er perfformiad cryf gan y menywod o Gymru roedd g么l yn yr hanner cyntaf gan gapten y t卯m cartref yn ddigon i ennill y fuddugoliaeth iddynt.
Cafodd Cymru sawl cyfle ar ddechrau'r g锚m, ac roedd y t卯m yn ymddangos mewn sefyllfa gref wrth iddynt ennill y gornel gyntaf.
Ond Gwlad yr I芒 sgoriodd gyntaf gyda'r capten Glodis Viggosdottir yn penio'r b锚l i'r g么l oddi ar gic o'r gornel.
Er bod y t卯m cartref ar y blaen gorffennodd Cymru'r hanner cyntaf yn gryf gydag ymgais tuag at y g么l gan Carrie Jones yn cael ei arbed gan y golwr.
Ar ddechrau'r ail hanner roedd Cymru i weld wedi colli ychydig o hyder, ond wrth i'r hanner fynd yn ei flaen llwyddodd yr ymwelwyr i roi tipyn o bwysau ar amddiffynwyr Gwlad yr I芒.
Ond er eu perfformiad cryf methodd Cymru 芒 chipio pwynt gan adael y sg么r yn 1-0 erbyn diwedd y g锚m.
Bydd g锚m nesaf Cymru nos Fawrth, wrth iddynt herio Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023