'Emosiynol' rhedeg hanner marathon er cof am fab fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae mam a gollodd fabi yn wyth wythnos oed yn dweud y bydd rhedeg hanner marathon Caerdydd er cof amdano'n brofiad emosiynol.
Fe roddodd Ruth Coleman, 37 o Ferthyr Tudful, enedigaeth i efeilliaid yn 2021.
Bu farw Macsen, brawd bach i Trystan, yn dilyn cymhlethdodau gyda chyflwr ar ei galon.
Mae Ruth yn benderfynol o godi arian i elusen British Heart Foundation (BHF) er cof am ei mab.
"Ges i efeilliaid ac fe gafodd un o' nhw eu geni gyda phroblemau calon, problemau really difrifol," dywedodd Ruth.
"O'dd rhaid iddo fe gael llawdriniaeth ar y galon pan oedd e'n 12 diwrnod oed. Roedd e'n amser erchyll i ni fel teulu."
Roedd gan Macsen gyflwr cymhleth ar y galon o'r enw Truncus Arteriosis.
"Ar 么l iddo fe ddod adref a gwella, naethon ni golli fe yn really sydyn, a dy'n ni dal ddim yn gwybod pam," ychwanegodd Ruth.
"Dyna'i gyd ry'n ni'n gwybod yw bod e'n post-operative a nad yw e'n digwydd yn aml ond bod e wedi digwydd i ni."
"Yn y diwrnodau cynnar, o'n i'n teimlo bod rhaid i fi ffeindio rhywbeth. Rhyw fath o outlet le o'n i'n cael amser i feddwl a phrosesu be' sy' 'di digwydd," ychwanegodd Ruth.
"Nes i drio pob math o bethau, allan o desparation mwy na dim byd."
Dyna pryd y dechreuodd Ruth redeg ac mae wedi parhau i wneud ers hynny.
"O'n i ddim hyd yn oed yn gallu cerdded am funud i ddechrau - ro'n i allan o anadl!
"Ond ers 'ny mae e really wedi helpu gyda lles meddyliol."
Codi 拢7,500 hyd yma
Dywedodd Ruth mai nod rhedeg y ras yw codi arian ac ymwybyddiaeth am gyflyrau ar galonnau plant.
"Fi eisiau codi arian i'r elusen achos fi'n meddwl fod e mor bwysig helpu eraill," dywedodd.
"Fi'n mynd yn eitha' emosiynol am hyn achos o'n i byth yn meddwl y bysen ni wedi codi gymaint.
"Dechreuon ni hyn [codi arian] flwyddyn yn 么l. Ni 'di codi 拢7,500 nawr ar gyfer yr elusen [BHF].
"Y targed yw 拢10,000 erbyn diwedd 2025 ond fel mae'n edrych ni'n mynd i daro'r targed lot yn gynt!"
Dywedodd y bydd ei mab hynaf, Tomos sy'n chwech oed, yn rhedeg ras y plant ddydd Sadwrn gyda chriw o'i ffrindiau o Ysgol Santes Tudful.
"Maen nhw i gyd 'di bod yn ymarfer, i gyd yn gwisgo coch ac yn barod am y sialens," dywedodd.
"I ni, fel teulu, mae'n golygu lot achos ni'n teimlo'n bod ni'n 'neud rhywbeth.
"Ni'n teimlo bod ni'n gallu bod yn ddefnyddiol trwy amser caled, ac mae hi dal yn amser caled i ni, ond ni eisiau gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Ruth fod criw yn ymuno 芒 hi i redeg ddydd Sul.
"Mae'n really emosiynol i 'neud e achos fi'n gwybod pam bo' fi'n 'neud e," ychwanegodd.
"Flwyddyn yma, ma' tua 20 ohonon ni, ffrindiau agos, maen nhw yna i gefnogi fi. Mae'n golygu lot i fi a'r teulu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022