Gostyngiad eto yn y nifer sy'n astudio TGAU Cerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae pryder wedi i ffigyrau ddangos gostyngiad arall yn nifer y disgyblion sy'n astudio pwnc TGAU Cerddoriaeth yn ysgolion uwchradd Cymru.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cydfynd 芒 thuedd gyffredinol ar draws y DU, gyda'r niferoedd sy'n astudio'r pwnc wedi gostwng o draean dros y degawd diwethaf.
Un ffactor sy'n cyfrannu at y gostyngiad yw'r "anghysondeb" o ran ariannu gwersi offerynnol i ddisgyblion, yn 么l cyn-bennaeth Cerdd.
Yn 么l y gantores Mared Williams, fe wnaeth astudio TGAU Cerddoriaeth roi "sylfaen gref" iddi, gan ddweud: "'Dw i'm yn gwybod lle 'swn i r诺an 'swn i heb astudio cerdd."
Bron i 400 yn llai yn astudio'r pwnc
Yn 么l ffigyrau'r Joint Council for Qualifications - sefydliad sy'n cynnwys cyrff cymwysterau mwyaf y DU - roedd bron i 400 yn llai o ddisgyblion yn astudio'r cwrs TGAU yng Nghymru eleni o'i gymharu 芒'r flwyddyn academaidd flaenorol.
Yr un yw'r darlun ar draws y Deyrnas Unedig, gyda 4,725 yn llai o ddisgyblion yn astudio'r pwnc y llynedd.
Wrth ystyried y data dros y degawd diwethaf, bu 35% o gwymp yn y nifer sy'n astudio TGAU Cerdd ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Meinir Richards - sydd newydd ymddeol ar 么l cyfnod llwyddiannus fel pennaeth adran gerddoriaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin - yn dweud mai un ffactor sy'n cyfrannu at y gostyngiad yw'r "anghysondeb" o ran ariannu gwersi cerdd.
"Un elfen bwysig - traean o'r cwrs bron - yw'r uned berfformio, ac wrth gwrs mae ysgolion yn darparu gwasanaeth offerynnol a gwersi offerynnol," meddai.
"Ni gyd yn derbyn mai'r disgyblion sydd yn derbyn gwersi offerynnol preifat yw'r rheiny sydd gyda rhieni yn gallu fforddio cynnig y ddarpariaeth 'na.
"'Dw i'n si诺r bod amryw ddisgybl wedi colli mas ar gyfleoedd sydd 芒 thalent a gallu, ond dyw'r sefyllfa ddim yn caniat谩u."
Bydd y sioe gerdd Gymraeg newydd, Branwen, yn cychwyn ei thaith yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Tachwedd, gyda Mared Williams yn chwarae'r brif ran.
Dywedodd y gantores o Lannefydd: "'Dw i'm yn gwybod lle 'swn i r诺an 'swn i heb astudio cerdd."
Ychwanegodd bod astudio'r pwnc at safon TGAU wedi bod yn "sylfaen gref er mwyn mynd i astudio cerdd ymhellach yn y brifysgol a chael cyfleodd fyddwn i ddim wedi eu cael fel arall."
Gyda hithau wedi hen ennill ei phlwyf yn y byd cerddorol, dywedodd fod astudio'r cymhwyster "wedi rhoi hyder o ran y perfformio, achos yr oedran yna do'n i ddim wedi 'neud lot o berfformio o flaen pobl."
Mae criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg sy'n astudio cerdd yn dweud bod angen i ysgolion "gofio fod pobl eisiau bod yn greadigol" yn yr ysgol.
"Mae llawer o ysgolion yn pwysleisio'r pynciau academaidd fel Saesneg neu Gymraeg, ond hefyd maen nhw angen cofio fod pobl eisiau bod yn greadigol ar yr un pryd," oedd neges un disgybl.
"Dydw i ddim yn berson academaidd iawn - 'dw i'n cas谩u hanes a pethau fel 'na. Mae cerddoriaeth wedi bod yn amser i fi fod yn rhydd ac mae wedi helpu fi i fod yn greadigol iawn," medd disgybl arall.
Tra bod pobl yn parhau i dyrru i weld sioeau cerdd poblogaidd a mwy nag erioed yn gwrando ar gerddoriaeth ddigidol, does dim ateb pendant i annog mwy o ddisgyblion i fynd ati i astudio'r pwnc yn yr ysgol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2018