大象传媒

Cwpan y Byd: Chwe newid i Gymru i herio Georgia yn Nantes

  • Cyhoeddwyd
Gareth AnscombeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Anscombe fydd yn dechrau yn safle'r maswr ar 么l serennu yn erbyn Awstralia

Mae Warren Gatland wedi gwneud chwe newid i'w d卯m ar gyfer y g锚m Cwpan y Byd yn erbyn Georgia yn Nantes ddydd Sadwrn.

Mae Dewi Lake wedi ei ddewis yn safle'r bachwr yn lle Ryan Elias, a Lake sydd hefyd wedi ei ddewis fel capten, gyda Jac Morgan wedi ei adael allan o'r garfan.

Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel maswr, er bod Dan Biggar wedi dychwelyd i hyfforddi ar 么l cael anaf yn fuan yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia.

Mae Tomos Williams wedi ei ddewis fel mewnwr, gyda Rio Dyer ar yr asgell.

George North a Nick Tompkins sydd wedi eu dewis fel canolwyr am y trydydd tro yn y gystadleuaeth.

Ymhlith y blaenwyr, mae Tommy Reffell wedi ei ddewis yn y rheng-么l gyda Taulupe Faletau ac Aaron Wainwright, a bydd Dafydd Jenkins yn dechrau yn yr ail reng am yr eildro yn y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Dewi Lake yn gapten ar Gymru am yr eildro yn y gystadleuaeth

T卯m Cymru

Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Rio Dyer; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake (capt), Tomas Francis, Will Rowlands, Dafydd Jenkins, Aaron Wainwright, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Taine Basham, Gareth Davies, Sam Costelow, Mason Grady.

Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, a dim ond un pwynt sydd angen arnynt er mwyn gorffen ar frig y gr诺p.

Y ffordd ddelfrydol o wneud hynny fyddai buddugoliaeth yn erbyn Georgia, ond byddai unrhyw bwynt bonws hefyd yn ddigon.

Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny fe fyddan nhw'n wynebu un ai Japan neu Ariannin yn yr wyth olaf ym Marseille ar 14 Hydref.

Ond os ydy Cymru yn gorffen yn ail yn y gr诺p, fe fyddan nhw'n herio Lloegr yn yr un ddinas ar 15 Hydref.