Amgueddfa Cymru: Bron 2,000 o eitemau ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae bron 2,000 o eitemau ar goll yn Amgueddfa Cymru.
Maen nhw'n cynnwys cleddyf, bwyell a phen gwaywffon o'r Oes Efydd, a ddechreuodd ym Mhrydain tua 2,000 CC.
Mae teils crochenyddol Rhufeinig, breichled a modrwy yn dyddio'n 么l i tua'r 2il ganrif hefyd ar goll.
Dywedodd Amgueddfa Cymru "nad oes unrhyw eitemau o werth ariannol uchel wedi'u nodi ar goll" ond nid oedd yn gallu darparu lluniau o eitemau coll.
Datgelodd cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru bod cyfanswm o 1,921 o eitemau ar goll.
Offeryn, darnau arian a medalau
Mae microlith fflint Mesolithig ar goll - carreg fechan a oedd yn offeryn fflint nodweddiadol o'r cyfnod Mesolithig yn y DU, yn dyddio mor bell yn 么l 芒 7000 CC.
Mae nifer o ddarnau arian wedi'u rhestru fel rhai coll, megis darn arian Rhufeinig o'r ymerawdwr Caracalla a gr么t - darn arian - o gyfnod Harri VIII o'r 16eg ganrif. Ond dywed yr amgueddfa bod "cyfran sylweddol o'r rhain yn eitemau dyblyg ac mae enghreifftiau o ansawdd gwell yn ein casgliad".
Mae medalau ar y rhestr goll yn cynnwys un o Jiwbil卯 Ddiemwnt y Frenhines Victoria yn 1897 ac un o goroni Edward VII yn 1902.
Hefyd ar goll y mae allwedd haearn ganoloesol, llestri "crochenwaith clasurol", ac wyth pen pibellau clai o'r 17eg a'r 18fed ganrif.
5.3 miliwn o eitemau
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa, gyda chasgliadau o bedwar ban byd.
Mae 5.3 miliwn o eitemau yn y casgliad cenedlaethol, gan gynnwys paentiadau a chelfyddyd gain yn ogystal 芒'r llyfrgell a'r archifau, llawer ohonynt wedi'u cadw mewn adeiladau rhestredig Gradd I fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chastell Sain Ffagan, Caerdydd.
Ers 2017, yn dilyn adolygiad o brosesau, mae'r amgueddfa wedi adrodd i'r heddlu bod 16 eitem wedi cael eu dwyn o'r amgueddfa lechi yn Llanberis, Gwynedd neu Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Dywedodd Amgueddfa Cymru bod yr 16 yn "eitemau domestig o werth ariannol isel a gafodd eu codi gan ymwelwyr o'n tai hanesyddol".
Roedd dros hanner y cyfanswm o eitemau coll - 1,153 - yn dod o Sain Ffagan, safle 100 erw lle mae deugain o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi'u hailgodi, er bod y colledion yn dyddio yn 么l i'w sefydlu ar ddiwedd y 1940au.
Ymhlith yr eitemau sydd ar goll o Sain Ffagan mae eitemau ffermio fel offer ffensio, nifer o fachau pysgota, ond llestri cartref yw'r mwyafrif.
'Pryderus'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard ei fod yn "bryderus bod cynifer o eitemau ar goll... sy'n arddangos hanes diwylliannol cyfoethog Cymru" a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gymryd "diddordeb gweithredol yn ailddarganfod yr eitemau".
Meddai Heledd Fychan o Blaid Cymru: "Rwy'n bryderus oherwydd ynghyd 芒 gwybodaeth am gasgliadau coll yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae angen i ni ddeall pam y gallai hyn ddigwydd."
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "gymryd y mater o ddifrif" a thynnodd sylw at rybuddion blaenorol gan yr amgueddfa am yr hinsawdd ariannol a "risg barhaus" i gasgliadau cenedlaethol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mater i Amgueddfa Cymru yw gofalu am ei chasgliadau a'u rheoli.
"Wrth wneud hynny, mae'n gweithio i safonau proffesiynol, gan fodloni gofynion Cynllun Achredu Amgueddfeydd y DU."
Cronfa ddata
Mae gan Amgueddfa Cymru gofnodion papur ar gyfer pob eitem yn ei chasgliad, ond mae wedi cymryd dros 30 mlynedd i ddogfennu 55% o'r 5.3 miliwn o eitemau ar ei chronfa ddata ddigidol.
"Rydym yn credu y bydd cwblhau'r prosiect hwn yn cymryd o leiaf 20 mlynedd arall," meddai'r amgueddfa.
Nid oes unrhyw eitemau wedi'u nodi fel rhai ar goll o'r casgliad celf, nac o'r casgliad gwyddorau naturiol "er bod rhaglen adolygu ar y gweill mewn perthynas 芒 benthyciadau ymchwil".
Ar gyfer 2023/24, mae Llywodraeth Cymru yn darparu 拢27.2 miliwn o gyllid refeniw i Amgueddfa Cymru (ar gyfer ei chostau gweithredol parhaus) a 拢5 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddiadau tymor hwy.
Mae mynediad i'r amgueddfeydd am ddim.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd30 Awst 2023
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022