大象传媒

Toriadau gwariant: Effaith ar bobl fregus yn 'anochel'

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf drenau Bae Caerdydd cyn y pandemig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llai o deithwyr wedi bod yn defnyddio trenau ers y pandemig, yn 么l Rebecca Evans

Mae hi'n "anochel" y bydd pobl fregus yn teimlo effaith toriadau gwariant, yn 么l Gweinidog Cyllid Cymru.

Fe fydd Rebecca Evans yn gwneud datganiad ar 17 Hydref, yn egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael a'r twll du yn ei chyllideb.

Yn 么l Ms Evans, mae costau cynyddol yn ymwneud a'r gwasanaeth iechyd a'r ffaith bod llai o deithwyr ar y trenau wedi ychwanegu at y pwysau ariannol.

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Ms Evans i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.

'Gwerth 拢900m yn llai'

Ddeufis yn 么l, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford alw ar weinidogion i wneud arbedion - gan ddweud bod ei Lywodraeth yn wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf heriol" ers datganoli.

O'i gymharu 芒'r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl, mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw 拢900m yn fyr yn eu cyllideb oherwydd chwyddiant.

Yn y Senedd, dywedodd Ms Evans fod effaith chwyddiant yn cael effaith "arbennig o ddifrifol" ar gyflogau'r sector cyhoeddus.

Roedd cost meddyginiaethau wedi cynyddu tua 17% ac roedd y GIG hefyd yn wynebu bil ynni uwch.

Ychwanegodd fod llai o bobl yn teithio ar y rheilffyrdd ar 么l y pandemig nag yr oedd y llywodraeth yn ei ddisgwyl hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Ms Evans yn amlinellu ei chynllun i fynd i'r afael 芒'r heriau ariannol ar 17 Hydref

Dywedodd Ms Evans bod adrannau'r llywodraeth wedi cynnal asesiadau effaith cyn penderfynu ble i "ryddhau arian".

"Pan rydyn ni'n torri gwariant cyhoeddus," meddai, "y bobl fwyaf bregus fydd yn anochel yn teimlo rhywfaint o hyn oherwydd nhw yw'r bobl fydd bob amser yn elwa fwyaf o wariant cyhoeddus."

'Poeni ers misoedd'

Dywedodd Plaid Cymru nad yw'r llywodraeth wedi darparu digon o wybodaeth ers i Mr Drakeford gyhoeddi bod angen arbedion ym mis Awst.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, fod "pobl wedi bod yn aros yn hir iawn ac yn poeni am hyn ers misoedd".

"Allwch chi ddiystyru'r angen am doriadau yn ystod y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus rheng flaen?" gofynnodd.

Mae holl adrannau'r llywodraeth wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw gyfrannu at arbedion, er bod prif ffynhonnell cyllid y llywodraeth ar gyfer cynghorau lleol wedi'i diogelu.

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Altaf Hussain, fod cynghorau "ddegau o filiynau o bunnau yn y coch ymhell cyn i'ch toriadau cyllidebol frathu."

"Mae'n amlwg y bydd yn rhaid i'r fwyell ddisgyn yn rhywle ond rhaid i ni wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw ar y gwasanaethau rheng flaen, ac yn esgus i gynyddu biliau treth y cyngor," meddai.

Gofynnodd ef a oedd hi'n bryd ystyried uno cynghorau - rhywbeth mae'r llywodraeth wedi ei ddiystyru.