Cyffur 'rhyfeddol' canser y coluddyn yn 'chwyldro'

Disgrifiad o'r llun, Mae Carrie Downey ymhlith nifer fach iawn o gleifion sydd wedi cael dostarlimab yng Nghymru

Mae mam o Bort Talbot wedi cael gwybod ei bod wedi gwella o ganser ar 么l cymryd cyffur "rhyfeddol" newydd.

Carrie Downey yw'r cyntaf yng Nghymru sydd 芒 chanser y coluddyn i gael cyffur dostarlimab - ac ar 么l dechrau'r driniaeth fe ddiflannodd ei chanser o fewn chwe mis.

Dim ond nifer fach iawn bobl ar draws y byd sydd wedi cael y cyffur, ac mae 100% o'r cleifion sydd wedi ei gymryd yn gwella.

Dywedodd un ddynes a gollodd ei chwaer i ganser y coluddyn bod y cyffur yn "anferth o gam ymlaen".

Mae dostarlimab yn barod yn cael ei ddefnyddio i drin mathau eraill o ganser.

Cymru a'r Eidal yw'r unig wledydd sydd wedi cymeradwyo'r driniaeth ar gyfer canser y coluddyn fel dewis triniaeth safonol, sef y driniaeth arferol i glaf sydd 芒'r cyflwr.

Mae dostarlimab yn helpu'r system imiwnedd i ddinistrio canser.

Mae profion clinigol cynnar wedi dangos bod y driniaeth yn effeithiol i rhwng 3% a 5% o achosion o ganser y coluddyn a'r rhefr (rectal) sydd 芒 mwtatiad genynnol penodol.

Ymateb 100% hyd yn hyn

Wrth ymchwilio i boenau ar 么l cael triniaeth hernia, fe ddarganfyddodd meddygon bod gan Ms Downey, 42, ganser y coluddyn.

Mi fyddai llawdriniaeth i dynnu'r tiwmor wedi golygu cael stoma yn barhaol. Agoriad ar y bol sy'n cael ei gysylltu i'ch system dreulio yw stoma, er mwyn caniat谩u i ysgarthion ddod o'r corff.

Ond ar 么l cael ei chyfeirio at Dr Craig Barrington, oncolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, cafodd gynnig y cyffur dostarlimab.

"Fe g锚s i fy apwyntiad gyda [Dr Barrington] ychydig wythnosau'n diweddarach", meddai Ms Downey.

"Fe ddywedodd rywbeth tebyg i 'Beth faset ti'n ei ddweud petaen ni'n gallu cael yr un canlyniad, heb arlliw o ganser, heb gael stoma parhaol a llawdriniaeth fawr?'

"Fe edrychodd e' ar fy biops茂au ac roedd e'n gwybod bod gen i'r mwtadiad prin yma. Fe ddywedodd e bod treialon wedi bod, ac roedd e'n hyderus y gallai gael yr arian oherwydd fy mod i'n cwrdd 芒'r meini prawf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru

Mae'r 36 o gleifion yn yr UDA a gymrodd rhan mewn prawf clinigol cynnar, sef y cam cyntaf o brofi meddyginiaeth newydd, wedi gwella o'u canser yn y coluddyn neu'r rhefr ar 么l cael dostarlimab.

Hyd yma yng Nghymru, mae llai na 10 claf wedi cael y driniaeth, sy'n cael ei roi bob tair wythnos am chwe mis.

I'r rhai sydd wedi gorffen y cwrs o'r cyffur, mae eu canser wedi diflannu. I'r rhai sydd yn dal i gael triniaeth, mae'r canlyniadau wedi bod yn bositif iawn.

Maen nhw i gyd yn dweud nad oes llawer o sg卯l-effaith, os o gwbl, o'i gymryd.

'Newyddion ardderchog'

Mae'r newyddion wedi ei groesawu gan deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ganser y coluddyn.

Collodd Gwenno Eyton Hodson ei chwaer, Carys, i ganser y coluddyn yn 2020, a dywedodd bod cael triniaeth all dargedu'r math penodol o ganser yn "wyrth".

Ffynhonnell y llun, Gwenno Hodson

Disgrifiad o'r llun, Bu farw chwaer Gwenno Eyton Hodson (canol), Carys (chwith), o ganser y coluddyn yn 2020

"Mae'n anferth o gam ymlaen, mae cael triniaeth sy'n targedu'ch canser chi yn ofnadwy o bwysig.

"Mae o'n agor drws a gobeithio y gallwn ni weld datblygiadau ehangach yn y triniaethau sydd yn cael eu datblygu."

"Mae o'n wyrth yn dydi, pan mae pobl yn cael eu clirio."

Ffynhonnell y llun, Guto Roberts

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Guto Roberts ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2020

Cafodd Guto Roberts ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2020 ac wedi gwella erbyn hyn.

Dywedodd fod y datbygiad yma yn "newyddion ardderchog".

"Hyd yn oed os ydi o ond yn effeithio pobl sydd 'efo'r newid genynnol, mae o dal yn agor drws i fwy o ymchwil.

"Pan mae cyffur fel hyn yn dod i'r fei, mae'n golygu bod 'na obaith, 'efo pob datblygiad yn gam i'r cyfeiriad cywir.

"Mae'n rhywbeth anhygoel, ma' rhai yn ei alw yn wyrth!"

'Hollol rhyfeddol'

Yn 么l Dr Barrington, mae'r canlyniadau wedi bod yn "syfrdanol".

"Rwy'n derbyn bod y niferoedd yn fach, a hyd yma, data cyfnod cynnar [sydd gennym ni] ond i gael ymateb 100% cyflawn i gyffur sy'n cael ei oddef yn dda, ac sy'n gweithio'n anhygoel o gyflym, mae hynny'n rhywbeth heb ei debyg o ran gofal oncolegol.

"Mae cleifion yn dweud hyd yn oed ar 么l eu triniaeth gyntaf bod y symtomau wedi diflannu. Mae'n hollol rhyfeddol."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Craig Barrington bod gallu cynnig dostarlimab i gleifion yn "hynod gyffrous"

Mae dostarlimab eisioes yn cael ei ddefnyddio i drin canser endometriaidd sydd 芒'r un mwtadiad genynnol 芒 chanser y coluddyn a'r rhefr. Gall gael ei gynnig i gleifion sydd 芒 chansyr gradd dau neu radd tri.

Ychwanegodd Dr Barrington: "I gael hwn fel dewis i gleifion fel triniaeth safonol, mae'n hynod gyffrous.

"Rwy'n credu ei fod yn chwyldroi'r ffordd ry'n ni'n meddwl am ganser y coluddyn a'r rhefr yn llwyr.

"Byddai'r cleifion yma yn y gorffennol wedi cael llawdriniaeth. Does dim angen llawdriniaeth ar nifer fechan o gleifion bellach, felly mae hynny'n le i rywun arall fynd i fyny'r rhestr [aros]."

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac yn ail yn unig i ganser yr ysgyfaint, o ran nifer y bobl sy'n marw ohono.

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i gymeradwyo dostarlimab fel triniaeth safonol, sef y driniaeth sydd fel arfer yn cael ei roi.

Cafodd s锚l bendith Lywodraeth Cymru, yn dilyn proses hir o bwyso a mesur y budd i gleifion.