大象传媒

Dyfodol ansicr Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl yn 'ofid i nifer'

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa TymblFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl yn gweithio mewn partneriaeth ar y ddau safle

Mae pryderon am allu gweld meddyg mewn rhan o Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol ar 么l i feddygfa ildio ei chytundeb gyda'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl yn gweithio mewn partneriaeth ar y ddau safle, ond mae'r rheolwyr wedi methu a recriwtio meddygon.

Yn 么l rhai sy'n byw yn lleol, mae 'na bryderon am allu cael apwyntiad gyda meddyg yn y dyfodol os fydd y safleoedd yn cau.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud y "bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un t卯m yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2024".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gwasanaethau'n parhau nes diwedd Mawrth 2024, ond does dim sicrwydd wedyn

Yn gynharach yn y mis, cadarnhaodd y bwrdd iechyd bod Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl yn ildio eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Roedd hynny yn sgil "ymdrechion aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno 芒'r practis prysur".

Er bod gwasanaethau'r feddygfa'n parhau nes fis Mawrth 2024, mae nifer o'r bobl leol yn gofidio am y dyfodol.

Yn 么l un sydd wedi defnyddio'r feddygfa'n rheolaidd yn ddiweddar, mae'r newyddion "yn creu anghyfleuster mawr i nifer o fewn y gymuned" gyda phobl yn gorfod "teithio i feddygfa arall".

Ffynhonnell y llun, Osian Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Osian Edwards o Cross Hands yn dweud bod nifer o'r gymuned yn "rhannu'r un gofidion 芒 fi"

Dywedodd Osian Edwards sy'n byw yn ardal Cross Hands: "Gydag argaeledd apwyntiadau yn mynd yn fwy a fwy prin, mae'n bosib na fyddai'n medru cael fy ngweld gan ddoctor yn gyflym.

"Mae'n bwysig bod y feddygfa yn cael ei chadw ar agor gan nad yw teithio yn bell i weld doctor wastad yn opsiwn, yn enwedig i henoed y gymuned."

Ychwanegodd mai ar y cyfryngau cymdeithasol y daeth yn ymwybodol o sefyllfa'r feddygfa, a bod "nifer yn rhannu'r un gofidion 芒 fi".

Mae un arall sydd wedi byw yn yr ardal erioed yn dweud bod nad yw hi'n deall pam nad yw meddygon eisiau dod i weithio yn yr ardal.

Dywedodd Meryl Evans: "Dwi ddim yn deall... ma' pobl yn symud i Loegr ac ati ond ma' ardal Cwm Gwendraeth yn Gymreigaidd iawn, llawer o Gymry yn byw yma, mae'r M4 rownd y gornel o'r syrjeri."

Ychwanegodd: "Mae'n naturiol, bydd rhaid i bobl aros yn hirach nawr i weld doctor, a dyw e ddim yn deg ar y meddygon sydd ar 么l 'na chwaith."

Dywedodd mai'r "ateb syml yw peidio mynd yn s芒l!".

"Dwi wedi byw yma trwy gydol fy oes ond dyma'r tro cyntaf i rywbeth fel hyn i ddigwydd."

'Edrych ar yr holl opsiynau'

Nid oedd y feddygfa am wneud sylw.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud eu bod yn cydweithio gyda'r feddygfa i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal.

Dywedodd llefarydd y byddai'r bwrdd yn "edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer parhad gwasanaeth meddygol cyffredinol".

Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor y bwrdd: "Hoffai'r bwrdd iechyd roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl y bydd darpariaeth y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gleifion.

"Rydym yn deall y gallai cleifion fod yn bryderus ar hyn o bryd.

"Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un t卯m yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2024."

Pynciau cysylltiedig