Albym buddugol Rogue Jones wedi ei ysbrydoli gan fagu plant
- Cyhoeddwyd
Gydag albym eclectig sy'n trafod lemon锚d, dod yn rhiant a Meibion Glynd诺r, y band Rogue Jones ydi enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023.
Ynghyd 芒 derbyn tlws a gwobr ariannol fe fydd proffil y band nawr yn si诺r o godi - felly dyma gyflwyniad i'r cwpl priod wnaeth greu albym wych wedi ei ysbrydoli gan fagu plant.
Pwy ydi'r band Rogue Jones?
Bethan Mai a'i g诺r Ynyr Morgan Ifan - y ddau yn gerddorion, yn rhieni i ddau o blant bychan ac yn gweithio yn y diwydiant creadigol.
Mae'r cwpwl - a'u cynhyrchydd Frank Naughton - yn chwarae nifer o offerynnau wrth recordio traciau yn y stiwdio ac yn cael cerddorion i ymuno efo nhw mewn setiau byw.
Artist a darlunydd ydi Bethan Mai, a'i gwaith hi sydd ar gloriau rhai o lyfrau diweddar Na, Nel! gan Meleri Wyn James a Hela gan Aled Hughes.
Mae Ynyr yn gyfarwyddwr teledu sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar Curadur, cyfres ar S4C am y sin gerddoriaeth Gymraeg.
"Mae'n dipyn o jygl," meddai Bethan Mai wrth Cymru Fyw, wrth drafod bod mewn band wrth weithio a magu.
"Ond mae'r gerddoriaeth wedi dod yn organig o hynny i gyd, mae'r plant wedi ysbrydoli'r albym ac maen nhw'n rhan o lot o'r caneuon."
Dos Beb茅s
Dos Beb茅s - Dau Fabi, mewn Sbaeneg - ydi enw albym diweddara'r band, gafodd ei ryddhau yn 2023, a sydd newydd gael ei wobrwyo.
Mae rheswm syml dros ddewis y teitl meddai Bethan:
"Ro'n i'n feichiog gyda Tanwen pan ddechreuon ni recordio ac yn gorffen y recordio jest cyn i Mabon gael ei eni - felly mae'n dal y cyfnod yna."
Un o'r caneuon ydi 155bpm, sef 155 beats per minutes - cyflymder y g芒n.
Y rheswm dros y tempo cyflym? Dyna gyflymder curiad calon un o'r 产别产茅s pan gafodd ei eni. Ac mae sampl o guriad calon Tanwen, sef recordiad o'r tro cyntaf i'w rhieni glywed ei chalon pan aethon nhw i weld y fydwraig, i'w glywed yn y g芒n.
Mae enw'r ail albym hefyd yn egluro pam bod wyth mlynedd wedi mynd heibio ers rhyddhau eu halbym cyntaf VU.
R Williams Parry a UFOs
Mae 'na bynciau amrywiol ar yr albym a'r geiriau yn gallu codi gw锚n. Mae un trac am bwysigrwydd rhannu cacen a phethau da, un arall am deimlo fel R Williams Parry, a Triongl Dyfed yn datgelu mai pobl o'r gofod oedd tu cefn i ymgyrch losgi tai haf Meibion Glynd诺r.
Ond mae bod yn rhiant yn gefndir i ran fawr o Dos Beb茅s - fel Y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Gl芒n ble mae Ynyr yn cydnabod na all o fel dyn wneud unrhyw beth sy'n cymharu efo mam yn dod 芒 bywyd newydd i'r byd - dim hyd yn oed gwneud ras Ironman.
Sut wnaeth Rogue Jones ffurfio?
Priodas 13 mlynedd yn 么l sydd tu cefn i enedigaeth y band - ond nid yr un rhwng y cwpwl sydd yn y gr诺p.
Roedd Ynyr mewn dathliadau priodas ac yn trafod dechrau band gyda'i ffrind. Daeth Bethan, oedd yn adnabod Ynyr ers dyddiau ysgol, yn rhan o'r sgwrs a gofyn a fyddai hi'n cael ymuno.
Dechreuodd y band, o dan yr enw Them Lovely Boys, a dechreuodd perthynas Bethan ac Ynyr. Fe arweiniodd hynny at eu priodas nhw, ac yna'r band Rogue Jones. Yna plant ac albym fuddugol.
O ble maen nhw'n dod?
Daw'r ddau o Gwm Gwendraeth yn wreiddiol. Aeth Bethan i astudio cerdd a drama yn Llundain cyn symud i Gaerdydd, lle'r oedd hi ac Ynyr yn byw cyn symud i Sir Gaerfyrddin lle maen nhw'n magu teulu.
Fore wedi'r seremoni roedd y pedwar yn teithio yn 么l o Gaerdydd gyda Tanwen, sy'n chwech erbyn hyn, wedi gwisgo fel Twm Si么n Cati yn barod i fynd yn syth i ddathliadau Diwrnod T Llew Jones yn yr ysgol.
"Ddaeth nhw (Tanwen a'i brawd Mabon) gyda ni i fod yn rhan o'r dathlu gan eu bod nhw wedi bod gymaint yn rhan o'r albym. Mae'r wobr yn y cefn gyda nhw ac maen nhw'n cwympo mas i weld pwy sy'n cael gafael arno," meddai Bethan wrth deithio n么l.
Sut gerddoriaeth sydd gan Rogue Jones?
Dydi rhoi'r gerddoriaeth mewn bocs ddim yn hawdd. 'Pop eclectig' ydi disgrifiad Bethan Mai, ac mae'r gerddoriaeth yn mynd o drefniadau clasurol i roc trwm, a phopeth yn y canol.
"Maen nhw wedi eu sgwennu o'r galon," meddai Bethan. "Dyw bywyd ddim jest yn un s诺n ac un teimlad. Weithiau mae 'na deimladau mawr, weithiau teimladau bychan a phopeth yn y canol - yn bethau doniol, pethau rhyfedd ac mae ein cerddoriaeth yn efelychu'r profiad o fod yn fyw a chariad. Mae'n anodd rhoi eich bys arno."
Hefyd o ddiddordeb: