大象传媒

Anghenion dysgu: Y system newydd 'ddim yn gweithio'

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dydy'r system newydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ddim yn gweithio fel y dylai, yn 么l undeb athrawon.

Daw rhybudd NEU Cymru wrth i rieni gynnal protest ger y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Mae deiseb 芒 thros 10,000 o enwau wedi ei chyflwyno yn galw am "fynediad cyfartal at gymorth ac addysg o safon".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cadw golwg ar sut mae'r system newydd yn cael ei gweithredu.

'Diffyg amser ac adnoddau'

Ers 2021, mae C么d Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi ei gyflwyno yng Nghymru i geisio gwella'r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond yn 么l Stuart Williams o NEU Cymru, dydy ysgolion ddim yn medru ei weithredu'n iawn oherwydd prinder adnoddau.

"Mae'n haelodau'n dweud wrthym nad ydy'r system newydd yn gweithio achos tydyn nhw ddim yn gallu rhoi'r amser sydd ei angen i sicrhau bod pob plentyn yn cael Cynllun Datblygu Unigol pwrpasol a phenodol iddyn nhw.

"Mae'n medru cymryd hyd at saith awr i sgwennu pob un cynllun, does 'na ddim digon o hyfforddiant ac maen nhw angen cysylltiadau efo'r awdurdod iechyd ac awdurdodau eraill.

"Er mwyn gwneud y c么d yma i weithio, mae ysgolion angen cael llawer mwy o gyllid er mwyn cefnogi anghenion cydlynwyr ADY ac athrawon a chymorthwyr i sicrhau bod ganddyn nhw bob dim maen nhw ei angen i wneud yn si诺r bod y cynllun datblygu unigol yma'n cael eu hysgrifennu'n gywir."

Fis diwethaf fe gasglodd yr arolygwr addysg Estyn fod y ddarpariaeth yn anghyson ers cyflwyno'r drefn newydd, gyda rhai teuluoedd yn cael gwybod yn anghywir gan ysgolion nad oedden nhw'n gymwys.

Fe gasglodd Estyn hefyd bod "llwyth gwaith ychwanegol sylweddol" i athrawon oherwydd y newid.

Mae ymgyrchwyr yn honni bod rhagor o ddisgyblion ADY yng Nghymru'n cael cam ac mae disgwyl protest y tu allan i'r Senedd ddydd Gwener.

Mae'r ddeiseb sydd wedi ei chyflwyno i'r Senedd yn dweud bod ysgolion yn medru dehongli Cynllun Datblygu Unigol "heb atebolrwydd" na "chysylltiad 芒 therapyddion iechyd arbenigol am arweiniad".

Mae'r ddeiseb yn galw am:

  • C么d ymarfer cyffredinol i ddarparu addysg gynhwysol o safon i bob disgybl ADY;

  • Lleoliadau addysgol sy'n cynnig darpariaeth ac adnoddau priodol a staff cymwys i wneud y system yn deg ac yn ddibynadwy ac i'w galluogi i ateb y galw cynyddol;

  • Cydweithio agosach rhwng addysg ac iechyd;

  • Hyfforddiant arbenigol gorfodol a chymorth i athrawon a'u staff.

Yn 么l Stuart Williams o undeb NEU Cymru, mae rhai athrawon yn gadael oherwydd y gwaith ychwanegol mae'r c么d newydd wedi ei greu.

"'De ni wedi siarad efo Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i wneud yn si诺r bod y broses yn haws i athrawon - sy'n mynd i gadw athrawon mewn gwaith - achos mae 'na lot o athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd y baich gwaith ychwanegol mae hyn wedi ei greu."

"Ac oherwydd y baich gwaith yna, dydy'r disgyblion ddim yn derbyn yr addysg maen nhw ei angen ac yn ei haeddu.

"Felly i sicrhau bod hyn yn gweithio mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o gyllid iddo fo a mwy o gefnogaeth i athrawon."

'Cyfiawnder a chynhwysiant yn ganolog'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi cyhoeddi'n ddiweddar bydd 拢20m ar gael i wneud mannau dysgu yn fwy hygyrch, creu ardaloedd tawel i'r synhwyrau, gwella a phrynu offer newydd a gwella'r ddarpariaeth ADY trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd: "Mae cyfiawnder a chynhwysiant yn ganolog i'n diwygiadau addysg sy'n ceisio gwella canlyniadau i bob disgybl."

Dywedodd bod y corff arolygu addysg, Estyn, wedi adolygu'r system newydd ac wedi casglu ar y cyfan bod "disgyblion yn yr ysgolion dan sylw yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol" a bod Estyn wedi nodi "meysydd lle'r oedd angen gweithredu a gwella gan awdurdodau lleol ac ysgolion".

"Rydym wedi buddsoddi 拢10m yn uniongyrchol mewn ysgolion eleni i'w galluogi i gynllunio a chefnogi'n well anghenion dysgwyr ADY."

"Byddwn yn parhau i adolygu addysg y proffesiwn ADY wrth i'r diwygiadau barhau."